Agenda item

Darpariaeth Ieuenctid Integredig

Pwpras:        Rhoi diweddariad manwl ar ddarpariaeth gyffredinol Gwasanaethau Ieuenctid Integredig.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarpariaeth gyffredinol Gwasanaethau Ieuenctid Integredig.   Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y model Gwasanaethau Ieuenctid Integredig yn gweithio gyda sefydliadau statudol eraill a darparwyr sector gwirfoddol i ddarparu darpariaeth bwrpasol, a dargedwyd a darpariaeth arbenigol i bobl ifanc.    Gwahoddodd yr Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig i gyflwyno’r adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o’r nifer o haenau o ddarpariaeth gwasanaeth i bobl ifanc ar draws Sir y Fflint. 

 

                        Rhoddodd yr Uwch Reolwr adroddiad ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ac eglurwyd bod y Gwasanaeth Ieuenctid Integredig wedi’i lywio gan yr agenda Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod oedd yn galluogi’r gwasanaeth i ddarparu’r ymatebion mwyaf adweithiol a’r ddarpariaeth ataliol gorau i gydweddu anghenion y garfan oedd angen ymatebion creadigol i anghenion unigol cymhleth. 

 

                        Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon nad oedd yr adroddiad yn darparu gwasanaeth cyffredinol ar draws y Sir ac nad oedd yn mynd i’r afael â’r “amgylchiadau dygn” oedd yn bodoli mewn rhai ardaloedd oherwydd diffyg darpariaeth.   Hefyd dywedodd fod yr adroddiad yn ddetholus o safbwynt darpariaeth gwasanaeth ac roedd yn cael ei yrru gan ddarparwr nid defnyddiwr.    Awgrymodd y Cynghorydd Heesom bod gweithdy yn cael ei gynnal i symud y pryderon a godwyd ymlaen a hefyd sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei yrru gan ddefnyddwyr.      

 

                        Ymatebodd yr Uwch Reolwr i’r Cynghorydd Heesom a chyfeiriodd at faterion recriwtio a diffyg cyllid i ddarparu gwasanaethau ychwanegol.   Dywedodd fod y ffocws ar ataliad ac addysg addysgiadol a soniodd am yr ystod o wasanaethau y cyfeiriwyd pobl ifanc atynt oedd yn bwydo i’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig.

 

Siaradodd y Cynghorydd Aaron Shotton am yr angen i gyflawni arbedion effeithlonrwydd ar draws pob gwasanaeth yn ystod y cyni cyllidol cyfredol.   Dywedodd fod yr Awdurdod wedi gweithio gyda chymunedau lleol i ddarparu dull cyfannol ar gyfer darparu gwasanaeth fydd o bosibl angen newid o’r ddarpariaeth draddodiadol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Hughes ar ddiogelu ac addysg pobl ifanc yn erbyn cam-drin drwy’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol, rhoddodd yr Uwch-Reolwr sicrwydd bod gweithdrefnau cadarn wedi eu hymgorffori o fewn darpariaeth gwasanaethau ieuenctid i amddiffyn pobl ifanc o safbwynt diogelwch ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.   

 

                        Roedd y Cadeirydd yn pwysleisio’r angen i annog ymgysylltu â chymunedau lleol ac archwilio’r posibilrwydd ar gyfer ffyrdd y gall y gymuned ddarparu cymorth i gynnal darpariaeth gwasanaeth yn eu hardaloedd. 

 

Roedd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yn siarad o blaid ymgyrch Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg ar y premiwm disgybl plentyn y lluoedd arfog a mynychodd seminar yng Nghaerdydd yn gynharach yn y mis.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom ar ddiffyg darpariaeth gwasanaeth ieuenctid i’r gorllewin o’r Sir, rhoddodd y Prif Swyddog Interim ymrwymiad i gwrdd ag ef a'r Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn dilyn y cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn nodi datblygiad y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig ac roedd yn cymeradwyo’r model darparu oedd wedi’i lywio gan y rhaglen Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod.

 

(b)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r ffocws cynyddol ar dargedu ac ataliad e.e. mwy o ffocws ar arloesedd camddefnyddio sylweddau ac iechyd rhywiol gan fod hyn yn cynnig y gefnogaeth gynharaf i'r bobl ifanc mwyaf diamddiffyn;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r ffocws cynyddol ar ddarpariaeth o fewn ysgolion uwchradd Sir y Fflint i gefnogi ymgysylltu, presenoldeb a lles y bobl ifanc mwyaf diamddiffyn, yn arbennig y plant sy’n derbyn gofal a rhai mewn perygl o fod 'Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant’ (NEET);

 

(d)      Bod y Pwyllgor yn gwahodd Cyngor Yr Ifanc i drafod materion darpariaeth ieuenctid yn y Sir a chyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor;  

 

(e)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo ffocws parhaus ar ddiogelu ac addysgu pobl ifanc o ran diogelwch ar-lein a chyfryngau cymdeithasol; a

 

(f)        Bod y Pwyllgor yn gofyn i’r Gwasanaeth Ieuenctid Integredig geisio hwyluso prosiectau cymunedol gyda chyngor a chymorth ar draws Sir y Fflint.

 

Dogfennau ategol: