Agenda item

Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 - Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys, Arferion ac Atodlenni 2023 i 2026 a Diweddariad Chwarterol 3 2022/23

(1) Cyflwyno Strategaeth Rheoli Trysorlys drafft 2023/24 i’r Aelodau er mwyn derbyn eu sylwadau a’u hargymhellion cyn ei chyflwyno i'r Cabinet ei chymeradwyo (2) Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2022.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft ar gyfer 2023/24 a dogfennau cysylltiedig i'w hadolygu a'u hargymell i'r Cabinet, ynghyd â diweddariad chwarterol ar weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23 er gwybodaeth.

 

Adroddodd y swyddog nad oedd newidiadau sylweddol i’r strategaeth ac fe dynnodd sylw at feysydd allweddol ar y cyd-destun economaidd, sefyllfa trysorlys ddisgwyliedig y Cyngor gyda ffocws ar fenthyca a pharhad y strategaeth fuddsoddi.     Adroddwyd ar y sefyllfa o ran buddsoddiadau ym mis Rhagfyr 2022 yn y diweddariad chwarterol ar gyfer 2022/23, ynghyd â phortffolios benthyca byrdymor a hirdymor.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, fe gynghorodd swyddogion er mai’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus oedd yr opsiwn benthyca o ddewis, roedd y posibilrwydd o gyflwyno Bondiau yn cael ei ystyried hefyd mewn cydweithrediad â chyngor gan Arlingclose.  Cafodd ei egluro hefyd nad oedd disgwyl newidiadau pellach i strwythur y tîm wedi’i gynnwys yn yr Atodlenni Ymarfer.

 

Cytunodd Swyddogion i edrych ar awgrym y Parch Brian Harvey y dylai cyfeiriad at y Strategaeth Newid Hinsawdd gael ei gynnwys yn adran 1.03 o Ddatganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys, yn ogystal â hynny sydd wedi’i gynnwys yn barod yn y Strategaeth.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar gymal 3 o’r Cod Rheoli’r Trysorlys wedi’i gyfeirio ato yn y Canllaw Ymarferol i Bwyllgorau Archwilio’r Awdurdodau Lleol, cytunodd swyddogion i rannu ymateb ysgrifenedig i egluro rolau’r Pwyllgor a Cabinet i adrodd ar reoli’r trysorlys.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a’r Cynghorydd Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl adolygu Strategaeth ddrafft Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24, a’r dogfennau amgaeedig, nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’w hadrodd i’r Cabinet ar 23 Chwefror 2023; a

 

(b)       Nodi’r diweddariad chwarterol yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn 2022/23.

Dogfennau ategol: