Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod aron 17 Tachwedd 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Joe Johnson ac Arnold Wolley.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir. |
|
(1) Cyflwyno Strategaeth Rheoli Trysorlys drafft 2022/23 i’r Aelodau er mwyn derbyn eu sylwadau a’u hargymhellion cyn ei chyflwyno i'r Cabinet ei chymeradwyo (2) Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2021. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft ar gyfer 2022/23 a dogfennau cysylltiedig i'w hadolygu a'u hargymell i'r Cabinet, ynghyd â diweddariad chwarterol ar weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021/22 er gwybodaeth.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol a thynnodd sylw at feysydd allweddol yn y cyd-destun economaidd, canolbwyntio mwy ar fenthyca, newidiadau i’r terfynau cyd-barti a pharhau â’r strategaeth fenthyca. Yn ychwanegol, roedd gwaith yn mynd rhagddo gydag Arlingclose (ymgynghorwyr rheoli trysorlys y Cyngor) i archwilio opsiynau buddsoddi a chefnogi newid hinsawdd a chwrdd ag anghenion y Cod Rheoli’r Trysorlys diwygiedig yn y dyfodol, y mae’r Cyngor ar y cyfan yn cydymffurfio gydag eisoes. Adroddwyd ar y sefyllfa o ran buddsoddiadau ym mis Rhagfyr 2021 yn y diweddariad chwarterol ar gyfer 2021/22, ynghyd â phortffolios benthyca byrdymor a hirdymor.
Gofynnodd Sally Ellis am y cynnydd mewn terfynau buddsoddi gyda chyd-bartïon wedi i Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru (LlC) ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai argaeledd y cyllid grant ar ôl y cyfnod hwn ar gyfer elfennau o’r Gronfa Caledi yn cynnig hyblygrwydd a bod manylion am fuddsoddiadau risg isel gyda chyd-bartïon yn rhan o’r diweddariadau chwarterol i’r Pwyllgor. Ymhellach, roedd y strategaeth yn adlewyrchu’r angen am fenthyca hir-dymor parhaus a gwnaethpwyd penderfyniadau o’r fath yn ôl yr angen a chyda chrebwyll cytbwys. Caiff diweddariad ar weithgareddau benthyca ers mis Rhagfyr ei gynnwys yn yr adroddiad sefyllfa derfynol.
Ynghylch y newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi rhad-ar-garbon, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod mwy o gyfleoedd buddsoddi amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) ar gael a bod swyddogion yn gweithio’n agos ag Arlingclose ar hyn.
Mewn ymateb i’r sylwadau gan y Cadeirydd ar y targedau newid hinsawdd gan Lywodraeth Cymru, siaradodd y Rheolwr Cyllid Strategol am y gwahanol weithgareddau ar draws y Cyngor er mwyn buddsoddi mewn cynlluniau lleihau carbon. Fel yr awgrymwyd gan Sally Ellis, cytunodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiad yn y dyfodol yn cael ei rannu â’r Pwyllgor, ar y cynnydd gyda’r gwaith o dan thema’r Gymdeithas Werdd a’r Amgylchedd er mwyn mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd a datgarboneiddio.
Gofynnodd Allan Rainford am effaith y rhagolygon cyfraddau llog ar fenthyca hirdymor a’r Strategaeth Gyfalaf. Siaradodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol am y dull darbodus a ddefnyddiwyd i gyllidebu ar gyfer y cyfrif buddsoddi benthyciadau canolog a dywedodd bod cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’r Rhaglen Gyfalaf ym mis Rhagfyr wedi caniatáu cynnwys canlyniadau refeniw yn y rhagolwg cyn y cam olaf o osod y gyllideb ym mis Chwefror. Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar y benthyciad newydd a ddefnyddiwyd eleni trwy’r cynllun Buddsoddi i Arbed.
Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r swyddogion am yr adroddiad manwl a oedd yn dangos tryloywder wrth wneud penderfyniadau o ran rheoli’r trysorlys.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Sally Ellis a’u heilio gan Janet Axworthy.
PENDERFYNWYD:
(a) Ar ôl adolygu Strategaeth ddrafft Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23, nid oedd gan y ... view the full Cofnodion text for item 48. |
|
Cod Llywodraethu Corfforaethol PDF 124 KB Cadarnhau’r adolygiad o'r Cod Llywodraethu Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar adolygiad blynyddol y Cod Llywodraethu Corfforaethol cyn i'r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried ym mis Mehefin. Tynnodd sylw at Adran 2 y ddogfen, sy’n myfyrio ar y newidiadau o ran trefniadau llywodraethu yn ystod y pandemig.
Croesawodd Sally Ellis argaeledd gwybodaeth ynghylch gwaith y Pwyllgor Adfer ar wefan y Cyngor. Nodwyd ei hawgrym i’w wneud yn fwy eglur yn y Cod gan swyddogion, gan gynnwys y Prif Weithredwr, a ddywedodd bod tryloywder gwybodaeth o’r fath yn cydymffurfio â gofynion y Cod.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Wolley a’i eilio gan y Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Cod Llywodraethu Corfforaethol fel y’i diweddarwyd i gael ei fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020/21 Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn PDF 83 KB Darparu diweddariad i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o'r cynnydd a wnaed yn erbyn rheoli'r materion a nodwyd o fewn Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020/21. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad cynnydd canol blwyddyn ar y meysydd i’w gwella a nodwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2020/21, a oedd yn dangos cynnydd cadarnhaol o ran mynd i’r afael â’r materion a nodwyd.
Eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, er bod materion llywodraethu wedi’u nodi yn ystod y broses, bod materion strategol o’r gofrestr risg yn berthnasol dros y tymor hwy. Dywedodd bod yr unig risg ‘coch’ sy’n weddill oherwydd oedi wrth geisio cymeradwyaeth reoleiddiol (cynllunio; draenio; trwydded amgylcheddol) er mwyn datblygu prosiectau isadeiledd allweddol yn cael ei fonitro’n ofalus.
Diolchodd Sally Ellis i’r swyddogion am yr adroddiad a oedd yn darparu sicrwydd i’r Pwyllgor. Ynghylch datblygu cynllun gweithredu ar gyfer gwella’r broses o ymgysylltu ac ymgynghori, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad ar waith y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol ochr yn ochr â pharatoadau ar gyfer hunanasesiad corfforaethol a adlewyrchir yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Soniodd Allan Rainford bod posibilrwydd i rai materion barhau mewn i 2022/23, yn benodol y rhai a effeithir gan bwysau economaidd. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yntau’n rhannu’r pryderon hyn, ac eglurodd bod adnoddau ychwanegol wedi’u dyrannu i nifer o feysydd gwasanaeth megis casglu rhent, lle mae ymyrryd â chwsmeriaid yn gynnar wedi helpu i osgoi uwchgyfeirio.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Allan Rainford a’i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Derbyn adroddiad diweddariad ar gynnydd canol blwyddyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. |
|
Siarter Archwilio Mewnol PDF 82 KB Amlinellu’r Siarter Archwilio Mewnol (sydd wedi ei ddiweddaru) i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad i ystyried canlyniad yr adolygiad diweddaraf o’r Siarter er mwyn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol a rheoliadol. Nid oedd unrhyw newidiadau sylweddol heblaw ar gyfer adlewyrchu newid teitlau swyddi a Phwyllgorau ynghyd â fformatio cyffredinol.
Mewn ymateb i’r cwestiynau gan Allan Rainford, rhannwyd diweddariad ar yr adnoddau presennol o fewn Archwilio Mewnol a rhoddwyd eglurhad ar ofynion cymhwyster proffesiynol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol. |
|
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 86 KB CyflwynoDiweddariad i'r Pwyllgor am gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y diweddariad rheolaidd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol. Ers yr adroddiad diwethaf, ni chyhoeddwyd unrhyw adroddiadau Coch (sicrwydd cyfyngedig) a rhannwyd manylion ynghylch y tri adroddiad Oren/Coch (rhywfaint o sicrwydd). Wrth olrhain camau gweithredu, gwelwyd cynnydd yn y nifer o gamau gweithredu hwyr a chytunwyd ar broses ar gyfer adrodd yn rheolaidd i Dîm y Prif Swyddog ac ymweliad gan Brif Archwilydd bob tri mis er mwyn mynd i’r afael â’r mater. Yn gyffredinol, roedd dangosyddion perfformiad ar gyfer y gwasanaeth yn parhau’n gadarnhaol, er i ffactorau allanol gael rhywfaint o effaith. Rhoddwyd diweddariad hefyd ar symudiadau o fewn y Cynllun presennol a oedd yn gwneud cynnydd da.
Gofynnodd Sally Ellis a oedd gwybodaeth ar adroddiadau Oren/Coch yn cynnwys manylion am drefniadau ac amlder adrodd. Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg i gyfeirio’r adroddiadau Oren/Coch (yn ogystal â’r adroddiadau Coch) at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol ac y byddai’n sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Allan Rainford a’i eilio gan Janet Axworthy.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad. |
|
Hysbysu'rPwyllgor o'r camau gweithredu sy'n deillio o bwyntiau a godwyd yng nghyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Archwilio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Joe Johnson a’i eilio gan Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 83 KB YstyriedRhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried. Yn unol â chais Sally Ellis, cytunodd i gysylltu â swyddogion er mwyn dwyn yr adroddiad ar Gwynion Corfforaethol ymlaen a threfnu eitem ar Leihau Carbon ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
Yngl?n ag adroddiad Archwilio Cymru ar Gomisiynu Lleoliadau i Bobl H?n mewn Cartrefi Gofal, sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Mawrth, eglurodd Gwilym Bury bod adroddiadau rhanbarthol a chenedlaethol ar gael ar wefan Archwilio Cymru.
Diolchodd Allan Rainford i’r swyddogion am drefnu’r eitem ar Gyllideb 2023/24 ar gyfer mis Medi ac awgrymodd ei ddwyn ymlaen os oedd hynny’n bosibl. Atgoffodd y swyddogion mai pwrpas yr adroddiad oedd galluogi’r Pwyllgor i ddeall y risgiau a’r heriau ar y cam hwnnw o broses y gyllideb.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Arnold Wolley a’u heilio gan y Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
(a) Diwygio’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol yn ôl yr angen; ac
(b) Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
PRESENOLDEB AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |