Agenda item

Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2023/24 - Cam Cau Terfynol

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y cynigion cyllideb terfynol ar gyfer 2023/24 i'w hargymell i'r Cyngor Sir.

Cofnodion:

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Aelodau a swyddogion am eu holl waith caled ar y gyllideb a oedd yn ddarn sylweddol o waith.  Diolchodd yn arbennig i Aelodau newydd y Cyngor a fu’n rhan o gyfarfodydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gan gynnwys cyfarfodydd arbennig lle cafodd cynigion eu hystyried.  Roedd yn edrych ymlaen at osod cyllideb gytbwys yn nes ymlaen yn y diwrnod.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi derbyn adroddiadau llawn ar gamau blaenorol y broses o osod cyllideb ar gyfer 2023/24.

 

Cafodd y Cabinet ddiweddariad am y prif benawdau a goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr, ynghyd â diweddariad am y gofyniad cyllideb ychwanegol gynyddol o £32.978m.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi (1) adborth o gyfres o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu penodol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2022, (2) diweddariad am y risgiau parhaus i’r gofyniad cyllideb ychwanegol a (3) diweddariad am y gwaith sy’n cael ei wneud ar amrywiaeth o ddatrysiadau cyllideb sydd ar gael i’r Cyngor er mwyn gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys.   Mae’r gwaith hwnnw bellach wedi dod i ben a chafodd y canlyniad ei nodi yn yr adroddiad, ac roedd yr adroddiad yn nodi argymhellion i’r Cyngor allu gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Wedi’i nodi yn yr adroddiad hefyd oedd  argymhelliad Treth y Cyngor ar gyfer gosod lefelau trethiant lleol ar gyfer 2023/24.   Roedd datrysiad ffurfiol yn cael ei gynnig i’r Cyngor yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw fel hysbysiad o braeseptau roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint wedi’i dderbyn.   Byddai cyflwyniad llawn yn cael ei wneud yn y Cyngor Sir.

 

Fe ychwanegodd bod effaith y dyfarniadau tâl y flwyddyn honno yn dangos pwysigrwydd cynnal cronfeydd wrth gefn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai gwaith ar gyllideb y flwyddyn nesaf yn dechrau cyn gynted ag y byddai gwaith ar gyllideb eleni yn dod i ben.  Roedd rhai o’r ffigurau cychwynnol yn heriol ac yn seiliedig ar yr hinsawdd economaidd, fe fyddai angen mabwysiadu safle darbodus er mwyn gosod y gyllideb heddiw.   Roedd hi wedi bod yn flwyddyn eithriadol o heriol o ran gosod y gyllideb, yn seiliedig ar bethau megis costau ynni a dyfarniadau tâl.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai cyflwyniad manwl yn cael ei roi yn y Cyngor Sir yn nes ymlaen yn y diwrnod o ran sut roedd y gyllideb arfaethedig wedi cael ei chreu.   Roedd diweddariad ar gael, sef y gallai swm o £127,000 gael ei ryddhau i’r Gronfa Wrth Gefn at Raid o Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).   Digwyddodd hyn yn dilyn cymeradwyaeth y CDLl gan ganiatáu'r ymrwymiadau oedd yn weddill o’r gronfa wrth gefn.

 

Nodwyd y wybodaeth ganlynol yn yr adroddiad hefyd:

 

·         Tabl 1: Gofyniad cyllidebol ychwanegol ddiwygiedig 2023/24

·         Tabl 2: Datrysiadau Arfaethedig Cyllideb 2023/24

·         Tabl 3:  Cyllideb arfaethedig ar gyfer 2023/24

·         Tabl 4:  Addasiadau Cyllideb Ysgolion

·         Tabl 5:  Addasiadau Cyllideb Gofal Cymdeithasol

·         Tabl 6:  Rhagolygon Tymor Canolig 2024/25 – 2025/26

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y gofyniad cyllideb ychwanegol ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 yn cael ei nodi a’i gymeradwyo;

 

(b)       Bod y cynigion terfynol ar gyfer y gostyngiadau yn y costau a fydd yn cyfrannu at y gyllideb yn cael eu cymeradwyo;

 

(c)        Bod y Cabinet yn argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys i'r Cyngor yn seiliedig ar y cyfrifiadau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad;

 

(d)       Bod y risgiau agored sy’n parhau i gael eu rheoli yn ystod y flwyddyn ariannol 2023/24 yn cael eu nodi;

 

(e)       Bod cynnydd blynyddol o 3.99% ar Dreth y Cyngor ar gyfer 2023/24 ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor, a 0.96% ar gyfer cyfraniadau i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth y Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol (GwE) - cynnydd o 4.95% yn cael ei argymell;

 

(f)        Bod y Cabinet yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo Treth y Cyngor ffurfiol gan ein bod ni bellach wedi cael gwybod am braeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint; a

 

(g)       Bod y rhagolygon tymor canolig yn sail ar gyfer yr adolygiad nesaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael eu nodi.

Dogfennau ategol: