Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

86.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r aelodau yn un hynny.

Cofnodion:

Dim.

87.

Cofnodion pdf icon PDF 339 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 22ain Hydref, 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2019 fel rhai cywir. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

88.

Cynllun y Cyngor 2019/20 – Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 300 KB

Pwrpas:        Cytuno ar y lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgarwch, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Gynllun y Cyngor 2019/20 – Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn a oedd yn darparu crynodeb o berfformiad ar ganol blwyddyn.

           

            Esboniodd y Prif Weithredwr y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac fe’i groesawyd.

 

Dywedodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod yr adroddiad yn dangos bod 88% o weithgareddau yn gwneud cynnydd da gyda 90% yn debygol o gyflawni’r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 78% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau.Roedd risgiau yn cael eu rheoli, gyda 14% yn unig wedi’u hasesu fel rhai sylweddol a 40% wedi gostwng o ran arwyddocâd.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn mynd ar drywydd meysydd risg a fyddai’n cael eu cynnwys yn eu rhaglenni gwaith ar gyfer y dyfodol.        

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo a nodi'r canlynol:

·         Lefelau cynnydd a hyder cyffredinol o ran cyflawni gweithgareddau o fewn Cynllun y Cyngor;

·         Y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor;

·         Y lefelau risg presennol o fewn Cynllun y Cyngor;

 

(b)      Bod y Cabinet wedi eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r broses o gyflawni Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20.

89.

Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 pdf icon PDF 484 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 ar gyfer ei adolygu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ynghylch y Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 i'w argymell i'r Cyngor.

 

            Roedd y Rhaglen Gyfalaf yn cynnwys buddsoddi mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn galluogi darpariaeth o wasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel a gwerth am arian. Roedd yr asedau yn cynnwys adeiladau, megis ysgolion a chartrefi gofal, isadeiledd, megis priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff, ac asedau nad oedd yn eiddo i’r Cyngor. Roedd y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau busnes y gwasanaeth portffolio a Chynllun y Cyngor.

 

            Roedd gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwyddau’r Cyngor. Fodd bynnag, roedd ganddo’r grym i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyca dros dro, ac yn y pen draw, roedd cost ac ad-daliad unrhyw arian a fenthycwyd yn cael ei ychwanegu at gyllideb refeniw’r Cyngor. Ystyriwyd y cynlluniau a ariannwyd drwy fenthyca yn ofalus oherwydd yr effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

            Roedd yr adroddiad yn rhannu Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair rhan:-

 

1.    Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau i ddarparu ar gyfer gwaith statudol a rheoleiddiol;

2.    Asedau a Gedwir – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd sy’n angenrheidiol i sicrhau darpariaeth gwasanaeth a pharhad busnes; a

3.    Buddsoddiad – dyraniadau i ariannu gwaith sy’n angenrheidiol i ailfodelu gwasanaethau i gyflawni’r arbedion effeithlonrwydd a amlinellwyd o fewn cynlluniau busnes Portffolio a buddsoddi mewn gwasanaethau fel yr amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion o gynlluniau posibl ar gyfer y dyfodol, gan nodi bod rhaid i bob cynllun cyfalaf gael ei ystyried yng nghyd-destun sefyllfa Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.  

 

Diolchodd yr Aelodau i’r swyddogion am y gwaith a wnaethpwyd ar y Rhaglen Gyfalaf. Croesawyd y dyheadau a’r cynlluniau gweledigaethol er gwaetha’r caledi parhaus a wynebir gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y dyraniadau a chynlluniau yn Nhabl 3 ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau a Gedwir y Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2020/21 - 2022/23 yn cael eu cymeradwyo;

 

 (b)      Bod y cynlluniau wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 ar gyfer adran Buddsoddi y Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2020/21 - 2022/23 yn cael eu cymeradwyo;

 

 (c)       Bod y diffyg mewn cyllid i ariannu yn Nhabl 5 ar hyn o bryd yn y broses gymeradwyo cynlluniau yn 2020/21 a 2021/22 yn hyblyg. Bydd opsiynau gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ar gael),  benthyca darbodus neu gynlluniau fesul cam yn cael eu hystyried yn ystod 2020/21, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol; a

 

 (d)      Bod y cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 ar gyfer yr adran a ariennir yn benodol o Raglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor a fydd yn cael eu hariannu’n rhannol drwy fenthyca, yn cael eu cymeradwyo.

