Agenda item

Strategaeth Rheoli Trysorlys 2022/23 - Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys, Arferion ac Atodlenni 2022 i 2025 a Diweddariad Chwarterol 3 2021/22

(1) Cyflwyno Strategaeth Rheoli Trysorlys drafft 2022/23 i’r Aelodau er mwyn derbyn eu sylwadau a’u hargymhellion cyn ei chyflwyno i'r Cabinet ei chymeradwyo (2) Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2021.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft ar gyfer 2022/23 a dogfennau cysylltiedig i'w hadolygu a'u hargymell i'r Cabinet, ynghyd â diweddariad chwarterol ar weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021/22 er gwybodaeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol a thynnodd sylw at feysydd allweddol yn y cyd-destun economaidd, canolbwyntio mwy ar fenthyca, newidiadau i’r terfynau cyd-barti a pharhau â’r strategaeth fenthyca.   Yn ychwanegol, roedd gwaith yn mynd rhagddo gydag Arlingclose (ymgynghorwyr rheoli trysorlys y Cyngor) i archwilio opsiynau buddsoddi a chefnogi newid hinsawdd a chwrdd ag anghenion y Cod Rheoli’r Trysorlys diwygiedig yn y dyfodol, y mae’r Cyngor ar y cyfan yn cydymffurfio gydag eisoes.   Adroddwyd ar y sefyllfa o ran buddsoddiadau ym mis Rhagfyr 2021 yn y diweddariad chwarterol ar gyfer 2021/22, ynghyd â phortffolios benthyca byrdymor a hirdymor.

 

Gofynnodd Sally Ellis am y cynnydd mewn terfynau buddsoddi gyda chyd-bartïon wedi i Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru (LlC) ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai argaeledd y cyllid grant ar ôl y cyfnod hwn ar gyfer elfennau o’r Gronfa Caledi yn cynnig hyblygrwydd a bod manylion am fuddsoddiadau risg isel gyda chyd-bartïon yn rhan o’r diweddariadau chwarterol i’r Pwyllgor.   Ymhellach, roedd y strategaeth yn adlewyrchu’r angen am fenthyca hir-dymor parhaus a gwnaethpwyd penderfyniadau o’r fath yn ôl yr angen a chyda chrebwyll cytbwys.   Caiff diweddariad ar weithgareddau benthyca ers mis Rhagfyr ei gynnwys yn yr adroddiad sefyllfa derfynol.

 

Ynghylch y newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi rhad-ar-garbon, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod mwy o gyfleoedd buddsoddi amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) ar gael a bod swyddogion yn gweithio’n agos ag Arlingclose ar hyn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau gan y Cadeirydd ar y targedau newid hinsawdd gan Lywodraeth Cymru, siaradodd y Rheolwr Cyllid Strategol am y gwahanol weithgareddau ar draws y Cyngor er mwyn buddsoddi mewn cynlluniau lleihau carbon.   Fel yr awgrymwyd gan Sally Ellis, cytunodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiad yn y dyfodol yn cael ei rannu â’r Pwyllgor, ar y cynnydd gyda’r gwaith o dan thema’r Gymdeithas Werdd a’r Amgylchedd er mwyn mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd a datgarboneiddio.

 

Gofynnodd Allan Rainford am effaith y rhagolygon cyfraddau llog ar fenthyca hirdymor a’r Strategaeth Gyfalaf.   Siaradodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol am y dull darbodus a ddefnyddiwyd i gyllidebu ar gyfer y cyfrif buddsoddi benthyciadau canolog a dywedodd bod cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’r Rhaglen Gyfalaf ym mis Rhagfyr wedi caniatáu cynnwys canlyniadau refeniw yn y rhagolwg cyn y cam olaf o osod y gyllideb ym mis Chwefror.   Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar y benthyciad newydd a ddefnyddiwyd eleni trwy’r cynllun Buddsoddi i Arbed.

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r swyddogion am yr adroddiad manwl a oedd yn dangos tryloywder wrth wneud penderfyniadau o ran rheoli’r trysorlys. 

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Sally Ellis a’u heilio gan Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl adolygu Strategaeth ddrafft Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23, nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’w hadrodd i’r Cabinet ar 15 Chwefror 2022; a

 

(b)       Nodi’r diweddariad chwarterol Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ategol: