Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

12.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Gwrthdaro o ran Cysylltiad)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a Hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Datganodd Mrs McWilliam a Mr Buckland gysylltiad ag Eitem 9 ar y rhaglen, oherwydd gallai fod gan Aon a Mercer ddiddordeb mewn gwneud cais yng ngham nesaf y contract caffael parhaus ar gyfer WPP.

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad arall.

 

13.

Cofnodion pdf icon PDF 96 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Mehefin 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar eitem 143, gofynnodd Mr Hibbert a oedd modd diweddaru’r frawddeg ‘gynrychioli buddiannau aelodau’r cynllun’ i ‘gynrychioli buddiannau holl aelodau’r cynllun’.Cytunodd y Pwyllgor.

            Diwygiwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021 yn unol â hynny.

PENDERFYNWYD:

Derbyn, cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021 gan y Cadeirydd.

 

14.

Adroddiad Blynyddol drafft yn cynnwys Cyfrifon pdf icon PDF 87 KB

I ddarparu fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiynau Clwyd i Aelodau’r Pwyllgor i’w gymeradwyo, ac i wneud Aelodau yn ymwybodol o’r ymateb i’r llythyr Ymholiadau Archwilio 2020/21.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Nododd Mr Vaughan fod angen i’r adroddiad blynyddol gael ei lunio erbyn 1 Rhagfyr bob blwyddyn ac felly, cyflwynwyd y drafft i’w ystyried.Amlygodd y pwyntiau allweddol canlynol o’r adroddiad blynyddol:

 

-       Roedd yr adroddiad yn cwmpasu blwyddyn 2020-2021 pan oedd effaith COVID-19 yn amlwg.

-       Gwnaeth y buddsoddiadau ddychwelyd 7.1% y flwyddyn dros y tair blynedd at 31 Mawrth 2021, o’i gymharu â meincnod o 7.7% y flwyddyn.

-       Bu canolbwynt cynyddol ar nodi ôl-troed carbon a blaenoriaethau buddsoddi cyfrifol.Roedd rhagor o fanylion ar dudalen 83.

-       Gwnaeth y tîm gweinyddu gwblhau tua 30,000 o achosion aelodau yn ystod y flwyddyn.Roedd y tîm hefyd wedi bod yn gweithio ar wella ansawdd data, dangosyddion perfformiad allweddol (DPA), parhau â chyflwyno iConnect, prosiect GMP ac effaith datrysiad McCloud.Roedd rhagor o fanylion ar dudalen 57.

-       Cyfanswm cyfraniadau am y flwyddyn gan aelodau a gweithwyr oedd tua £85 miliwn, gyda buddion a thaliadau eraill i aelodau oddeutu £83 miliwn.Cyfanswm y costau rheoli a dalwyd gan y Gronfa oedd £22 miliwn.Yn ogystal, yr enillion net ar fuddsoddiadau oedd tua £469 miliwn.Yn gyffredinol, asedau net terfynol y cynllun ar 2020/21 oedd £2.226 biliwn.

-       I grynhoi, roedd sefyllfa ariannol y Gronfa wedi gwella yn ystod y flwyddyn, ac roedd y Gronfa yn parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i aelodau a chyflogwyr.

 

Eglurodd Mr Vaughan fod yr Adroddiad Blynyddol, sy’n cynnwys y cyfrifon, angen ei archwilio a’i awdurdodi erbyn diwedd mis Tachwedd er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau.Roedd yn annhebygol y byddai’r archwiliad yn cael ei gwblhau mewn pryd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol wedi’i archwilio’n llawn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10 Tachwedd i’w awdurdodi. Felly cynigiwyd y byddai diweddariad yn y cyfarfod hwnnw, ac y byddai cytundeb o ran unrhyw newidiadau pellach cyn diwedd mis Tachwedd yn cael ei ddirprwyo i Gadeirydd y Pwyllgor a Swyddog Adran 151 Cyngor Sir y Fflint.

 

Ychwanegodd Mrs Phoenix ei bod yn ffyddiog y byddai Archwilio Cymru yn cyrraedd dyddiad cau mis Rhagfyr, er nad oedd y tîm archwilio yn gallu dechau’r archwiliad tan fis Hydref.Fodd bynnag, cadarnhaodd nad yw’r tîm archwilio yn debygol o gymeradwyo’r cyfrifon cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10 Tachwedd oherwydd y dyddiad dechrau hwyr, fodd bynnag, byddai diweddariad ar lafar am gynnydd yr archwiliad yn cael ei ddarparu.

Diolchodd Mr Everett i’r tîm am baratoi’r adroddiad.Fodd bynnag, mynegodd ei bryderon ynghylch y ffaith fod yr archwiliad yn hwyr.O ran mân addasiadau terfynol i’r cyfrifon, roedd Mr Everett yn cefnogi’r dirprwyaethau arfaethedig pe bai angen.

            Ar dudalen 82, gofynnodd Mr Hibbert am eglurhad am y rheoliadau cap ymadael o ran Llywodraeth Cymru.Nododd Mr Middleman eu bod yn aros am ganlyniadau’r trafodaethau am y cap ymadael a bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.Roedd Mr Hibbert yn pryderu am ddiffyg cyfeiriad at ddull Llywodraeth Cymru yn yr adroddiad blynyddol yn y cyd-destun hwn.Cytunodd Mr Everett a dywedodd Mr Vaughan y byddent yn ychwanegu geiriad er  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Polisïau Cronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 131 KB

I roi Polisi Gwrthdaro Buddiannau wedi’i ddiweddaru, Polisi Gwybodaeth a  Sgiliau wedi’i ddiweddaru a Pholisi ar Ordaliadau a Thandaliadau Buddion Pensiwn i Aelodau’r  Pwyllgor eu cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod y polisi cyntaf a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cwmpasu gofynion y Gronfa o ran gwybodaeth a sgiliau aelodau’r Pwyllgor a swyddogion allweddol.Roedd y Polisi wedi’i ddiweddaru i fodloni gofynion cod ymarfer newydd CIPFA ar y testun hwn.Roedd yr ail Bolisi’n cwmpasu gwrthdaro buddiannau ac roedd yn rhoi arweiniad i bob aelod o Bwyllgor y Gronfa Bensiynau, aelodau’r Bwrdd Pensiynau, swyddogion ac ymgynghorwyr am sut caiff gwrthdaro buddiannau gwirioneddol a phosibl o ran rheoli’r Gronfa eu nodi a’u rheoli. Y Polisi terfynol oedd gordaliadau a thandaliadau o ran buddion y cynllun pensiwn.Roedd y Polisi newydd hwn wedi’i ddatblygu i sicrhau bod eglurder o ran sut roedd gordaliadau a thandaliadau o ran y Gronfa’n cael eu rheoli.

 

            Soniodd Mrs McWilliam am y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Cafodd y Polisi Hyfforddiant ei ailenwi fel y Polisi Gwybodaeth a Sgiliau er mwyn adlewyrchu geiriad Cod a Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau diweddaraf CIPFA yn well, gan gydnabod bod y gofynion yn ehangach na dim ond darparu hyfforddiant.

-       Mae gofynion cenedlaethol i aelodau ac uwch swyddogion feddu ar lefel gref o ran gwybodaeth, a chaiff rhai eu gyrru gan ddeddfwriaeth. Pwysleisiodd yr angen a’r canolbwynt ar hyn ar lefel y Gronfa.

-       Roedd CIPFA wedi cyfuno a chryfhau eu disgwyliadau i mewn i God a Fframwaith newydd ac roedd Polisi newydd y Gronfa wedi’i ddiweddaru er mwyn bod yn unol â’r rhain.O ganlyniad, roedd rhai newidiadau sylfaenol i’r Polisi. Roedd y prif newidiadau wedi’u crynhoi yn eitem 1.03 ar dudalen 183 a 184.

-       Roedd tudalen 193 yn cynnwys amcan newydd o ran sut mae unigolion wedi’u hymrwymo i fynychu hyfforddiant yn unol â’r Polisi Gwybodaeth a Sgiliau.Ychwanegodd fod gofyn i aelodau a swyddogion fynychu 75% o hyfforddiant (80% o’r blaen)  ac y byddai hyn yn destun monitro ac adrodd.