90.

Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) 2020/21 pdf icon PDF 141 KB

Pwrpas:        Pwrpasyr adroddiad hwn yw cyflwyno, i’w argymell i’r Cyngor, y rhaglen Gyfalaf ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ynghylch Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21. Bu i Raglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai fuddsoddi adnoddau i asedau’r Cyfrif Refeniw Tai ac fe aliniwyd y rhaglen arfaethedig â Chynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a Chynllun y Cyngor yn gyffredinol.

 

            Roedd y cyd-destun strategol ar Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys y canlynol:

 

·         Roedd y Rhaglen Gyfalaf yn ddibynnol ar y cyllid cyffredinol oedd ar gael o fewn y Cynllun Refeniw Tai. Ni fyddai’r penderfyniad terfynol mewn perthynas â’r polisi gosod rhent yn cael ei gyfathrebu tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac felly roedd y rhaglen derfynol yn destun newid;

·         Roedd y cynigion y manylwyd arnynt yn yr adroddiad yn seiliedig ar y lefelau cyllid a gytunwyd arnynt yn y Cynllun Busnes ar gyfer 2019/20;

·         Cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020 a darparu cyfalaf digonol a pharhaus i gynnal lefelau Safon Ansawdd Tai Cymru; ac

·         Adeiladu tai cyngor newydd.

 

Darparwyd manylion ar fenthyca darbodus, benthyca cyfredol a chyllido.

 

Soniodd yr Aelodau am ansawdd da’r stoc dai a oedd yn ganmoladwy iawn, gyda chartrefi y gallai tenantiaid fod yn falch ohonynt.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai a’i hargymell i’r Cyngor ar gyfer 2020/2021. Gall hyn newid yn ddibynnol ar ganlyniad y polisi rhenti a fydd ar gael ym mis Rhagfyr 2019; a

 

 (b)      Chymeradwyo Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21.

91.

Strategaeth Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 pdf icon PDF 188 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 i’w argymell i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ynghylch y Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2020/21 - 2022/23 a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Gyfalaf y Cyngor i’w hargymell i’r Cyngor.

 

                        Esboniodd yr adroddiad yr angen am y Strategaeth, ei nodau allweddol a chynnwys pob adran.

 

                        Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac nid oedd unrhyw fater i’w gyflwyno i’r Cabinet.

 

            PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor; a

 

             (b)      Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor:

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2020/21 - 2022/23 fel y’u nodwyd o fewn Tabl 1 a 4-7 yn cynnwys y Strategaeth Gyfalaf;

·         Awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i achosi symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol.

92.

Cynllun Rheoli Asedau 2019 - 2026 pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Cynllun Rheoli Asedau 2019 – 2026 i’w argymell i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad ynghylch y Strategaeth Gyfalaf a Chynllun Rheoli Asedau 2020/2026 a oedd yn cyflwyno’r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol wedi’i adfywio a oedd yn nodi strategaeth tymor canolig y Cyngor ar gyfer rheoli ei asedau a symud tuag at greu y portffolio gorau o asedau.

 

            Roedd yr adroddiad yn egluro’r angen am y Cynllun, ei bwrpas, amcanion, nodau allweddol a chynnwys.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Cynllun Rheoli Asedau 2020-2026 er mwyn ei fabwysiadu fel y brif ddogfen ar gyfer rheoli eiddo corfforaethol ac asedau adnoddau tir y Cyngor.

93.

Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain ganrif ac Ysgolion Craidd pdf icon PDF 308 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn darparu manylion yr ymrwymiad cyllid i gefnogi parhad rhaglen band B gan fod angen i’r Cabinet wneud y penderfyniadau allweddol er mwyn datblygu’r rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad ar Raglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif, a oedd yn rhoi cefndir i gynllun strategol tymor canolig y Cyngor ar gyfer rheoli a gwella ystâd yr ysgol a chyflwyniad Rhaglen Strategol Amlinellol y Cyngor i Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen ariannu Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

            Ers cymeradwyo’r Rhaglen Strategol Amlinellol ar ddechrau 2018, roedd rhagor o waith manwl wedi’i wneud i ddatblygu a phrisio prosiectau unigol gan fonitro’r rhaglen a nifer y disgyblion ar draws yr ysgolion. Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo penderfyniadau cynnar ar rai agweddau o’r rhaglen e.e. gorffen ailfodelu Ysgol Uwchradd Cei Connah a pheidio ag uno Ysgol Licswm ac Ysgol Brynffordd.

