Agenda item
Prosiect Archifau ar y Cyd Sir Ddinbych a Sir y Fflint
Pwrpas: Cymeradwyo creu un gwasanaeth Archifau a rennir ar gyfer Sir Ddinbych a Sir y Fflint a dyrannu arian y Cyngor i ddarparu cyfraniad tuag at y gofyniad arian cyfatebol ar gyfer y bid grant Cronfa Treftadaeth y Loteri a rheolaeth prosiect ar gyfer darparu’r adeilad archifau newydd a’r cynllun gweithgareddau cysylltiedig.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad ynghylch y Prosiect Archif ar y Cyd Sir Ddinbych a Sir y Fflint a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i greu gwasanaeth archif arloesol a chynaliadwy mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, ac i ddatblygu cyfleuster archif modern.
Roedd Cynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn wynebu heriau sylweddol o ran yr adeiladau a oedd yn cael eu defnyddio i gadw deunyddiau’r archif. Roedd y ddau gyngor hefyd yn wynebu heriau o ran aneffeithlonrwydd ariannol, cadernid gweithlu a chynaliadwyedd hirdymor. Yr unig ffordd i ddatrys yr heriau hynny oedd drwy ymgymryd â dull radicalaidd ac arloesol a fyddai’n mynd i’r afael â’r anghenion o ran llety o fewn y ddau wasanaeth ac yn creu model darparu gwahanol iawn a fyddai’n ehangu ac yn gwella rôl y gwasanaeth archif yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Cynigiwyd cyflawni hyn drwy wneud cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri am hyd at 70% o’r arian oedd ei angen i adeiladu cyfleuster modern a fyddai’n cefnogi rhwydwaith ehangach o bwyntiau mynediad archif. Byddai hefyd yn darparu rhaglen estyn allan gynhwysfawr i grwpiau cymunedol drwy ei leoliad unigryw, ochr yn ochr â theatr o bwysigrwydd cenedlaethol.
Byddai’r model yn darparu gwasanaeth archif llawer iawn mwy hygyrch ac ymgysylltiol ar draws ardaloedd y ddau Gyngor na’r hyn a oedd yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd, gan gefnogi cyfraniad y Cyngor at y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Esboniodd y Rheolwr Prosiect y byddai’n rhaid i Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych wneud cyfraniad ariannol mewn arian cyfatebol. Roedd y ddau wasanaeth wedi sefydlu partneriaethau gwaith anffurfiol effeithiol, a byddai cymryd y cam nesaf, sef eu huno yn ffurfiol i greu un gwasanaeth, yn rhoi’r cyfle iddynt rannu arbenigedd, sicrhau cadernid gwasanaeth a darparu model sy’n effeithiol yn ariannol ar gyfer y ddau Gyngor.
Cefnogodd yr Aelodau’r cynigion a hygyrchedd arloesol y gwasanaeth yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r canlynol:
· Creu un Gwasanaeth Archif cynaliadwy a rennir â Chyngor Sir Ddinbych
· Adeiladu adeilad archif modern, wedi’i gyd-leoli â Theatr Clwyd, gyda rhwydwaith archif digidol helaeth ar draws y ddwy sir gyda rhaglen gymorth ac ymgysylltu â’r cyhoedd arloesol.
(b) Bod y dyraniad o £3,027,782 o gyllid y Cyngor, £2,979,782 o arian cyfatebol Cronfa Treftadaeth y Loteri a £48,000 o gyllid rheoli prosiectau yn cael eu hymrwymo i gyflawni’r Prosiect Archif ar y Cyd – Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Dogfennau ategol:
- Denbighshire and Flintshire Joint Archive Project, eitem 95. PDF 314 KB
- Appendix 1 - Current Archive Sites, eitem 95. PDF 242 KB
- Appendix 2 - Locations of sites, eitem 95. PDF 212 KB
- Appendix 3 - Draft NLHF, eitem 95. PDF 84 KB
- Appendix 4 - Cashable and non-cashable benefits, eitem 95. PDF 26 KB
- Appendix 5 - Concept Designs, eitem 95. PDF 69 KB
- Appendix 6 - Current access points, eitem 95. PDF 452 KB
- Appendix 7 - Project Risk Register, eitem 95. PDF 115 KB
- Appendix 8 - Wellbeing Impact Assessment Report, eitem 95. PDF 4 MB