 

Yna cyflwynodd Mrs McWilliam y Polisi Gwrthdaro Buddiannau, gan amlinellu mai dim ond mân newidiadau oedd yn cael eu cynnig. Amlygodd bwysigrwydd y Polisi oherwydd bod rhaid i aelodau a swyddogion gydymffurfio â gofynion y Polisi a datgan unrhyw gysylltiadau.Dywedodd fod Polisi’r Gronfa yn cynnwys gofynion ychwanegol y tu hwnt i ddisgwyliadau’r Cyngor ac roedd yn bwysig i aelodau a swyddogion gydnabod eu cyfrifoldebau o ran y gronfa bensiynau wrth gyflawni dyletswyddau sy’n gysylltiedig â hi.  Mae’r diweddariadau allweddol a wnaed i’r Polisi wedi’u crynhoi yn eitem 1.07.

Ar dudalen 217, o ran enghreifftiau o wrthdaro buddiannau, nododd Mr Hibbert gamgymeriad yn un o’r enghreifftiau lle dylid bod wedi dyfynnu WPP.Cadarnhaodd Mrs McWilliam y byddai’n ei ddiweddaru ar gyfer y fersiynau terfynol.

Holodd y Cyng Rutherford a allai’r Gronfa ddarparu sesiwn gloywi 30 munud i’r Pwyllgor ar fodloni gofynion y Polisi Gwrthdaro Buddiannau.Cytunodd Mrs McWilliam a chadarnhawyd y byddai sesiwn hyfforddiant ar wahân yn cael ei threfnu.

Cyflwynodd Mrs Williams Bolisi arfaethedig Cronfa Bensiynau Clwyd ar Ordaliadau a Thandaliadau o ran Buddion y Cynllun Pensiwn. Eglurodd fod y Polisi newydd yn amlinellu y bydd swyddogion y Gronfa yn cynyddu’r pensiwn i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 151 KB

Rhoidiweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â Llywodraethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mrs McWilliam y diweddariad ac fe ychwanegodd:

-       Fel a amlinellir ar dudalen 261, gan ymateb i ymgynghoriad a gynhaliwyd ar gyfer y system rheoli costau, cymeradwyodd y Cadeirydd ac uwch swyddogion ymateb gan y Gronfa i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio dirprwyaethau brys.

-       Roedd tudalen 248 yn dangos cyfran presenoldeb aelodau’r Pwyllgor mewn sesiynau pynciau llosg.Roedd cyfleoedd hyfforddiant pellach i’w gweld ar dudalen 265.

-       Roedd Aelodau wedi cael e-bost gan Mrs Fielder am ddigwyddiad CIPFA, a agorwyd i aelodau’r Pwyllgor eleni.Anogwyd yr Aelodau i fynychu’r sesiwn dros y we ar 8 Hydref.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried a nodi’r diweddariad.

 

17.

Diweddariad Gweinyddu Pensiwn/ Cyfathrebu pdf icon PDF 152 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mrs Williams sylw am y pwyntiau allweddol canlynol am y diweddariad gweinyddu pensiynau a chyfathrebu:

-       Roedd dau aelod o staff wedi pasio eu cymwysterau proffesiynol pensiynau ym mis Awst, sy’n ofyniad ar gyfer lefel arweinydd tîm ac uwch.Felly, mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i staff ddatblygu yn eu gyrfa.

-       Roedd Prudential wedi gosod system ariannol newydd fis Mawrth llynedd, a oedd wedi arwain at oedi ers hynny wrth i aelodau gael eu buddion.Roedd y Gronfa yn cynnig datrysiadau i aelodau wrth iddynt aros am eu harian gan Prudential.Roedd y Gronfa wedi rhoi gwybod i TPR am y broblem hon ac roeddent am gwrdd ag uwch reolwyr yn Prudential i drafod y materion.

-       Roedd y Gronfa wedi hysbysebu swyddi gwag o fewn tîm cymorth McCloud, ond roeddent wedi cael anawsterau wrth recriwtio.Roedd dau aelod o staff ar gytundebau dros dro wedi symud at gyfleoedd eraill y tu allan i’r Gronfa.Fodd bynnag, bydd dau brentis modern yn dechrau gyda’r Gronfa maes o law.

-       Roedd fformat newydd o ran mesurau DPA wedi’i gynnwys ar dudalen 284, a oedd yn grynodeb lefel uwch.Gall Aelodau barhau i gael y graffiau mwy manwl ar gais. Roedd hyn yn cynnwys DPA newydd, er enghraifft o ran CETV at ddibenion ysgariad.

-       Roedd gwelliannau wedi’u gwneud yn y rhan fwyaf o feysydd DPA yn y diweddariad hwn, ond roedd effaith oedi o ran trosglwyddiadau i mewn gan y cynlluniau eraill, fel a ganiateir gan TPR, wedi’i hadlewyrchu yn ffigurau perfformiad y Gronfa, lle roedd dirywiad bach.

 

Gofynnodd y Cyng Bateman am aelodau’r tîm a oedd wedi gadael y Gronfa.Cadarnhaodd Mrs Williams eu bod ar gontractau dros dro.Roedd un aelod o staff wedi symud i’r cynllun graddedigion yn y Cyngor ac roedd yr aelod arall o staff wedi cael swydd barhaol yn rhywle arall.

Gofynnodd y Cyng Williams am ddiweddariad am iConnect ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.Dywedodd Mrs Williams fod Wrecsam yn defnyddio iConnect yn llawn, fodd bynnag mae rhai problemau o hyd wrth lwytho cofnodion aelodau ar iConnect oherwydd y fformat a bod gwybodaeth anghywir mewn meysydd dynodedig.Er hyn, eglurodd Mrs Williams ei bod hi’n obeithiol y byddai hyn yn cael ei ddatrys oherwydd bod tîm Cronfa Bensiynau Clwyd a Wrecsam yn cydweithio’n agos i ddatrys y problemau sy’n weddill.

Diolchodd Mr Everett i Mrs Williams a’r tîm am y cynnydd gwych parhaus.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried a nodi’r diweddariad.

 

18.

Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu pdf icon PDF 124 KB

Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Mr Fielder fod y Gronfa ar y trywydd iawn ar hyn o bryd ym mhob maes yn y cynllun busnes.Rhoddodd sylwadau am y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Gofynnodd WPP yn ffurfiol am gael sefydlu is-gronfa ecwiti byd-eang gynaliadwy weithredol, sy’n parhau i ddatblygu.

-       Gwnaed buddsoddiad newydd gyda Bridges Property Fund V, o fewn buddsoddiadau effaith a lleol.

-       Roedd y Gronfa wedi mynychu sesiwn gyda Creu Cymunedau ar y Cyd (TCC), lle trafodwyd sut mae’r Gronfa’n datblygu gyda Buddsoddiad Cyfrifol (RI), yn benodol, ymwrthod yn gyflym â charbon.

-       O ran sefyllfa llif arian y Gronfa, roedd y Gronfa wedi lleihau’r risg o lif arian annigonol trwy well monitro, fel a amlinellir yn y gofrestr risg.Yn ogystal, mae’r Gronfa mewn sefyllfa gadarnhaol o ran llif arian ar hyn o bryd, o ystyried bod y Gronfa yn cael dosbarthiadau gan y buddsoddiadau marchnad preifat.

-       Roedd WPP i fod i fynd i dendr ar gyfer dosbarthwr Marchnadoedd Preifat, ac mae Aon a Mercer wedi cofrestru eu diddordeb.

-       Oherwydd bod WPP yn cymryd hirach i weithredu marchnadoedd preifat, ni fyddent mewn sefyllfa i weithredu’r isadeiledd a’r portffolios dyledion preifat am rai blynyddoedd eto.Felly, roedd cylch gwaith Mercer wedi’i ymestyn i gefnogi’r Gronfa i wneud unrhyw ddyraniadau i’r dosbarthiadau asedau hyn, ac felly bydd cynnydd o ran y costau ymgynghoriaeth, er bod y costau hyn wedi’u gosod yn erbyn y gostyngiad o ran costau rheoli i Link a Russell.

-       Mae’r Gronfa yn datblygu’r uchelgais sero net ac maen nhw’n disgwyl gwelliannau a diweddariadau maes o law.

Diolchodd Mr Everett i’r tîm a’r Cadeirydd.Nododd bwysigrwydd y ffaith fod aelodau’r Pwyllgor yn helpu’r Gronfa wrth gyfathrebu eu sefyllfa strategol ar Fuddsoddiad Cyfrifol gyda chanolbwynt ar ymgysylltiad i ddechrau, ac yn enwedig y byddai gweithredu uchelgais net sero’r Gronfa yn cymryd amser. Mynegodd Mr Hibbert er bryderon a’i anhawster wrth gefnogi pwynt Mr Everett yn llwyr, a phwysleisiodd bwysigrwydd ymwrthod â charbon a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy cyn gynted ag sy’n bosibl. Eglurodd Mrs McWilliam mai strategaeth y Gronfa oedd canolbwyntio ar ymgysylltu a bod ymwrthod yn opsiwn pan nad oedd ymgysylltu’n llwyddiannus. Ychwanegodd Mrs Fielder fod ymwrthod yn esblygiad i’r Gronfa a’u bod wedi buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ers amser hir.Gall y Gronfa hefyd ddisgwyl gweld rhai gwelliannau o’r buddsoddiad arfaethedig gyda WPP mewn ecwiti gweithredol cynaliadwy.

Cytunodd Mr Buckland â Mrs Fielder ac roedd yn gwerthfawrogi pryderon Mr Hibbert.Dywedodd y gallai’r Gronfa ymwrthod ag asedau mewn nifer o feysydd yn y pen draw, fodd bynnag, byddai hyn oherwydd dadansoddiad ac asesiad priodol o’r sefyllfa bresennol.Roedd Mr Hibbert yn falch am yr eglurhad hwn, a chadarnhaodd nad oedd o blaid “ymwrthod plaen” ond roedd yn cefnogi’r cynllun a oedd yn dangos mai ymwrthod fyddai’r opsiwn terfynol o bosibl.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried a nodi’r diweddariad.

 

19.

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru pdf icon PDF 113 KB

I roi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor am Gyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru yn cynnwys manylion am newidiadau i Gytundeb Rhyng-awdurdod Partneriaeth Bensiynau Cymru i’w ystyried ac argymell er mwyn iddynt gael eu cymeradwyo gan Gyngor Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mrs Fielder y pwyntiau allweddol canlynol o ran cyfuno asedau yng Nghymru:

-       Mae Bfinance wedi’u penodi’n ddiweddar yn dilyn proses gaffael gan yr is-gr?p Marchnadoedd Preifat, a rhoddwyd tasg iddynt o gaffael dosbarthwr ar gyfer WPP.Fodd bynnag, bydd hyn yn cymryd cryn amser.

-       Y canolbwynt oedd yr argymhelliad o ran Cytundeb Rhwng Awdurdodau WPP â Chyngor Sir y Fflint.Roedd yr adendwm ar ei gyfer wedi’i ddosbarthu cyn y cyfarfod gyda’r Cytundeb Rhwng Awdurdodau presennol ac mae’r adendwm ynghlwm wrth atodiad 1.  Roedd y gymeradwyaeth o ran cynrychiolydd aelodau newydd y cynllun ar y JGC a gyda phenodi dosbarthwr i’r is-gr?p Marchnadoedd Preifat.

 

Nododd Mr Everett y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf Cyngor Sir y Fflint, pe bai’r Pwyllgor yn cytuno â hyn, gan gynnwys y newidiadau i Reolau’r Weithdrefn Ariannol ar gyfer y polisi gordaliadau a thandaliadau.

 

Nododd Mr Hibbert ei bleidlais yn erbyn yr ail a’r trydydd argymhelliad o ran elfennau cynrychiolydd aelodau’r cynllun, oherwydd roedd o’r farn fod y broses bresennol ar gyfer penodi cynrychiolydd yn wahaniaethol oherwydd y disgwyliad y byddai’r cynrychiolydd yn destun:

 

1.    Proses ddethol gan gynnwys swydd-ddisgrifiad, manylion am yr unigolyn a chyfweliad.

2.    Cyfyngiad amser ar aelodaeth.

3.    Peidio bod â hawl i bleidleisio.

 

Caiff y cyfyngiadau hyn eu defnyddio ar gyfer Cynrychiolwyr Aelodau’r Cynllun ar y JGC sy’n rhan o undeb llafur.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y pwyllgor yn ystyried a nodi rhaglen y JGC a chytuno ar unrhyw sylwadau neu gwestiynau ar gyfer WPP.

(b)  Bod y Pwyllgor yn argymell Adendwm i Gytundeb Rhwng Awdurdodau WPP â Chyngor Sir y Fflint i’w gymeradwyo, a bod y diwygiadau’n cael eu cynnwys yn briodol yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

(c)  Bod y Pwyllgor yn argymell wrth Gyngor Sir y Fflint fod y Protocol ar gyfer Bwrdd Pensiynau Clwyd yn cael ei ddiwygio i ganiatáu i’r Bwrdd enwebu Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun i’r JGC.

 

 

 

20.

