Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd cysylltiad. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 17 Ionawr 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir. |
|
Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2023/24 - Cam Cau Terfynol PDF 183 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y cynigion cyllideb terfynol ar gyfer 2023/24 i'w hargymell i'r Cyngor Sir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Aelodau a swyddogion am eu holl waith caled ar y gyllideb a oedd yn ddarn sylweddol o waith. Diolchodd yn arbennig i Aelodau newydd y Cyngor a fu’n rhan o gyfarfodydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gan gynnwys cyfarfodydd arbennig lle cafodd cynigion eu hystyried. Roedd yn edrych ymlaen at osod cyllideb gytbwys yn nes ymlaen yn y diwrnod.
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi derbyn adroddiadau llawn ar gamau blaenorol y broses o osod cyllideb ar gyfer 2023/24.
Cafodd y Cabinet ddiweddariad am y prif benawdau a goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr, ynghyd â diweddariad am y gofyniad cyllideb ychwanegol gynyddol o £32.978m.
Roedd yr adroddiad yn rhoi (1) adborth o gyfres o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu penodol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2022, (2) diweddariad am y risgiau parhaus i’r gofyniad cyllideb ychwanegol a (3) diweddariad am y gwaith sy’n cael ei wneud ar amrywiaeth o ddatrysiadau cyllideb sydd ar gael i’r Cyngor er mwyn gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys. Mae’r gwaith hwnnw bellach wedi dod i ben a chafodd y canlyniad ei nodi yn yr adroddiad, ac roedd yr adroddiad yn nodi argymhellion i’r Cyngor allu gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
Wedi’i nodi yn yr adroddiad hefyd oedd argymhelliad Treth y Cyngor ar gyfer gosod lefelau trethiant lleol ar gyfer 2023/24. Roedd datrysiad ffurfiol yn cael ei gynnig i’r Cyngor yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw fel hysbysiad o braeseptau roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint wedi’i dderbyn. Byddai cyflwyniad llawn yn cael ei wneud yn y Cyngor Sir.
Fe ychwanegodd bod effaith y dyfarniadau tâl y flwyddyn honno yn dangos pwysigrwydd cynnal cronfeydd wrth gefn.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai gwaith ar gyllideb y flwyddyn nesaf yn dechrau cyn gynted ag y byddai gwaith ar gyllideb eleni yn dod i ben. Roedd rhai o’r ffigurau cychwynnol yn heriol ac yn seiliedig ar yr hinsawdd economaidd, fe fyddai angen mabwysiadu safle darbodus er mwyn gosod y gyllideb heddiw. Roedd hi wedi bod yn flwyddyn eithriadol o heriol o ran gosod y gyllideb, yn seiliedig ar bethau megis costau ynni a dyfarniadau tâl.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai cyflwyniad manwl yn cael ei roi yn y Cyngor Sir yn nes ymlaen yn y diwrnod o ran sut roedd y gyllideb arfaethedig wedi cael ei chreu. Roedd diweddariad ar gael, sef y gallai swm o £127,000 gael ei ryddhau i’r Gronfa Wrth Gefn at Raid o Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Digwyddodd hyn yn dilyn cymeradwyaeth y CDLl gan ganiatáu'r ymrwymiadau oedd yn weddill o’r gronfa wrth gefn.
Nodwyd y wybodaeth ganlynol yn yr adroddiad hefyd:
· Tabl 1: Gofyniad cyllidebol ychwanegol ddiwygiedig 2023/24 · Tabl 2: Datrysiadau Arfaethedig Cyllideb 2023/24 · Tabl 3: Cyllideb arfaethedig ar gyfer 2023/24 · Tabl 4: Addasiadau Cyllideb Ysgolion · Tabl 5: Addasiadau Cyllideb Gofal Cymdeithasol · Tabl ... view the full Cofnodion text for item 122. |
|
Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2023/24 PDF 193 KB Pwrpas: Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion. Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd fod rhaid i awdurdodau lleol osod polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mhob blwyddyn ariannol. Roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol neilltuo rhywfaint o adnoddau refeniw fel darpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled.
Mae rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau wneud darpariaeth isafswm refeniw pob blwyddyn y mae’n ei hystyried yn ddoeth. Nid oedd y rheoliadau eu hunain yn diffinio darpariaeth ‘darbodus’. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau sy'n cynnig argymhellion i awdurdodau lleol ar ddehongli'r telerau a gofynnir i awdurdodau baratoi datganiad blynyddol o'u polisi ar wneud isafswm darpariaeth.
Roedd y Cyngor, fel rhan o strategaeth y gyllideb, wedi cynnal adolygiadau manwl o’i bolisi MRP yn 2016/17 a 2017/18 ac wedi diwygio’r polisi o ganlyniad. Nid oedd angen gwneud newidiadau i’r polisi ar gyfer 2023/24.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Gronfa'r Cyngor (CF):-
· Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo MRP ym mlwyddyn ariannol 2023/24 ar gyfer balans gwariant cyfalaf sy’n weddill o fenthyca â chymorth fel y’i gosodwyd ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.
· Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo MRP yn 2023/24 ar gyfer pob gwariant cyfalaf wedi’i ariannu o fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
· Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo MRP yn 2023/24 ar gyfer pob gwariant cyfalaf wedi’i ariannu o fenthyca darbodus heb gymorth neu drefniadau credyd. Bydd y cyfrifiad yn y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’n debygol o gymryd i greu buddion gwariant cyfalaf.
(b) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Cyfrif Refeniw Tai:-
· Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo MRP Cyfrif Refeniw Tai yn 2023/24 ar gyfer balans cyllideb gwariant sy’n ddyledus wedi’i ariannu o ddyled a osodwyd ar 31 Mawrth 2021. Bydd y cyfrifiad yn y dull ‘blwydd-dal’ dros gyfnod o 50 mlynedd.
· Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i gyfrifo MRP Cyfrif Refeniw Tai yn 2023/24 ar gyfer pob gwariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu o ddyled o 1 Ebrill 2021 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
(c) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo i’r Cyngor Sir fod yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (sy’n cael eu hystyried yn wariant cyfalaf yn nhermau cyfrifeg) fel a ganlyn:-
· Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (am gyfnod byr) ... view the full Cofnodion text for item 123. |
|
Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023/24 PDF 205 KB Pwrpas: Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2023/24 i'w argymell i'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Strategaeth Rheoli’r Trysorlys drafft ar gyfer 2023/24 i’w gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor, ar y cyd â:
· Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys Drafft 2023 i 2026 · Arferion ac Atodlenni Rheoli’r Trysorlys Drafft 2023 i 2026
Cafodd yr adroddiad ei ystyried yn fanwl yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 25 Ionawr 2023. Roedd yr adroddiad yn cyd-fynd â hyfforddiant a roddwyd i holl Aelodau'r Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys ar 7 Rhagfyr 2022.
PENDERFYNWYD:
Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo i’w argymell i’r Cyngor:
|
|
Adroddiad ar Gynnydd y Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd PDF 165 KB Pwrpas: Darparu diweddariad ar gynnydd o fewn y rhaglen newid yn yr hinsawdd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd yn 2019 bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi galw ar y Sector Cyhoeddus i fod yn garbon sero net erbyn 2030. Yn dilyn y datganiad hwnnw, roedd y Cabinet wedi penderfynu ym mis Rhagfyr 2019 ar Strategaeth Newid Hinsawdd a fyddai’n gosod amcanion allweddol a chamau i greu Cyngor carbon sero net erbyn 2030.
Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r cynnydd a wnaed yn 2021/22 ar draws y prif themâu yn y strategaeth: Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, Defnydd Tir ac Ymddygiad.
Bu cynnydd o 1% yng nghyfanswm yr allyriadau carbon ar gyfer 2021/22 o waelodlin 2018/09. Bu gostyngiad ym mhob ffynhonnell allyriadau carbon y tu hwnt i’r targedau canran, heblaw am Gaffael gafodd cynnydd o 24%. Roedd yr allyriadau o’r ffynhonnell yma’n uniongyrchol gysylltiedig â gwerth gwariant ac felly, roedd y fethodoleg bresennol yn effeithio’n andwyol ar gyfanswm ôl-troed carbon y Cyngor.
Roedd y gwaith o symud y fflyd ceir i ddewisiadau carbon isel eraill a darparu isadeiledd gwefru cerbydau trydan ar gyfer fflyd y Cyngor yn mynd rhagddo’n araf. Roedd yna hefyd angen i sefydlu newid hinsawdd a lleihau carbon ar draws y Cyngor, a gallai mwy o welededd a darparu hyfforddiant gyflawni hynny.
Byddai rheoli datblygiad ynni effeithlon yn adeiladau’r Cyngor yn galluogi gostyngiadau parhaus ar gyfer y thema hwnno. Roedd y meysydd hynny angen ffocws penodol a chefnogaeth refeniw dros y blynyddoedd i ddod er mwyn cyflynu datgarboneiddio ac i aros ar y trywydd tuag at y nod o fod yn sero carbon net erbyn 2030.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno'n ddiweddar i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd a ffurfiwyd yn ddiweddar, lle cafodd casgliadau’r adroddiad, a’r argymhellion eu cefnogi. Cafodd ei gyflwyno hefyd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, lle cafodd ei gefnogi. Byddai portffolio’n cael ei enwi i gynnal peilot ar gaffael.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell am gaffael, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r effaith caffael fyddai 60/70% bob amser ar unrhyw gorff sector cyhoeddus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adrodd gostyngiad sylweddol felly fe gysylltwyd â nhw er mwyn canfod y manylion o ran sut maent wedi cyflawni hyn. Roedd hi’n her y mae angen i bob corff cyhoeddus yng Nghymru fynd i’r afael â hi.
Fe ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cytunwyd yn ddiweddar gyda Chyngor Sir Ddinbych y byddant yn penodi Swyddog Lleihau Carbon a fyddai’n gweithio mewn ffordd debyg i’r Swyddog Gwerth Cymdeithasol, i weithio gyda’r portffolio peilot er mwyn sefydlu sut y gallai manylion gwasanaeth gael eu hymestyn ar bethau megis adeiladu cartrefi a chludiant.
Dywedodd y Cynghorydd Johnson ei fod yn aelod o’r Cyd-fwrdd Rheoli Caffael a chafodd hyn ei godi yn y cyfarfod diwethaf. Roedd Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo’n llwyr i hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a nodi’r cynnwys;
(b) Cefnogi gwella cyfathrebu mewnol er mwyn codi ymwybyddiaeth ... view the full Cofnodion text for item 125. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 9) PDF 172 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2022/23 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Roedd yr adroddiad yn darogan sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:
Cronfa’r Cyngor · Diffyg gweithredol o £0.117 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniadau cyflog a oedd wedi’u talu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.235 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 8. · Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid sydd ar gael ar 31 Mawrth 2023 yn £6.464 miliwn
Y Cyfrif Refeniw Tai · Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £3.208 miliwn yn uwch na’r gyllideb. · Rhagwelir y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £3.266 miliwn.
Helpodd Cyllid Caledi gan Lywodraeth Cymru i sicrhau dros £16 miliwn o gymorth ariannol uniongyrchol y flwyddyn flaenorol, ac roedd cyfanswm taliadau o £4.8 miliwn ar gyfer 2022/23 yn parhau i gael eu hawlio ar gyfer taliadau ategol Tâl Salwch Statudol a Hunan-ynysu, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim a Taliadau Tanwydd y Gaeaf o fewn eu cyfnodau cymwys.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad ac effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23;
(b) Cefnogi’r cais am ddwyn arian ymlaen sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad; a
(c) Bod y cyllid o Gronfa Wrth Gefn at Raid a amlinellir yn yr adroddiad yn cael ei gefnogi. |
|
Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 9) PDF 207 KB Pwrpas: Darparu gwybodaeth am Raglen Gyfalaf Mis 9 ar gyfer 2022/23. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2022/23, ers ei gosod ym mis Rhagfyr 2021 hyd at ddiwedd Mis 9 (Rhagfyr 2022), ynghyd â gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelir.
Bu gostyngiad net o £20.414 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
· Gostyngiad net yn rhaglenni (£13.750 miliwn) – Cronfa’r Cyngor – £13.283 miliwn), Cyfrif Refeniw Tai (£0.467 miliwn); · Cario ymlaen i 2023/24, yr hyn a gymeradwywyd ym mis 6, o (£4.562miliwn) a Grant ychwanegol Prydau Ysgol am Ddim (£1.767 miliwn) (Cronfa’r cyngor i gyd) · Arbedion a nodwyd ym Mis 9 (£0.335 miliwn – Cronfa’r Cyngor)
Y gwariant gwirioneddol oedd £35.294 miliwn.
Roedd derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd yn nhrydydd chwarter 2022/23 ynghyd ag arbedion a nodwyd yn gyfanswm o £0.882 miliwn. Roedd hynny’n rhoi gwarged diwygiedig a ragwelir yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 9 o £4.258 miliwn (o warged sefyllfa ariannu Mis 6 o £3.376 miliwn) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2022/23, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau ariannu eraill.
