Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

46.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

47.

Cofnodion pdf icon PDF 92 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Tachwedd 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2022, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Linda Thomas a Bernie Attridge.

 

Cofnod 37: Gwaredu Asedau a Derbyniadau Cyfalaf a gynhyrchwyd yn 2021/22 - Gofynnodd Y Cynghorydd Andrew Parkhurst am eglurhad ar y gwahaniaeth rhwng ffigyrau gwerthiant asedau wedi’u hatodi i’r adroddiad o’i gymharu â’r grynodeb llawn a ddosbarthwyd wedi hynny a oedd yn cynnwys y rheiny wedi’u tynnu o’r ddogfen wreiddiol oherwydd sensitifrwydd masnachol.   Gofynnodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i’r Cynghorydd Parkhurst ei e-bostio ar wahân fel bod ymateb yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor. [1]

 

Cofnod 44: Maes Gwern - cyfeiriodd y Cynghorydd Parkhurst at swyddogion yn cytuno i ystyried y ffordd orau i adrodd ar dderbyniadau cyfalaf heb dorri cyfrinachedd masnachol.   Cynghorodd y Prif Weithredwr fod swyddogion yn adrodd yn ôl ar hynny mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y cofnodion fel cofnod cywir.



[1] Mae’r grynodeb llawn o’r holl asedau yn adlewyrchiad o gyfanswm y gwerthiant o £2,028,000 ar gyfer 2019/20, £1,977,000 ar gyfer 2020/21 a £1,935,000 ar gyfer 2021/22

48.

Datganiad Cyfrifon 2021/22 pdf icon PDF 373 KB

Cyflwyno fersiwn derfynol wedi’i harchwilio o Ddatganiad Cyfrifon 2021/22 i gael eu cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fersiwn derfynol Datganiad Cyfrifon 2021/22 gan ymgorffori newidiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru yn ystod yr archwiliad.  Atgoffodd y Pwyllgor, fel yr adroddwyd yn y cyfarfod blaenorol, bod y dyddiad cau statudol a gafodd ei ymestyn ar gyfer cyhoeddi’r cyfrifon terfynol wedi’u harchwilio yn cael ei ymestyn ymhellach i 31 Ionawr 2023, yn bennaf oherwydd problem cyfrifeg technegol ar asedau isadeiledd.

 

Wrth grynhoi adroddiad Archwilio Cymru dyma Matthew Edwards yn diolch i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, y Rheolwr Cyllid Strategol a’r tîm am eu cefnogaeth wrth weithio’n effeithiol trwy’r problemau sy’n codi yn ystod yr archwiliad oedd yn adlewyrchiad o berthynas waith bositif.   Tynnodd sylw at y lefel o fateroliaeth a gafodd ei bennu ar gyfer yr archwiliad a’r meysydd o ddiddordeb cyffredinol lle mae lefelau is yn berthnasol.   Cadarnhaodd fod y cyfrifon wedi cael eu paratoi i safon dda a bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyflwyno barn archwilio ddiamod.  Darparodd eglurhad ar ddau broblem swyddogol o’r archwiliad (Dangosyn 2) a oedd yn gyson gydag awdurdodau eraill a chadarnhawyd fod y rhain yn ddiwygiadau cyfrifeg technegol a oedd wedi cael eu datrys yn foddhaol a ddim yn cael effaith ar sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor.

 

Wrth adleisio’r teyrnged a delir i swyddogion y Cyngor a chydweithwyr o Archwilio Cymru, croesawodd y Cadeirydd barhad i’r ymrwymiad bositif rhwng y ddau sefydliad i fynd i’r afael â’r problemau a nodir.

 

Roedd Allan Rainford yn cydnabod y cymhlethdod ynghlwm â llunio’r cyfrifon.   Wrth ymateb i gwestiwn ar Nodyn 18 fe ddarparodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar gynnwys y trosglwyddiadau rhwng y Cyngor a phartïon perthnasol o fewn y cyfrifon.   Ar gwestiynau pellach fe gadarnhaodd Matthew Edwards nad oedd ganddo bryderon a bod Sir y Fflint yn un o’r mwyafrif o gynghorau ar draws Cymru oedd yn disgwyl cymeradwyo eu cyfrifon o fewn y dyddiad cau statudol a ddiwygiwyd.   Gyda threfniadau gwerth am arian, nodwyd fod y Crynodeb Archwilio Blynyddol yn cael ei rannu mewn cyfarfod i ddod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst os fyddai modd rhannu’r gofrestr asedau gyda’r Pwyllgor.   Cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai hynny’n cael ei ddarparu ar yr amod ei fod yn cael ei gadw’n gwbl gyfrinachol oherwydd sensitifrwydd masnachol. [1]  Yn ôl cais i rannu’r gofrestr o gysylltiadau ar gyfer uwch swyddogion, cynghorodd (er bod cofrestr yr Aelodau yn ddogfen gyhoeddus) nad oedd swyddogion yn destun cofrestr gorfodol ac felly byddai angen rhannu’r wybodaeth ar sail wirfoddol a gyda rheswm da oherwydd y wybodaeth bersonol ynghlwm.

 

Dywedodd y Cynghorydd Parkhurst mai’r rheswm dros wneud y cais oedd i sicrhau’r Pwyllgor fod unrhyw wrthdaro buddiannau posib yn cael ei reoli’n gywir a dywedodd fod y nodiadau i’r datganiadau ariannol craidd ddim yn adlewyrchu’r natur wirfoddol o gofrestr diddordebau’r swyddog.

 

Cynghorodd y Prif Swyddog fod yna ddim gofyniad i’r trefniant gael ei nodi yn y cyfrifon.  Eglurodd mai cyfrifoldeb y swyddogion unigol oedd rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau a chyfeiriodd at y Cod Ymddygiad a oedd yn destun adolygiad rheolaidd gan y Pwyllgor  ...  view the full Cofnodion text for item 48.

49.

Strategaeth Newid Hinsawdd pdf icon PDF 165 KB

Adrodd ar y Strategaeth Newid Hinsawdd ar gyfer 2022-2030.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad ar y cynnydd gyda’r Strategaeth Newid Hinsawdd sydd wedi cael ei fabwysiadu gan y Cabinet yn Chwefror 2022.   Roedd y cynllun gweithredu sy’n cyd-fynd yn amlinellu’r cynnydd wrth greu Cyngor carbon sero net erbyn 2030 ac wedi’i rannu yn themâu allweddol.   Yn ogystal â phenodi swyddog profiadol, byddai sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd (o’r cyn Fwrdd Rhaglen Newid Hinsawdd) yn helpu i fewnosod newid hinsawdd ar draws y sefydliad.

 

Cyflwynwyd y Pwyllgor i Alex Ellis, y Rheolwr Rhaglen Lleihau Carbon a Newid Hinsawdd, a wnaeth cyflwyniad yn cynnwys:

 

·         Cyd-destun

·         Cyflawniadau hyd yma

·         Datblygiad y Strategaeth - llinell sylfaen ac ymrwymiad

·         Cynllun Gweithredu Di-garbon Net

·         Adnodd Staff Presennol

·         Strwythur Llywodraethu

·         Llinell Amser hyd at 2030

·         Adroddiad Cynnydd 2021/22

·         Argymhellion

·         Blaenoriaethau ar gyfer 2023-24

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Parch Brian Harvey, siaradodd y Rheolwr Rhaglen am yr ymwybyddiaeth cyhoeddus cynyddol o’r problemau ymysg pobl ifanc a’r cynlluniau i ymrwymo ymhellach.   Cyfeiriodd y Prif Swyddog at weithio gyda phartneriaid a chyn weithdai Aelodau i hyrwyddo newid positif.

 

Yn dilyn cwestiwn gan Allan Rainford ar benderfyniadau buddsoddi, cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen at waith rhagweithiol i adnabod cyfleoedd ariannu yn cynnwys prosiectau ar y cyd a dewisiadau Buddsoddi i Arbed, er mwyn cyflawni buddion canolig i hirdymor.   Mae cyflwyno’r hyfforddiant llythrennedd carbon i Aelodau Etholedig ac uwch reolwyr yn helpu rhanddeiliaid i ddeall y buddion o’r buddsoddiadau.

 

Fel Is-gadeirydd o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, fe gyfeiriodd y Cynghorydd Allan Marshall at yr arbedion â gyflawnwyd drwy reoli tymheredd gwresogi yn yr adeiladau.   Mae’r Rheolwr Rhaglen yn cyfeirio at y mesurau rheoli tymheredd mewn stoc adeiladau annomestig a chadarnhaodd fod eiddo domestig y Cyngor heb eu cynnwys yn sgôp y data allyriadau carbon.

 

Gwnaeth y Prif Swyddog (Llywodraethu) sylwadau ar gamau gweithredu i leihau allyriadau carbon o weithgareddau caffael a oedd wedi cynyddu yn ystod 2021/22.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at yr angen am fwy o eglurhad ar y cerrig milltir yn y cynllun gweithredu i gyflawni’r nodau yn y strategaeth, a nodwyd hynny gan y Rheolwr Rhaglen.   Wrth ymateb i’r pryderon am y lefel o ffocws ar gaffael, cyfeiriwyd at y fethodoleg ar adrodd ar allyriadau carbon sydd wedi cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am fynychu ac am y cyflwyniad manwl.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi gan y Pwyllgor;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwelliannau i gyfathrebu mewnol er mwyn codi ymwybyddiaeth o gynnydd cadarnhaol y Cyngor wrth symud ymlaen at gyflawni ei uchelgeisiau newid hinsawdd;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith o gychwyn ymwreiddio mesurau carbon i mewn i brosesau caffael o fewn portffolio peilot y Cyngor;

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r achos dros swydd ac adnoddau Buddsoddi i Arbed er mwyn cyflwyno Systemau Rheoli Adeiladau o fewn mwy o’n hadeiladau, i wella’r broses o reoli’r defnydd o ynni; a

 

(e)       Bod y  ...  view the full Cofnodion text for item 49.

50.

Llythyr Blynyddol 2021-22 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2022-23 (Ebrill-Medi 2022) pdf icon PDF 189 KB

Rhannu Llythyr Blynyddol 2021-22 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor rhwng y cyfnod 1 Ebrill - 30 Medi 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i rannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru oedd yn crynhoi perfformiad y Cyngor ar y cwynion a ymchwiliwyd iddynt yn 2021-22.

 

Cyflwynwyd y Pwyllgor i Rebecca Jones, y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid a oedd hefyd wedi’i phenodi fel Cadeirydd y Gr?p Cwynion Cymru Gyfan sydd â’r nod i rannu arfer dda ac adnabod gwelliannau wrth fynd i’r afael â chwynion.   Wrth grynhoi prif adrannau’r adroddiad hwn, eglurodd fod y cynnydd mewn cwynion newydd yn erbyn y Cyngor yn ystod 2021/22 yn cyd-fynd â’r duedd genedlaethol ac yn debygol o fod oherwydd bod cwynion wedi cael eu hatal oherwydd y pandemig.   Roedd y mwyafrif o’r cwynion hynny wedi’u cau oherwydd awdurdodaeth, eu bod yn gynamserol neu wedi’u cau ar ôl cael eu hystyried i ddechrau gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Mae adolygiad o wybodaeth gyhoeddus i gynyddu ymwybyddiaeth o weithdrefn gwynion y Cyngor yn helpu i leihau’r nifer o gwynion a chamau gweithredu cynamserol fel bod cwynwyr yn cael gwybod am unrhyw gynnydd a fyddai’n helpu i fynd i’r afael â nifer o achosion wedi’u dyblygu.   Mae gwelliannau eraill yn cynnwys cynnydd da gyda’r rhaglen hyfforddiant gorfodol, cyflwyno polisi newydd ar reoli cyswllt cwsmer a sefydlu rheolau t? ar ymddygiad disgwyliedig ar gyfer cyswllt gyda’r Cyngor ar gyfryngau cymdeithasol.   Mae crynodeb o berfformiad yn ystod yr hanner cyntaf o 2022/23 yn dynodi cynnydd bychan yn y cwynion a dderbyniwyd hyd yma a gwell ymatebion i gwynion ar draws portffolios.

 

Roedd Matthew Harri, Pennaeth yr Awdurdod Safonau Cwynion, wedi mynychu’r cyfarfod ac yn croesawu buddsoddiad y Cyngor mewn hyfforddiant a’i effaith ar atgyfeiriadau i’r Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a lefelau ymyrraeth yn ystod hanner cyntaf 2022/23.   Cyfeiriodd at yr ymrwymiad barhaus i gefnogi rhaglen hyfforddiant y Cyngor a’r arweiniad statudol o fewn model Cymru Gyfan sydd gyda’r nod o safoni’r broses o ddelio â chwynion ledled Cymru.

 

Gofynnodd y Parch Brian Harvey sut y defnyddir y weithdrefn i wella gwasanaethau i gwsmeriaid.   Cynghorodd swyddogion fod rhannu data perfformiad gyda swyddogion allweddol yn helpu i’w haddysgu ac i ddadansoddi tueddiadau er mwyn targedu gwelliannau, gan nodi fod natur rhai o’r cwynion y tu allan i reolaeth y Cyngor.

 

Croesawodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst y gwaith sy’n cael ei wneud i wella’r broses o ymdrin â chwynion ac i roi cyhoeddusrwydd i weithdrefn gwynion y Cyngor.   Wrth ymateb i gwestiwn ar gwynion gan Aelodau i swyddogion fe gynghorodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid fod data perfformiad yn seiliedig ar gwynion wedi’i hadrodd yn uniongyrchol i’r Tîm Cwynion Corfforaethol.

 

Wrth ymateb i sylwadau ar gymharu perfformiad ar draws Cymru fe ddarparodd Matthew Harris gyd-destun ar gyfran y cwynion a gafodd eu cyfeirio at Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac fe groesawodd y lleihad mewn atgyfeiriadau yn Sir y Fflint ar gyfer hanner cyntaf 2022/23 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.   Cytunodd gyda’r pwynt a godwyd gan y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) fod adroddiadau diddordeb y cyhoedd yn codi proffil cyhoeddus Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus  ...  view the full Cofnodion text for item 50.

51.

Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 - Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys, Arferion ac Atodlenni 2023 i 2026 a Diweddariad Chwarterol 3 2022/23 pdf icon PDF 165 KB

(1) Cyflwyno Strategaeth Rheoli Trysorlys drafft 2023/24 i’r Aelodau er mwyn derbyn eu sylwadau a’u hargymhellion cyn ei chyflwyno i'r Cabinet ei chymeradwyo (2) Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft ar gyfer 2023/24 a dogfennau cysylltiedig i'w hadolygu a'u hargymell i'r Cabinet, ynghyd â diweddariad chwarterol ar weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23 er gwybodaeth.

 

Adroddodd y swyddog nad oedd newidiadau sylweddol i’r strategaeth ac fe dynnodd sylw at feysydd allweddol ar y cyd-destun economaidd, sefyllfa trysorlys ddisgwyliedig y Cyngor gyda ffocws ar fenthyca a pharhad y strategaeth fuddsoddi.     Adroddwyd ar y sefyllfa o ran buddsoddiadau ym mis Rhagfyr 2022 yn y diweddariad chwarterol ar gyfer 2022/23, ynghyd â phortffolios benthyca byrdymor a hirdymor.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, fe gynghorodd swyddogion er mai’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus oedd yr opsiwn benthyca o ddewis, roedd y posibilrwydd o gyflwyno Bondiau yn cael ei ystyried hefyd mewn cydweithrediad â chyngor gan Arlingclose.  Cafodd ei egluro hefyd nad oedd disgwyl newidiadau pellach i strwythur y tîm wedi’i gynnwys yn yr Atodlenni Ymarfer.

 

Cytunodd Swyddogion i edrych ar awgrym y Parch Brian Harvey y dylai cyfeiriad at y Strategaeth Newid Hinsawdd gael ei gynnwys yn adran 1.03 o Ddatganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys, yn ogystal â hynny sydd wedi’i gynnwys yn barod yn y Strategaeth.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar gymal 3 o’r Cod Rheoli’r Trysorlys wedi’i gyfeirio ato yn y Canllaw Ymarferol i Bwyllgorau Archwilio’r Awdurdodau Lleol, cytunodd swyddogion i rannu ymateb ysgrifenedig i egluro rolau’r Pwyllgor a Cabinet i adrodd ar reoli’r trysorlys.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a’r Cynghorydd Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl adolygu Strategaeth ddrafft Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24, a’r dogfennau amgaeedig, nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’w hadrodd i’r Cabinet ar 23 Chwefror 2023; a

 

(b)       Nodi’r diweddariad chwarterol yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn 2022/23.

52.

Cod Llywodraethu Corfforaethol pdf icon PDF 123 KB

Cadarnhau’r adolygiad o’r Cod Llywodraethu Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar adolygiad blynyddol y Cod Llywodraethu Corfforaethol cyn i'r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried ym mis Mawrth.   Fe dynnodd sylw at y meysydd allweddol yn cynnwys rolau’r Gweithgor Llywodraethu Corfforaethol a’r saith egwyddor o arfer da sy’n berthnasol i’r cod.

 

Cynghorodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg fod newid bychan lle mae cyfeiriad at ymateb mewn argyfwng yn sgil y pandemig wedi cael ei dynnu allan.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Cod Llywodraethu Corfforaethol fel y’i diwygiwyd i gael ei fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.

53.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 92 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad rheolaidd yn dangos cynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.  Ers yr adroddiad diwethaf nid oedd unrhyw adroddiadau Coch (sicrwydd cyfyngedig) wedi cael ei gyflwyno ac roedd 35 allan o’r 58 o gamau gweithredu hwyr o flaenoriaeth uchel neu ganolig.

 

Yn ôl cais gan y Cadeirydd fe ddarparodd y swyddog ddiweddariad ar y cynnydd ar gyfer y camau gweithredu o flaenoriaeth uchel hwyr gan gynnwys y rheiny oedd yn h?n na chwe mis ers y dyddiad cydymffurfio gwreiddiol.  Yn dilyn adroddiad ar drefniadau cytundebol Maes Gwern yn y cyfarfod blaenorol, rhoddwyd diweddariad positif manwl ar y sefyllfa bresennol yn cynnwys derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd hyd yma.   Ar Drwyddedau ‘O’, roedd dyddiadau cydymffurfio wedi cael eu hymestyn oherwydd effaith problemau staffio yng Ngwasanaethau Stryd a Chludiant a byddai’n cael ei ddatblygu yn dilyn ymarfer recriwtio presennol.   Wrth gytuno gyda’r Prif Swyddog, byddai’r tîm Archwilio Mewnol yn adnabod ffyrdd o ychwanegu gwerth i’r gwasanaeth hynny trwy adolygiad darbodus yng Nghynllun Archwilio blwyddyn nesaf.

 

Cytunwyd fod diweddariad ar gynnydd gyda chamau gweithredu o’r adolygiad Digartrefedd a Llety Dros Dro yn cael ei rannu unwaith y bydd ar gael, gan nodi’r pwysau presennol o fewn y gwasanaeth hynny.

 

Wrth ymateb i’r cwestiynau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, fe eglurodd y swyddog fod gohirio’r archwiliad ar Drefniadau Adran 106 oherwydd adolygiad rheoli ac yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Archwilio 2023/24.  Eglurodd y broses o annog a chefnogi swyddogion allweddol i ddiweddaru’r system ar gamau gweithredu hwyr a rhoddodd eglurhad ar y rhesymau y tu ôl i rai o’r adolygiadau yn cynnwys dyddiadau cydymffurfio wedi’u hadolygu a’u hymestyn.   Ar y defnydd o ymgynghorwyr fe rannodd y cefndir ar faterion hanesyddol cyn cyflwyno prosesau wedi’u cryfhau.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Parchedig Brian Harvey a’r Cynghorydd Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

54.

Olrhain Gweithred y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 80 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

55.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 85 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a’r Parch Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

56.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Andrew Parkhurst i wahardd y wasg a’r cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 a 13 o Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

57.

Ysgol Gynradd Drury - Adroddiad dilynol Rheolaeth Ariannol

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar gamau gweithredu o’r adroddiad Archwilio Mewnol o Ysgol Gynradd Drury.

Cofnodion:

Mae’r Pwyllgor wedi derbyn adroddiad dilynol ar y cynnydd gyda chamau gweithredu yn berthnasol i argymhellion yn codi o adroddiad Archwiliad Mewnol a rannwyd ym Mai 2022.

 

Wrth gymeradwyo’r argymhelliad fe groesawodd y Cynghorydd Bernie Attridge y cynnydd oedd wedi cael ei wneud.   Eiliwyd hynny gan Allan Rainford.

 

Gofynnodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn cael ei hysbysu pan fyddai’r cam gweithredu wedi cael ei gwblhau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cynnydd a wnaed mewn gweithredu’r camau o’r adroddiad gwreiddiol yn cael ei nodi.

58.

Aelodau O'r Cyhoedd A'r Wasg Hefyd Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.