 

            Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud newidiadau i’r cyfraddau ymyrraeth o blaid awdurdodau lleol ac roedd hefyd wedi sicrhau argaeledd ffrydiau ariannu newydd megis Grantiau Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Gofal Plant, ar gyfraddau ymyrraeth o 100%, ac roedd y Cyngor wedi elwa o hynny.  Roedd gan yr holl ffactorau hyn, ochr yn ochr â datblygiad Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor, effeithiau posibl ar gynnwys a chost posibl y rhaglen Band B derfynol.

 

            Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r rhaglen derfynol ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer sawl mater allweddol.

 

            Roedd astudiaethau ymarferoldeb wedi dangos bod cyfle i greu model safle unigol ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd yn ardal Mynydd Isa ar safle Ysgol Uwchradd Argoed. Byddai’n gyfle i ailddefnyddio un o’r adeiladau, a oedd mewn cyflwr da, i sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer ardal Bwcle / Mynydd Isa a oedd yn cefnogi amcanion y Cyngor yn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Yn ogystal, darparwyd cyllid Band B a buddsoddiadau eraill gan LlC er mwyn cyflawni gwelliannau yn Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug; Glannau Dyfdrwy yn Shotton ac ailwampio Ysgol Croes Atti yn Y Fflint. Roedd hyn i gyd yn dangos ymrwymiad y Cyngor i strategaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg a chwarae ei ran wrth geisio cyflawni’r targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

            Byddai’r cynnig hefyd yn caniatáu ar gyfer buddsoddiad sylweddol yn Ysgol Uwchradd Elfed ym Mwcle a oedd, gyda nifer gynyddol o ddisgyblion a pherfformiad addysgol cryf, wedi  dangos ei bod yn ysgol gynaliadwy a llwyddiannus ac y dylai barhau i gael bod yn ysgol ar wahân.

 

            Roedd yr heriau’n fwy difrifol yn ardal Saltney lle’r oedd y lleihad yn nifer y disgyblion yn Ysgol Uwchradd  Dewi Sant wedi ysgogi’r cynnig i ystyried peidio â symud ymlaen â’r model 3-16 fel yr amlinellwyd yn y Rhaglen Strategol Amlinellol. Roedd yn bwysig bod adolygiad manylach yn cael ei gynnal o ddarpariaeth cynradd ac uwchradd yn ardal Saltney a Brychdyn i sicrhau bod y buddsoddiad cyfalaf a gynlluniwyd yn darparu’r modelau addysg mwyaf cynaliadwy ar gyfer yr ardal.

 

            Yn ychwanegol, roedd y gyllideb wreiddiol o £85m yn annigonol er mwyn cyflawni’r holl flaenoriaethau o fewn y Rhaglen Strategol Amlinellol, a gyda’r datblygiad posibl o safleoedd tai strategol newydd, gallai roi dwy o ysgolion uwchradd y Cyngor dan bwysau o ran galw  ...  view the full Cofnodion text for item 93.

94.

Darpariaeth a Strategaeth Mynwentydd y Dyfodol pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer estyniadau i'r darpariaethau claddu yn y mynwentydd presennol yn Sir y Fflint yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar Ddarpariaeth a Strategaeth Mynwentydd a oedd yn tynnu sylw at yr heriau a’r risgiau mawr a oedd yn wynebu’r gwasanaeth o ran argaeledd gofodau claddu yn y dyfodol, yn enwedig ym Mynwentydd yr Hôb a Phenarlâg yn y tymor byr ac ym Mynwent Bwcle y tu hwnt i hynny.

 

Oni bai fod y camau gweithredu yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder gofod claddu ni fyddai modd mwyach i roi preswylwyr lleol i orffwys yn eu mynwent leol gydag aelodau eraill eu teulu a’u hanwyliaid.  Roedd Sir y Fflint yn wahanol iawn i’r duedd genedlaethol ac roedd y Sir wedi cynnal oddeutu 400 o gladdedigaethau, roedd 70% yn gladdedigaethau corff cyfan a 30% yn amlosgiadau.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd y capasiti amcangyfrifedig ar gyfer holl fynwentydd y Cyngor.

 

Roedd tir addas wedi’i ganfod ger mynwentydd yr Hôb a Phenarlâg ac roedd Achos Busnes Cyfalaf wedi’i gyflwyno i ymestyn mynwent yr Hôb ac roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda’r tirfeddiannwr. Roedd yr Achos Busnes Cyfalaf i ymestyn mynwent Penarlâg yn disgwyl cymeradwyaeth ac roedd trafodaethau cynnar wedi dechrau ag asiantwyr y tirfeddiannwr.

 

Soniodd y Cynghorydd Thomas a’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) am yr ystod eang o wasanaethau yr oedd y Tîm Profedigaethau wedi ymgymryd â nhw, a oedd yn dangos ymroddiad ac ymrwymiad i gymunedau.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Cymeradwyo’r cynnig i brynu’r tir a nodwyd ar gyfer ymestyn mynwentydd

yr Hôb a Phenarlâg; a

 

 (b)      Chymeradwyo’r gwaith o ymchwilio i’r ddarpariaeth gladdu yn y dyfodol mewn mynwentydd eraill yn y Sir, a ddylai ddechrau 4 blynedd cyn y pwynt disgwyliedig pan y cyrhaeddir y capasiti presennol.

95.

Prosiect Archifau ar y Cyd Sir Ddinbych a Sir y Fflint pdf icon PDF 314 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo creu un gwasanaeth Archifau a rennir ar gyfer Sir Ddinbych a Sir y Fflint a dyrannu arian y Cyngor i ddarparu cyfraniad tuag at y gofyniad arian cyfatebol ar gyfer y bid grant Cronfa Treftadaeth y Loteri a rheolaeth prosiect ar gyfer darparu’r adeilad archifau newydd a’r cynllun gweithgareddau cysylltiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad ynghylch y Prosiect Archif ar y Cyd Sir Ddinbych a Sir y Fflint a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i greu gwasanaeth archif arloesol a chynaliadwy mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, ac i ddatblygu cyfleuster archif modern.

 

                        Roedd Cynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn wynebu heriau sylweddol o ran yr adeiladau a oedd yn cael eu defnyddio i gadw deunyddiau’r archif. Roedd y ddau gyngor hefyd yn wynebu heriau o ran aneffeithlonrwydd ariannol, cadernid gweithlu a chynaliadwyedd hirdymor. Yr unig ffordd i ddatrys yr heriau hynny oedd drwy ymgymryd â dull radicalaidd ac arloesol a fyddai’n mynd i’r afael â’r anghenion o ran llety o fewn y ddau wasanaeth ac yn creu model darparu gwahanol iawn a fyddai’n ehangu ac yn gwella rôl y gwasanaeth archif yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

 

                        Cynigiwyd cyflawni hyn drwy wneud cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri am hyd at 70% o’r arian oedd ei angen i adeiladu cyfleuster modern a fyddai’n cefnogi rhwydwaith ehangach o bwyntiau mynediad archif. Byddai hefyd yn darparu rhaglen estyn allan gynhwysfawr i grwpiau cymunedol drwy ei leoliad unigryw, ochr yn ochr â theatr o bwysigrwydd cenedlaethol.

 

                        Byddai’r model yn darparu gwasanaeth archif llawer iawn mwy hygyrch ac ymgysylltiol  ar draws ardaloedd y ddau Gyngor na’r hyn a oedd yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd, gan gefnogi cyfraniad y Cyngor at y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

                        Esboniodd y Rheolwr Prosiect y byddai’n rhaid i Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych wneud cyfraniad ariannol mewn arian cyfatebol. Roedd y ddau wasanaeth wedi sefydlu partneriaethau gwaith anffurfiol effeithiol, a byddai cymryd y cam nesaf, sef eu huno yn ffurfiol i greu un gwasanaeth, yn rhoi’r cyfle iddynt rannu arbenigedd, sicrhau cadernid gwasanaeth a darparu model sy’n effeithiol yn ariannol ar gyfer y ddau Gyngor.

 

                        Cefnogodd yr Aelodau’r cynigion a hygyrchedd arloesol y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Cymeradwyo’r canlynol:

·         Creu un Gwasanaeth Archif cynaliadwy a rennir â Chyngor Sir Ddinbych

·         Adeiladu adeilad archif modern, wedi’i gyd-leoli â Theatr Clwyd, gyda rhwydwaith archif digidol helaeth ar draws y ddwy sir gyda rhaglen gymorth ac ymgysylltu â’r cyhoedd arloesol.

 

 (b)      Bod y dyraniad o £3,027,782 o gyllid y Cyngor, £2,979,782 o arian cyfatebol Cronfa Treftadaeth y Loteri a £48,000 o gyllid rheoli prosiectau yn cael eu hymrwymo i gyflawni’r Prosiect Archif ar y Cyd – Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

96.

Newidiadau i Bolisi Cartrefi Gofalwyr Maeth pdf icon PDF 283 KB

Pwrpas:        I dderbyn sylwadau a chefnogaeth y Cabinet ar gyfer gwneud newidiadau i’r Polisi Cartrefi Gofalwyr Maeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad ynghylch y Polisi Newidiadau i Gartrefi Gofalwyr Maeth a oedd yn esbonio fod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn cydnabod, mewn rhai amgylchiadau, gallai amgylchedd o fewn cartrefi gofalwyr maeth gyfyngu’r cyfleoedd o ran lleoli. Roedd hyn yn benodol wir o ran cefnogi grwpiau o frodyr a chwiorydd neu blant ag anableddau.

 

                        Cynigiwyd cyflwyno’r Polisi Newidiadau i Gartrefi Gofalwyr Maeth i roi mwy o ddewis i Sir y Fflint, ac i’r plant yr oedd y Sir yn gyfrifol amdanynt, o ran lleoliadau a allai gynnig gwell gwerth am arian i’r awdurdod.

 

                        Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y polisi yn ceisio cyflwyno cynllun grant, a oedd yn cynnig cymorth ariannol i ofalwyr maeth allu gwneud newidiadau i’w cartrefi presennol, neu gymorth ariannol er mwyn prynu eiddo mwy neu eiddo a oedd yn fwy addas, hyd at £36,000 i wneud newidiadau, neu £20,000 os oedd y gofalwyr maeth am symud i eiddo newydd.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am yr adroddiad a fyddai’n darparu cymorth amhrisiadwy i ofalwyr maeth a oedd yn darparu cartrefi croesawgar a gofal a oedd yn newid bywydau plant.

                                               

PENDERFYNWYD:

           

Cefnogi’r Polisi Newidiadau i Gartrefi Gofalwyr Maeth.

97.

Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Ymgynghoriad Ail Adroddiad Agregiadau pdf icon PDF 223 KB

Pwrpas:        Aelodau i nodi’r Ymateb i’r Ymgynghoriad ac Ardystiad y Ddogfen sy’n Cyfeirio at Ddarpariaeth Agregiadau ym Mholisi'r Cynllun Datblygu Lleol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad ynghylch y Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Ymgynghoriad Ail Adroddiad Agregau, a oedd yn ddogfen a baratowyd ar ran Llywodraeth Cymru a Grwpiau Gwaith Agregau Rhanbarthol, ac roedd yn ofyniad o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau -  Polisi Cynllunio Cymru.

 

                        Pwrpas y Datganiad Technegol Rhanbarthol oedd asesu’r galw am agregau adeiladu yn y dyfodol a gwneud argymhellion i awdurdodau lleol i ddarparu ar gyfer hyn yn y Cynlluniau Datblygu Lleol i sicrhau diogelwch hirdymor y cyflenwad i fodloni’r galw a ragwelir yn y dyfodol.

 

                        Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y Datganiad Technegol Rhanbarthol yn nodi rhaniadau o faint o agregau adeiladu (cerrig wedi’u torri, tywod a cherrig mân) oedd rhaid cynllunio ar eu cyfer yn y Cynlluniau Datblygu Lleol er mwyn sicrhau bod modd cynnal cyflenwad dibynadwy i ddiwallu anghenion y sector adeiladu. Roedd y Datganiad Technegol Rhanbarthol yn argymell rhaniad sylweddol o gerrig wedi’u torri a rhaniad llai o dywod a cherrig mân ar gyfer Sir y Fflint, roedd y ddau yn gofyn am ddyraniadau ar gyfer mwynau yn y CDLl ac yn argymell cydweithio rhyng-awdurdod os nad oedd un awdurdod yn gall gwneud darpariaeth o’r fath.

 

                        Bu i’r Gr?p Strategaeth Cynllunio ystyried yr adroddiad cyn ei gyflwyno i’r Cabinet ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

             (a)      Cefnogi Ail Adroddiad Datganiad Technegol Rhanbarthol; a

 

 (b)      Derbyn yr argymhellion a nodir yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer y darpariaethau strategol sy’n ofynnol er mwyn cynllunio ar gyfer darparu agregau adeiladu.

98.

Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 6) pdf icon PDF 618 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ar Fonitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 6) a oedd yn darparu gwybodaeth fanwl am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol a chyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 6. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.

 

                        Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

            Cronfa’r Cyngor

 

  • Diffyg gweithredol o £2.698m a oedd yn symudiad ffafriol o £0.344m o’r ffigwr diffyg o £3.042m a nodwyd ym Mis 5; a
  • Rhagamcanwyd y byddai balans y gronfa wrth gefn arian at raid ar 31 Mawrth 2020 yn £2.171m.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.010m yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.098m o’r ffigwr diffyg £0.108m a nodwyd ym mis 5; a
  • Balans terfynol disgwyliedig ar 31 Mawrth 2020 o £1.313m.

 

Fel yr adroddwyd ym Mis 5, ac i gynorthwyo â lliniaru’r gorwariant cyffredinol a rhagamcanwyd, cyflwynwyd y mesurau canlynol ym Mis 6:

 

1.    Roedd yr holl wariant nad oedd yn hanfodol wedi cael ei adolygu a’i herio gyda’r bwriad o’i oedi / rhoi’r gorau iddo lle bo hynny’n bosibl; a

2.    Byddai’r Tîm Rheoli Portffolio yn herio recriwtio i swyddi gwag.

 

Arweiniodd hyn at ganfod oedi untro o ran gwariant o -£0.530m yn ystod Mis 6 a oedd wedi bod o gymorth i leihau’r gorwariant ariannol cyffredinol. Fodd bynnag roedd pwysau galw ychwanegol yn ystod Mis 6, cyfanswm net o £0.186m, wedi cael effaith negyddol ar y sefyllfa gyffredinol, ac felly’r gostyngiad net cyffredinol o £0.344m.

 

Roedd yr ymgysylltiad rhwng Deiliaid Cyllideb Portffolios a’r Timau Cyllid wedi bod yn llwyddiannus, fodd bynnag, byddai’r gwaith yn parhau i Fis 7 a thu hwnt gyda’r un manyldeb a her mewn ymgais i wella’r sefyllfa ymhellach.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol hefyd fanylion yngl?n â’r sefyllfa amcanol fesul portffolio; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; materion eraill yn ystod y flwyddyn; effaith a risgiau MTFS; cronfeydd wrth gefn a balansau; a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

Cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, ac ni chodwyd unrhyw faterion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020; a

 

 (b)      Nodi lefel derfynol ddisgwyliedig y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai.

99.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019/20 (Mis 6) pdf icon PDF 168 KB

Pwrpas:        Darparu'r wybodaeth ar Fis 6 (diwedd Gorffennaf) y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019/20 i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019/20 (Mis 6) a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i'r Rhaglen Gyfalaf  2019/ 20 ers ei gosod ym mis Chwefror 2019 hyd at ddiwedd Mis 6, ynghyd â’r gwariant hyd yn hyn a'r alldro a ragwelir.

 

                        Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld cynnydd net o £6.948m yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys:

 

·         Cynnydd net o £7.365 miliwn yn y rhaglen (£7.365 miliwn yng Nghronfa’r Cyngor a £0.000 miliwn yn y Cyfrif Refeniw Tai); a

·         Chario swm o £0.417 miliwn ymlaen i 2020/21, a gymeradwywyd ym Mis 4.

 

PENDERFYNWYD:

 

             (a)      Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;

 

             (b)      Cymeradwyo’r addasiadau a nodir yn yr adroddiad o ran cario cyllid ymlaen;

 

 (c)       Cymeradwyo ariannu’r cynlluniau yn defnyddio’r ‘lle’ presennol a’r arbedion TG a nodwyd; a

 

             (d)      Chymeradwyo defnydd y cyllid Ysgogi Economaidd.

100.

Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21 pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2020/21 fel rhan o broses gosod y gyllideb refeniw a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ynghylch y Sylfaen ar gyfer Treth y Cyngor 2020/21 ac esboniodd fod gosod y sylfaen yn rhan annatod o’r broses o osod y gyllideb refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2020/21 ac yn caniatáu i’r Cyngor, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned gyfrifo praesept Treth y Cyngor.

 

                        Roedd y Sylfaen ar gyfer 2020/21 wedi’i chyfrifo ar 64,554 eiddo cyfwerth â Band D, ar ôl ystyried cyfanswm yr eiddo a fyddai’n destun Treth y Cyngor, heb gynnwys y rhai a oedd wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor neu lle’r oedd gostyngiad i aelwyd yn berthnasol.

 

                        Roedd gosod Sylfaen Treth y Cyngor ar 64,554 hefyd yn cynrychioli twf o 0.37% o ran y sylfaen o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sydd yn gyfwerth â chynnydd o 237 o eiddo cyfwerth â Band D.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Sylfaen Drethu ar gyfer 64,554 eiddo sy’n gyfwerth â Band D at ddibenion gosod y dreth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21 yn cael ei chymeradwyo.

 

 (b)      Bod y Cyngor yn parhau i osod ‘dim’ gostyngiad ar gyfer eiddo o fewn unrhyw un o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A, B neu C) a bod hyn yn berthnasol i holl ardal y Sir; a

 

 (c)       Bod y Cyngor yn parhau i osod Premiwm o 50% ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi o fewn y cynllun Premiwm Treth Y Cyngor.

101.

Diweddariad Cynnydd i Ddarparwyr pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Yn dilyn llwyddiant cychwynnol y rhaglen mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso ei gynnydd hyd yma a’r gwaith wedi mynd rhagddo yn 2019/20 i ehangu’r rhaglen ymhellach mewn meysydd newydd a datblygu'r rheiny sydd wedi cyflawni achrediad efydd ymhellach wrth iddyn nhw weithio i gael achrediad arian ac aur.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynnydd i Ddarparwyr a oedd yn codi ymwybyddiaeth o’r prosiect ‘Cynnydd i Ddarparwyr – Creu Lle a Elwir yn Gartref..... Darparu’r Hyn sy’n Bwysig’ a’i ganlyniadau, yn cynnwys cyflwyno’r rhaglen i ddarparwyr gofal cartref.

 

                        Roedd yr adroddiad yn gwerthuso’r cynnydd hyd yma a’r gwaith a oedd yn mynd rhagddo i ehangu’r rhaglen i ardaloedd newydd.

 

                        Er mwyn dangos cynnydd, bu i’r Cyngor gyflwyno 3 lefel o achrediad ar gyfer Cartrefi Gofal a ddilyswyd gan Dîm Contract a Chomisiynu Sir y Fflint mewn partneriaeth â’r Rheolwyr Cartrefi Gofal. 

 

Hyd yma, roedd 15 o Gartrefi Gofal Preswyl wedi bod yn llwyddiannus yn cyflawni achrediad Efydd ac roedd y Tîm Contractau a Chomisiynu yn parhau i weithio â’r Cartrefi Gofal a oedd yn weddill i anelu at achrediad Efydd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y gwaith yn enghraifft ardderchog o weithio mewn partneriaeth mewn cynllun a oedd wedi denu llawer iawn o sylw cadarnhaol yn genedlaethol.

                       

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi effaith ‘Cynnydd i Ddarparwyr – Creu Lle a Elwir yn Gartref...Darparu’r Hyn sy’n Bwysig’; a

 

 (b)      Nodi manylion y camau gweithredu a’r mentrau sy’n mynd rhagddynt i ddatblygu’r rhaglen ymhellach.

102.

Gwasanaeth Anableddau Dysgu Rhanbarthol pdf icon PDF 357 KB

Pwrpas:        Yn dilyn sefydlu’r Gwasanaeth Rhanbarthol, mae'r adroddiad yn rhoi diweddariad ar y cynnydd hyd yma yn ogystal â gweithgaredd wedi'i gynllunio dros y 12 mis nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad ynghylch y Rhaglen Anableddau Dysgu Rhanbarthol: Adroddiad Cynnydd a oedd yn darparu trosolwg o raglen "Gogledd Cymru Gyda'i Gilydd; Gwasanaethau Di-dor ar gyfer pobl gydag Anableddau Dysgu" a oedd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac yn cael ei chynnal gan Sir y Fflint.

 

                        Datblygwyd y rhaglen gydag unigolion ag anableddau dysgu a’u teuluoedd, y chwe ardal awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r trydydd sector.

 

                        Nod y rhaglen oedd ceisio a datblygu’r arfer orau, gan lunio modelau cymorth ar gyfer Gwasanaethau Anableddau Dysgu yng Ngogledd Cymru i’w treialu yn ystod y prosiect, eu mabwysiadu a’u datblygu ochr yn ochr â Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru (2018/2023) wedi i’r rhaglen ddod i ben ym mis Rhagfyr 2020.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y bu cynnydd cadarnhaol yn ystod cam cychwynnol y rhaglen. Roedd arferion arloesol yng Ngogledd Cymru a gallai’r Cyngor ddysgu o’r arferion gorau sydd i’w gweld mewn mannau eraill er mwyn cyflwyno safon gyson ar draws y rhanbarth.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Cefnogi cyfeiriad y Rhaglen Anableddau Dysgu.

103.

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG pdf icon PDF 248 KB

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bwerau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Tai ac Asedau

  • Pryniant Tir

Cyngor Sir y Fflint i brynu darn o dir cytunedig i hwyluso estyniad i fynwent Yr Hôb.

 

  • Gwerthu Unedau 15 a 16, Stâd Ddiwydiannol Parc y Castell, Y Fflint, Sir y Fflint ynghyd â’r tir blaen

Gwerthu Unedau 15 a 16, Stâd Ddiwydiannol Parc y Castell, Y Fflint, Sir y Fflint ynghyd â’r tir blaen cysylltiedig i dirfeddiannwr / cwmni cyfagos mewn perthynas ag ehangu a pharhad busnes. Bydd y Cyngor Sir yn cael derbyniad cyfalaf mewn perthynas â gwaredu.

 

Strydwedd a Chludiant

  • Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Mannau Parcio Oddi ar y Stryd – T? Dewi Sant, Ewlo)(Gorfodaeth Sifil) 201-

Hysbyswyd yr Aelodau o’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn sgil hysbysebu Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Mannau Parcio Oddi ar y Stryd – T? Dewi Sant, Ewlo) (Gorfodaeth Sifil) 201-.

 

  • Gweithredu’r Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2019 a Chyflwyno’r Ffioedd a’r Taliadau Newydd

Yn unol â Pholisi Creu Incwm y Cyngor, cynhaliwyd adolygiad blynyddol 2019 o’r ffioedd a’r taliadau yn cynnwys y newidiadau i’r ffioedd a’r taliadau a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2019, lle bo hynny’n berthnasol. Yn ogystal, bydd ffioedd  / taliadau newydd yn cael eu gosod ar gyfer y canlynol ar sail adennill costau:

 

  • Gwasanaeth Cyn Cyflwyno Cais Systemau Draenio Cynaliadwy;
  • Gwasanaethau Cyn Prynu / Cyn Cyflwyno Cais i Adeiladu Heulfan; a

·         Hawliau Claddu Unigryw, Trosglwyddo Perchnogaeth.

104.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.