Buddsoddiad yn nhrefi’r sir - mae cost deunyddiau yn cael effaith.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad yn gyffredinol;
(b) Cymeradwyo'r addasiadau i gael eu cario ymlaen; a
(c) Chymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol. |
|
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd 2021/2022 PDF 193 KB Pwrpas: Adroddiad ar gynnydd perfformiad y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi parhau i weithredu gwasanaeth caffael ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych, a nhw yw’r awdurdod arweiniol.
Yn rhan o’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth, lluniodd y gwasanaeth caffael ar y cyd adroddiad blynyddol ar y cyd am ei weithgareddau caffael a reoleiddir.
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet i’w ddefnyddio er mwyn darparu diweddariad blynyddol am berfformiad caffael ar gyfer 2021/22.
Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad i’r Cabinet hefyd am ‘FastTrack’, menter a lansiwyd yn 2021/22, oedd yn rhoi’r dewis i gyflenwyr i gael eu talu cyn gynted â bod eu hanfoneb yn cael eu hawdurdodi a chyn eu telerau talu, yn gyfnewid am ad-daliad bychan a gytunwyd arno’n barod. Cafodd yr ad-daliad ei weithredu wrth i’r anfoneb gael ei thalu ac roedd yn cyfateb i sawl diwrnod y cafodd y taliad ei gyflymu. Roedd y fenter Free Pay hefyd yn darparu taliadau cyflym i fusnesau a chyflenwyr am ddim.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod yna ganran gynyddol o gontractau yn cynnwys manteision cymunedol a oedd yn beth da, ac yn darparu model da ar gyfer cydweithio mewnol a fyddai ei angen mewn cysylltiad â lleihau carbon. Pwysleisiodd bwysigrwydd Free Pay a FastTrack ar gyfer busnesau lleol bychan.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Adroddiad Blynyddol Caffael ar gyfer 2021/22 yn cael ei gymeradwyo; a
(b) Bod cynnydd gyda’r mentrau FastTrack a Free Pay yn cael ei nodi. |
|
Cynllun Rheoli Parc Gwepra a chodi tâl PDF 107 KB Pwrpas: Cyflwyno a chytuno ar gynllun rheoli Parc Gwepra newydd, ac ystyried codi tâl am barcio ceir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad a dywedodd fod Parc Gwepra yn un o barciau gorau Sir y Fflint ac mai dyma un o’r parcdiroedd mwyaf hardd a diwylliannol gyfoethog yn y rhanbarth.
Roedd y parc yn bwysig i filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Roedd y Cynllun Rheoli yn nodi’r cyfeiriad strategol a chynllun gweithredu cysylltiedig dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, a’i fod wedi cael ei gefnogi. Mae gwaith wedi digwydd gydag Aelodau lleol a Chyfeillion Parc Gwepra, roedd manylion y gwaith yma wedi’i gynnwys yn atodiad yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r cynllun rheoli 5 mlynedd newydd ar gyfer Parc Gwepra yn cael ei gymeradwyo. |
|
Polisi Cofebion/Eitemau Coffa yng Nghefn Gwlad PDF 96 KB Pwrpas: Cytuno ar bolisi newydd i fynd i’r afael â cheisiadau am gofebion ac eitemau coffa o fewn mannau gwyrdd a chefn gwlad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd yn sgil y galw cynyddol am gofebion mewn mannau agored, yng nghefn gwlad neu wrth ymyl priffyrdd, roedd hi’n angenrheidiol llunio polisi er mwyn sicrhau bod cofebion yn cyd-fynd â chymeriad lleoliadau lleol a’u defnydd a defnyddwyr niferus ac amrywiol.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y polisi ac egwyddorion arfaethedig er mwyn sicrhau dull cyson a sensitif i ddarparu ceisiadau am gofebion.
Fe ailadroddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bwysigrwydd o fod â dull sensitif ar destun lle’r oedd cynnydd mewn galw. Mae’r Polisi wedi cael ei ymestyn i gynnwys priffyrdd.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi lle cafodd ei gefnogi.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod Rhybudd o Gynnig wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir rai blynyddoedd yn ôl, a gafodd ei gefnogi, ond dim ond at dir y Cyngor yr oedd yn berthnasol. Byddai angen rhoi cyhoeddusrwydd i’r polisi er mwyn i’r cyhoedd wybod beth roedd yn rhaid iddynt ei wneud ac er mwyn i’r Cyngor allu amddiffyn ei hun petai strwythurau'n cael eu codi heb gael caniatâd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Polisi. |
|
Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed PDF 117 KB Pwrpas: Ceisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer cyflwyno cais am aelodaeth o Rwydwaith Byd-eang Dinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd y Byd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad oedd yn cynnwys y diweddaraf am ddatblygu Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed yn Sir y Fflint a cheisiodd gefnogaeth i gyflwyno cais i fod yn aelod o Rwydwaith Byd Eang o Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed gan Sefydliad Iechyd y Byd.
Byddai ymaelodi yn arwain at nifer o effeithiau cadarnhaol. Byddai’n arddangos ymrwymiad Sir y Fflint i gefnogi, gwerthfawrogi a dathlu ei phoblogaeth sy’n heneiddio. Byddai hefyd yn gyfle i rannu syniadau arfer gorau ac adnoddau gydag aelodau eraill.
Roedd Sir y Fflint yn un o nifer fechan o siroedd a oedd wrthi’n llunio cynlluniau i gyflwyno cais. Fe ymunodd Caerdydd yn ddiweddar, sef y cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.
Yn Sir y Fflint, roedd yna ymrwymiad hir sefydledig i ddatblygu cymunedau sy'n gyfeillgar i oed. Yng Nghynllun Lles ar gyfer Sir y Fflint, fe flaenoriaethodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint ddatblygiad parhaus gwasanaethau a chymunedau sy’n gyfeillgar i oed.
Gwnaed cynnydd sylweddol dros nifer o flynyddoedd i greu cymunedau sy’n gyfeillgar i oedran ac sy’n deall dementia yn Sir y Fflint. Roedd hynny’n cynnwys sefydlu caffis cymunedol, grwpiau gweithredu, rhannu gwybodaeth, prosiectau rhwng cenedlaethau a mentrau cynhwysiant digidol. Gosododd y gwaith hwnnw sylfaen gadarn er mwyn datblygu a chydweithio pellach, oedd yn cyd-fynd â phroses ymaelodi strwythur rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am eu gwaith gyda’r fenter hon.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd i ddatblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i oed yn Sir y Fflint;
(b) Cymeradwyo'r cynnig bod Sir y Fflint yn cyflwyno cais am aelodaeth o Rwydwaith Byd Eang o Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed gan Sefydliad Iechyd y Byd; a
(c) Rhoi ymrwymiad ar gyfer cefnogaeth barhaus holl wasanaethau’r Cyngor i gydweithio gyda thîm Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud Sir y Fflint yn lle gwych i fyw ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio. |
|
Adrodd yn ôl o Benderfyniad Galw i Mewn Rhif 4056 - Adolygiad Strategaeth Gwastraff PDF 111 KB Pwrpas: Adrodd yn ôl o’r penderfyniad galw i mewn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Thrafnidiaeth) yr eitem a dywedodd fod yr awdurdod dal mewn perygl o gael dirwy sylweddol os nad yw’r targedau ailgylchu’n cael eu cyrraedd. Roedd gwaith yn cael ei wneud i geisio deall pam nad yw’r targedau’n cael eu cyrraedd. Gan ymateb i hynny, fe awgrymodd y Cynghorydd Roberts y dylai’r adroddiad gael ei ohirio tan gyfarfod y Cabinet ym mis Mawrth a fyddai’n rhoi amser iddynt gael cyfarfod gyda’r Gweinidog. Cefnogwyd hyn.
PENDERFYNWYD:
Bod yr eitem yn cael ei ohirio tan gyfarfod y Cabinet ym mis Mawrth. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 99 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i’w lliniaru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae'r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-
Addysg ac Ieuenctid
Datgan nad yw’r adran Addysg angen rhannau o dir ar Gampws Dysgu Queensferry, ac i’w drosglwyddo i’r Tîm Prisio ac Ystadau er mwyn symud ymlaen â Throsglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Gymunedol T? Calon a’r tir cysylltiedig sydd wedi’i adnabod. Bydd hyn yn galluogi Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy i gael gafael ar gyllid yn annibynnol i gyfyngiadau Awdurdod Lleol fel y cytunwyd yn flaenorol gyda COT.
Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol, i ddiddymu dyledion rhwng £5,000 a £25,000. Mae dyled Ardrethi Busnes oedd yn ddyledus rhwng mis Ebrill 2014 a mis Hydref 2016, cyfanswm o £16,843.50, bellach yn cael ei ystyried nad oes modd ei adennill ac ‘wedi’i wahardd drwy statud’ ac mae angen ei ddiddymu. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |