Agenda item
Diweddariad Gweinyddu Pensiwn/ Cyfathrebu
- Cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd, Dydd Mercher, 1af Medi, 2021 9.30 am (Eitem 17.)
- Cefndir eitem 17.
Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â materion gweinyddu a chyfathrebu.
Cofnodion:
Rhoddodd Mrs Williams sylw am y pwyntiau allweddol canlynol am y diweddariad gweinyddu pensiynau a chyfathrebu:
- Roedd dau aelod o staff wedi pasio eu cymwysterau proffesiynol pensiynau ym mis Awst, sy’n ofyniad ar gyfer lefel arweinydd tîm ac uwch.Felly, mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i staff ddatblygu yn eu gyrfa.
- Roedd Prudential wedi gosod system ariannol newydd fis Mawrth llynedd, a oedd wedi arwain at oedi ers hynny wrth i aelodau gael eu buddion.Roedd y Gronfa yn cynnig datrysiadau i aelodau wrth iddynt aros am eu harian gan Prudential.Roedd y Gronfa wedi rhoi gwybod i TPR am y broblem hon ac roeddent am gwrdd ag uwch reolwyr yn Prudential i drafod y materion.
- Roedd y Gronfa wedi hysbysebu swyddi gwag o fewn tîm cymorth McCloud, ond roeddent wedi cael anawsterau wrth recriwtio.Roedd dau aelod o staff ar gytundebau dros dro wedi symud at gyfleoedd eraill y tu allan i’r Gronfa.Fodd bynnag, bydd dau brentis modern yn dechrau gyda’r Gronfa maes o law.
- Roedd fformat newydd o ran mesurau DPA wedi’i gynnwys ar dudalen 284, a oedd yn grynodeb lefel uwch.Gall Aelodau barhau i gael y graffiau mwy manwl ar gais. Roedd hyn yn cynnwys DPA newydd, er enghraifft o ran CETV at ddibenion ysgariad.
- Roedd gwelliannau wedi’u gwneud yn y rhan fwyaf o feysydd DPA yn y diweddariad hwn, ond roedd effaith oedi o ran trosglwyddiadau i mewn gan y cynlluniau eraill, fel a ganiateir gan TPR, wedi’i hadlewyrchu yn ffigurau perfformiad y Gronfa, lle roedd dirywiad bach.
Gofynnodd y Cyng Bateman am aelodau’r tîm a oedd wedi gadael y Gronfa.Cadarnhaodd Mrs Williams eu bod ar gontractau dros dro.Roedd un aelod o staff wedi symud i’r cynllun graddedigion yn y Cyngor ac roedd yr aelod arall o staff wedi cael swydd barhaol yn rhywle arall.
Gofynnodd y Cyng Williams am ddiweddariad am iConnect ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.Dywedodd Mrs Williams fod Wrecsam yn defnyddio iConnect yn llawn, fodd bynnag mae rhai problemau o hyd wrth lwytho cofnodion aelodau ar iConnect oherwydd y fformat a bod gwybodaeth anghywir mewn meysydd dynodedig.Er hyn, eglurodd Mrs Williams ei bod hi’n obeithiol y byddai hyn yn cael ei ddatrys oherwydd bod tîm Cronfa Bensiynau Clwyd a Wrecsam yn cydweithio’n agos i ddatrys y problemau sy’n weddill.
Diolchodd Mr Everett i Mrs Williams a’r tîm am y cynnydd gwych parhaus.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn ystyried a nodi’r diweddariad.
Dogfennau ategol:
- Pension Administration/Communication Update, eitem 17. PDF 152 KB
- Enc. 1 for Pension Administration/Communication Update, eitem 17. PDF 151 KB
- Enc. 2 for Pension Administration/Communication Update, eitem 17. PDF 195 KB
- Enc. 3 for Pension Administration/Communication Update, eitem 17. PDF 212 KB
- Enc. 4 for Pension Administration/Communication Update, eitem 17. PDF 290 KB
- Enc. 5 for Pension Administration/Communication Update, eitem 17. PDF 387 KB
- Enc. 6 for Pension Administration/Communication Update, eitem 17. PDF 110 KB
- Enc. 7 for Pension Administration/Communication Update, eitem 17. PDF 55 KB