Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 18 Ionawr a 1 Chwefror 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (i) Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018.
Materion yn codi
Tudalen 7: mewn ymateb i gwestiwn gan Mr.David Hytch yn ymwneud ag effeithlonrwydd posibl gan y gwasanaeth GwE, dywedodd y Prif Swyddog Interim (Addysg) y trafodwyd 1% o effeithlonrwydd.
(ii) Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2018.
Materion yn codi
Tudalen 13: Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom a drefnwyd dyddiad ar gyfer y gweithdy ar addysg Ôl-16. Eglurodd yr Hwylusydd ei bod yn cysylltu â’r swyddogion i ganfod dyddiad addas a byddai’n hysbysu’r Pwyllgor unwaith y cytunwyd ar hwn.
|
|
Darpariaeth Ieuenctid Integredig PDF 213 KB Pwpras: Rhoi diweddariad manwl ar ddarpariaeth gyffredinol Gwasanaethau Ieuenctid Integredig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarpariaeth gyffredinol Gwasanaethau Ieuenctid Integredig. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y model Gwasanaethau Ieuenctid Integredig yn gweithio gyda sefydliadau statudol eraill a darparwyr sector gwirfoddol i ddarparu darpariaeth bwrpasol, a dargedwyd a darpariaeth arbenigol i bobl ifanc. Gwahoddodd yr Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig i gyflwyno’r adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o’r nifer o haenau o ddarpariaeth gwasanaeth i bobl ifanc ar draws Sir y Fflint.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr adroddiad ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ac eglurwyd bod y Gwasanaeth Ieuenctid Integredig wedi’i lywio gan yr agenda Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod oedd yn galluogi’r gwasanaeth i ddarparu’r ymatebion mwyaf adweithiol a’r ddarpariaeth ataliol gorau i gydweddu anghenion y garfan oedd angen ymatebion creadigol i anghenion unigol cymhleth.
Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon nad oedd yr adroddiad yn darparu gwasanaeth cyffredinol ar draws y Sir ac nad oedd yn mynd i’r afael â’r “amgylchiadau dygn” oedd yn bodoli mewn rhai ardaloedd oherwydd diffyg darpariaeth. Hefyd dywedodd fod yr adroddiad yn ddetholus o safbwynt darpariaeth gwasanaeth ac roedd yn cael ei yrru gan ddarparwr nid defnyddiwr. Awgrymodd y Cynghorydd Heesom bod gweithdy yn cael ei gynnal i symud y pryderon a godwyd ymlaen a hefyd sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei yrru gan ddefnyddwyr.
Ymatebodd yr Uwch Reolwr i’r Cynghorydd Heesom a chyfeiriodd at faterion recriwtio a diffyg cyllid i ddarparu gwasanaethau ychwanegol. Dywedodd fod y ffocws ar ataliad ac addysg addysgiadol a soniodd am yr ystod o wasanaethau y cyfeiriwyd pobl ifanc atynt oedd yn bwydo i’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig.
Siaradodd y Cynghorydd Aaron Shotton am yr angen i gyflawni arbedion effeithlonrwydd ar draws pob gwasanaeth yn ystod y cyni cyllidol cyfredol. Dywedodd fod yr Awdurdod wedi gweithio gyda chymunedau lleol i ddarparu dull cyfannol ar gyfer darparu gwasanaeth fydd o bosibl angen newid o’r ddarpariaeth draddodiadol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Hughes ar ddiogelu ac addysg pobl ifanc yn erbyn cam-drin drwy’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol, rhoddodd yr Uwch-Reolwr sicrwydd bod gweithdrefnau cadarn wedi eu hymgorffori o fewn darpariaeth gwasanaethau ieuenctid i amddiffyn pobl ifanc o safbwynt diogelwch ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.
Roedd y Cadeirydd yn pwysleisio’r angen i annog ymgysylltu â chymunedau lleol ac archwilio’r posibilrwydd ar gyfer ffyrdd y gall y gymuned ddarparu cymorth i gynnal darpariaeth gwasanaeth yn eu hardaloedd.
Roedd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yn siarad o blaid ymgyrch Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg ar y premiwm disgybl plentyn y lluoedd arfog a mynychodd seminar yng Nghaerdydd yn gynharach yn y mis.
Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom ar ddiffyg darpariaeth gwasanaeth ieuenctid i’r gorllewin o’r Sir, rhoddodd y Prif Swyddog Interim ymrwymiad i gwrdd ag ef a'r Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi datblygiad y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig ac roedd yn cymeradwyo’r model darparu oedd wedi’i lywio gan y rhaglen Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod. ... view the full Cofnodion text for item 46. |
|
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar gynnydd wrth sefydlu’r Cyngor Ieuenctid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd sefydlu Cyngor yr Ifanc. Gwahoddodd yr Uwch-Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig i gyflwyno’r adroddiad.
Rhoddodd yr Uwch-Reolwr wybodaeth gefndir a dywedodd bod datblyiad Cyngor yr Ifanc wedi dechrau gyda chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol a chynghorau ysgol yn sefydlu gr?p llywio ac yn ymgymryd â gwaith ymchwil paratoadol. Dywedodd fod cynrychiolwyr Cyngor yr Ifanc wedi cyfarfod gyda’r Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor i sefydlu Cyngor yr Ifanc yn ffurfiol. Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad a’r cynllun cyflawni Cyflawni Gyda’n Gilydd, Darpariaeth Ieuenctid Integredig oedd ynghlwm â’r adroddiad.
Rhoddodd y Cynghorydd Aaron Shotton adborth o’r cyfarfod a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr Cyngor yr Ifanc a dywedodd y bu’n gyfarfod cadarnhaol a llawn gwybodaeth. Soniodd am y cyfle a roddodd Cyngor yr Ifanc i bobl ifanc gael llais cryf i fynegi eu barn.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn bwysig adolygu cyfansoddiad Cyngor yr Ifanc i sicrhau ei fod yn cynrychioli ystod eang o bobl ifanc a chymunedau lleol ar draws Sir y Fflint. Pwysleisiodd y Prif Swyddog mai ymgysylltu â phobl ifanc oedd y prif flaenoriaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi sefydlu a chynnal Cyngor yr Ifanc Sir y Fflint i gynrychioli holl bobl ifanc yn Sir y Fflint yn unol â Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol;
(b) Bod y Pwyllgor yn cysylltu gyda Chyngor yr Ifanc i greu egwyddorion arweiniol a darparu adborth i Gyngor yr Ifanc ar ganlyniadau ymgynghoriadau i bontio’r bwlch rhwng Llywodraeth Leol a phobl ifanc Sir y Fflint drwy agor y llinellau cyfathrebu, gan arwain at gyfranogiad ystyrlon a’u galluogi i ymgysylltu fel dinasyddion yn yr “yma a nawr” i ddylanwadu’r dyfodol;
(c) Bod y Pwyllgor yn sefydlu cyfleoedd rheolaidd i Gyngor yr Ifanc gwrdd â nhw i froceru cyfleoedd ar gyfer asesu a sicrhau digonedd o wasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc a gynrychiolir. Bydd hyn yn arbennig o bwysig wrth asesu’r cyfleoedd i’r rhai a nodwyd sydd wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd wedi effeithio ar eu bywydau;
(d) Bod y Pwyllgor yn sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn fformat a iaith sy’n briodol i’r garfan a gynigir mewn dewis iaith i bobl ifanc er mwyn iddynt roi barn hysbys a gwneud penderfyniadau;
(e) Gofyn i’r Cabinet sefydlu dull ar gyfer ymgynghori gyda Chyngor yr Ifanc i sicrhau amserlen briodol iddynt gyfrannu yn unol â Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc;
(f) Bod y Pwyllgor yn sicrhau bod barn Cyngor yr Ifanc a’r bobl ifanc a gynrychiolir ganddynt yn cael eu hymgorffori yn y broses gwneud penderfyniadau drwy ddefnyddio’r amcanion lles, sicrhau bod cyfranogiad yn cael ei gynnig mewn ffordd ystyrlon a hygyrch ac ymgorffori canllawiau Atodiad B o ganllawiau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. “”Hybu a hwyluso cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy’n gallu effeithio arnynt”; a
(g) Bod Cyngor yr Ifanc yn cyfrannu at asesu a sicrhau digonedd o ... view the full Cofnodion text for item 47. |
|
Hunanwerthuso Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol PDF 99 KB I roi diweddariad i Aelodau ar berfformiad cyffredinol gwasanaeth. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad gwasanaeth yn gyffredinol. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r trefniadau archwilio newydd, ac roedd crynodeb o’r hunanwerthusiad drafft a chopi o’r adroddiad drafft ynghlwm i’r adroddiad.
Rhoddodd y Prif Swyddog Interim drosolwg byr o’r hunanwerthusiad o wasanaethau addysg llywodraeth leol a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Cunningham roedd y Prif Swyddog Interim wedi amlinellu rôl Estyn ac eglurodd ar y cyfan mai'r Awdurdod oedd yn penderfynu yngl?n â’i welliant ei hun. Dywedodd am effaith cyni cyllidol ar ddarpariaeth gwasanaeth.
Awgrymodd Mrs Lynne Bartlett bod y gair ‘effeithiol’ yn cael ei ychwanegu at y disgrifiad o’r gwaith partneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol a’r Esgobaeth.
Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom i farn GwE ar yr Adroddiad Hunanwerthuso drafft 2018 gael ei ddarparu i’r Pwyllgor ar ôl ei dderbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod fframwaith newydd Estyn ar gyfer arolygu gwasanaethau addysg o fewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cael ei nodi; a
(b) Bod sylwadau’r Pwyllgor mewn perthynas â’r adroddiad hunanwerthuso drafft diweddaraf yn cael ei nodi.
|
|
Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 PDF 127 KB Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 y Cyngor 2017/18. Cynghorodd bod yr Adroddiad yn cyflwyno’r cynnydd monitro ar ddiwedd Chwarter 3 o Gynllun y Cyngor ar gyfer y flaenoriaeth ‘Cyngor sy’n Dysgu’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.
Eglurodd y Prif Swyddog Interim bod yr Adroddiad Monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gydag 81% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad, a 69% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Roedd y dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gydag 84% yn cyfarfod neu bron a chyfarfod targed y cyfnod. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (67%) neu’n fân risgiau (10%).
Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yna ddangosyddion perfformiad yn dangos statws coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor. Dywedodd fod yna dri phrif risg (coch) a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Dywedodd yr Hwylusydd y byddai gweithdy ‘Deall Adroddiadau Perfformiad' yn cael ei gynnal i’r holl Aelodau ar ddiwedd mis Mehefin / ar ddechrau mis Gorffennaf, i gysylltu ag adroddiad alldro Cynllun y Cyngor i’r Cyngor ar 19 Mehefin 2018.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at dudalen 236, IP 3.1.1.12 M12 a gofynnodd am eglurhad ar y nifer o ddyfodiaid tro cyntaf. Hefyd, gofynnodd am y dyddiad cychwyn a 50% o ddata wedi'i gwblhau a ddarparwyd yn erbyn IP 3.1.1.2 ar dudalen 234.
PENDERFYNWYD: (a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi gyda phryder y risgiau sy’n ymwneud â’r adroddiad oedd yn gysylltiedig â chaledi a chyllid isel y Cyngor.
|
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried. Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar 24 Mai yn gydgyfarfod gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Hefyd cadarnhaodd y byddai MrArwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor i’w gynnal ar 28 Mehefin.
Dywedodd yr Hwylusydd y byddai Adroddiad Monitro Gwelliant Chwarter 4 yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ar 24 Mai 2018.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd David Williams, cytunodd yr Hwylusydd i ofyn i’r adroddiad Diweddariad Moderneiddio Ysgolion, i’w gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ar 28 Mehefin, gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar bob ffrwd gwaith presennol gwella ysgolion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd dau aelod o’r wasg a dim aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
|