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 107 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Dickson ei hun a nododd fod ecwiti byd-eang wedi cynyddu tua 5% o 30 Mehefin i 31 Awst 2021, roedd asedau amddiffynnol wedi cynyddu tua 2% ac roedd giltiau wedi’u cysylltu â mynegai wedi cynyddu tua 7 i 8% hefyd.Wrth i’r economi agor, dywedodd Mr Dickson ei fod yn ofalus ond gobeithiol o ran sut roedd marchnadoedd yn symud wrth symud ymlaen.

 

            Ychwanegodd Mr Buckland fod y Gronfa wedi perfformio’n gryf dros y chwarter at 30 Mehefin 2021, gyda cyfanswm gwerth ar y farchnad o £2,326.4 miliwn.Fel a amlinellir ar dudalen 363, roedd y Gronfa ychydig y tu ôl i’r meincnod 3 blynedd cyfan.Fodd bynnag, roedd y Gronfa eisoes yn cyflawni’r lefelau hynny o ran enillion.

 

Ar dudalen 369, gofynnodd y Cyng Bateman a oedd ffactorau chwyddiant ar gyfer bwyd oddi cartref yn ymwneud â phrydau bwyd i fynd.Cadarnhaodd Mr Dickson hyn, oherwydd bod nifer y prydau bwyd i fynd wedi cynyddu’n sylweddol dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ac roedd hefyd yn ymestyn i gyflenwadau adeiladu a chyflenwadau bwytai.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r diweddariad Economaidd a Marchnad.

 

 

21.

Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid pdf icon PDF 108 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Pwyllgor ar y sefyllfa cyllido, a gweithrediad y fframwaith rheoli risg a llwybr hedfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddodd Mr Middleman y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor a dywedodd nad oedd y Gronfa wedi bod islaw lefel cyllido 100%.Ar 30 Mehefin 2021, y lefel cyllido oedd 105%, ac ar hyn o bryd, roedd 1%-2% yn uwch na hyn oherwydd perfformiad cryf o ran asedau.Ychwanegodd fod rhywfaint o nerfusrwydd o hyd wrth symud ymlaen o ran chwyddiant, ond roedd y Gronfa mewn sefyllfa gadarnhaol.

 

            Fel a nodwyd yn y cyfarfod diwethaf, o ystyried y sefyllfa gadarnhaol o ran cyllido, roedd angen rhoi ystyriaeth i p’un a ddylid gweithredu er mwyn bancio rhywfaint o’r fantais hon.Roedd FRMG wedi cwrdd ar ôl y cyfarfod diwethaf a chafwyd trafodaeth fanwl am y mater hwn.

 

            Cadarnhaodd Mr Middleman, ar ôl ystyriaeth, roedd FRMG wedi cytuno bod trothwy meddal newydd ar lefel gyllido 110% yn fwy priodol er mwyn rhoi ystyriaeth i p’un a ddylid gwneud newidiadau i’r strategaeth.Nododd ei bod yn bosibl y bydd y Gronfa’n cyrraedd y trothwy hwn yn gynharach na’r disgwyl, o ystyried y cyfeiriad y mae’r Gronfa’n mynd iddi.

 

            Awgrymodd Mr Hibbert newid y trothwy meddal i drothwy caled, oherwydd roedd o’r farn bod angen trafodaethau’n fuan, gyda’r bwriad o wneud penderfyniad am fancio’r fantais mae’r Gronfa wedi’i gwneud.Nododd Mr Middleman y pwynt ond dywedodd fod nifer o ffactorau i’w hystyried cyn gwneud unrhyw newidiadau i’r strategaeth.Yn benodol, byddai angen sicrhau cydbwysedd o ran y lleihad o ran risg yn erbyn lleihad cyfatebol o ran enillion disgwyliedig.Oherwydd bod modd i hyn effeithio ar gyfraniadau cyflogwyr yn ormodol, pe bai gormod o risg yn cael ei dileu. Bydd angen trafodaeth er mwyn gwneud y newidiadau hyn gan ystyried barn pob budd-ddeiliad, nid dim ond penderfyniad sy’n seiliedig ar y trothwy.  Cadarnhaodd Mr Middleman, fodd bynnag, fod y 110% yn debygol o olygu y bydd rhywfaint o newid yn digwydd. Cytunodd Mr Everett ei bod yn bwysig bod y Pwyllgor yn ymgysylltu â’r mater hwn.

 

            Diolchodd Mr Everett i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd a dymunodd yn dda i bawb ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid.