Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiada chynghori’s Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd ar 15 Mehefin 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2021 eu cyflwyno a'u cadarnhau’n gofnodion cywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir. |
|
Sir y Fflint Digidol PDF 111 KB Pwrpas: Adolygu a diweddaru Strategaeth Ddigidol bresennol y Cyngor, gan ystyried llwyddiannau, newidiadau a dyheadau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Mullin a ddywedodd bod llawer o newidiadau wedi'u gwneud i'r Strategaeth Ddigidol ers ei chymeradwyo bedair blynedd yn ôl, a hynny i raddau helaeth oherwydd bod y Cyngor wedi cyflawni'r amcanion a nodwyd yn y ddogfen. Bu newidiadau hefyd i’r cyd-destun strategol ehangach, megis strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru a helpodd i ddiffinio safonau gofynnol cyffredin ar draws Cymru. Y newidiadau arwyddocaol oedd y rhai a oedd yn angenrheidiol i addasu i'r cyfnod clo a oedd wedi cyflymu'r galw am a darpariaeth gwasanaethau digidol.
Roedd yn awr yn briodol adolygu a diwygio'r strategaeth i adlewyrchu'r ffactorau hyn ac roedd y drafft diwygiedig yn cynnwys dysgu, profiadau, twf ac uchelgais. Roedd hefyd yn cynnwys fel thema ar wahân amcan i helpu i leihau’r allgau y gallai pobl heb y sgiliau, y dyfeisiadau neu'r cysylltedd angenrheidiol i fanteisio ar wasanaethau digidol ei brofi.
Cyfeiriodd y Rheolwr Seilwaith TG at y gweithdai llwyddiannus ar y Strategaeth Ddigidol a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer yr aelodau, a dywedodd bod yr adroddiad wedi'i ystyried a’i gefnogi yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
Ers dechrau’r pandemig Covid-19 roedd nifer y bobl a oedd yn gallu gweithio gartref wedi cynyddu o 800 i dros 1500 mewn 10 diwrnod. Rhoddwyd enghreifftiau o achosion pan oedd y Cyngor wedi ymateb i'r pandemig drwy ddarparu gwaith mewn ffyrdd gwahanol; dwy enghraifft oedd galluogi dysgu o bell drwy ddarparu atebion mynediad o bell ar gyfer ysgolion a chyflenwi dyfeisiadau ac unedau WiFi symudol i ddysgwyr dan anfantais ddigidol ledled Sir y Fflint. Mae enghreifftiau eraill wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt Cwsmeriaid, fel rhan o loywi’r amcanion yn Strategaeth y Cyngor yn dilyn adolygiad Archwilio Cymru, bod gwaith wedi’i wneud i adnabod:
· Galwadau a disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau; · Meysydd i’w datblygu; a · Newidiadau i arferion a gweithdrefnau gwaith
Roeddent wedi’u hadolygu yn y Strategaeth ddiwygiedig, ynghyd â’r newidiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Roedd gwaith ar y gweill i sicrhau bod costau cywir wedi’u haseinio i’r prosiectau a’r uchelgeisiau yn y strategaeth. Byddai hynny’n creu cynllun cyllido ac yn sicrhau bod unrhyw fylchau cyllido posibl yn cael eu hadnabod mor fuan â phosibl.
Byddai ymgynghoriad yn digwydd gyda grwpiau defnyddwyr a phreswylwyr drwy gydol yr haf.
Soniodd pob aelod am bwysigrwydd cysylltiadau digidol, yn enwedig ers y pandemig, a oedd wedi arwain at ostyngiadau mewn amseroedd teithio i gyfarfodydd oherwydd eu bod yn cael eu cynnal yn rhithiol, a'r gefnogaeth a roddwyd i breswylwyr, yn enwedig preswylwyr bregus.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Rheolwr Cyswllt Cwsmeriaid bod Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn cynnig mynediad at gyfrifiaduron ac iPads ac yn parhau i weithredu'r rheolau pellter cymdeithasol.
Gofynnodd y Cynghorydd Banks gwestiwn am Wasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru o dan ‘Bartneriaeth Ddigidol’. Eglurodd y Rheolwr Seilwaith TG bod hyn yn ymwneud â darn o waith a oedd wedi’i gwblhau lle’r oedd Cyngor Sir y Fflint yn darparu’r seilwaith TG ac yn ail-ffurfweddu ... view the full Cofnodion text for item 15. |
|
Arolygiaeth Gofal Cymru – Canlyniadau Ymweliad Sicrwydd PDF 108 KB Pwrpas: Nodi canlyniad Ymweliad Sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) a chymeradwyo'r ymateb a'r cynllun gweithredu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad gan egluro mai Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheolydd annibynnol Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yng Nghymru. Maent yn rheoleiddio gofal cymdeithasol a gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar gan ddefnyddio’r rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Roedd yr adroddiad yn cyflwyno casgliadau’r Gwiriad Sicrwydd o Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Sir y Fflint yr oedd AGC wedi’i gynnal yn ddiweddar ac yn nodi'r ymateb gweithredol a'r cynllun gweithredu ar gyfer y meysydd i’w gwella a ddynodwyd yn eu llythyr.
Cynhaliwyd y Gwiriad
Sicrwydd rhwng 19 a 23 Ebrill gydag wyth Arolygwr yn cyfarfod
unigolion, teuluoedd, ymarferwyr, rheolwyr ac asiantaethau partner
, cyfarfodydd gydag unigolion, teuluoedd, ymarferwyr, rheolwyr ac
asiantaethau partner.
· Pobl – Llais a Rheolaeth · Atal · Lles · Partneriaeth ac Integreiddio
Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu adborth AGC bod llawer o gryfderau yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ac roedd yr arolygwyr ‘yn dawel eu meddwl’ bod Sir y Fflint yn diwallu ei swyddogaethau statudol i gadw pobl yn ddiogel ac i hyrwyddo eu lles yn ystod y pandemig, a bod y Cyngor yn llwyddo i atal plant rhag gorfod mynd i mewn i ofal, a bod plant a phobl ifanc yn mynd yn ôl at eu teuluoedd os oedd hynny'n briodol.
Roedd y llythyr hefyd yn dynodi meysydd i’w gwella yn cynnwys rhoi rhagor o ystyriaeth i werth eiriolwyr annibynnol i gefnogi plant a phobl ifanc. Nodwyd fel maes i’w wella hefyd yr angen i ofalu bod digon o dystiolaeth o ddadansoddi angen a gwneud penderfyniadau yng nghofnodion gofal y Gwasanaethau Plant.
Canmolodd yr Aelodau’r Adroddiad Blynyddol a diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell sut y cynigir gwasanaeth eiriolaeth annibynnol i bobl ifanc. Eglurodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu bod ar y Cyngor ddyletswydd i wneud ‘cynnig gweithredol’ ar bwyntiau allweddol fel bod pobl ifanc yn ymwybodol o’u hawl i gael eiriolwr a beth y mae hynny'n ei olygu. Codwyd hyn hefyd yn ystod adolygiad pob unigolyn ifanc. Ychwanegodd bod Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi nodi bod staff yn dda ac yn rhagweithiol o ran siarad dros plant. Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Bithell am recriwtio, eglurodd yr Uwch Reolwr - Plant a'r Gweithlu mai Glynd?r yw Prifysgol gysylltiol y Cyngor er bod graddedigion o brifysgolion eraill wedi'u recriwtio yn y gorffennol hefyd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r ymateb gweithredol a'r cynllun gweithredu. |
|
Adroddiad blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 93 KB Pwrpas: Cymeradwyo'r adroddiad blynyddol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr Adroddiad ac eglurodd ei bod yn ofynnol i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol lunio adroddiad blynyddol yn crynhoi eu barn am swyddogaethau gofal cymdeithasol a blaenoriaethau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella, fel sydd wedi'i ddeddfu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoliadau ac Arolygiadau (Cymru) 2015.
Roedd yr adroddiad yn nodi’r siwrnai at welliant ac yn gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl a oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.
Roedd y Rhagair wedi’i ddarparu gan y Prif Weithredwr sydd wedi chwarae rhan bwysig yn y sector gofal cymdeithasol.
Diolchodd yr Aelodau i’r holl staff am y gwaith yr oeddent wedi'i wneud, yn arbennig yn ystod y pandemig.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r adroddiad terfynol gan ystyried adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a nodi bod yr adroddiad yn cynnwys datblygiadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf a blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb Cronfa'r Cyngor 2022/23 PDF 101 KB Pwrpas: Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer gofynion y gyllideb ar gyfer 2022/23 a’r strategaeth o ran cyllido’r gofynion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn adolygu ac yn diweddaru’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn flynyddol, a chyn cynllunio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.
Roedd y rhagolygon diweddaredig yn dangos yr hoffai’r Cyngor fod ag isafswm gofyniad cyllideb o £16.750m o adnoddau refeniw yn ychwanegol ar gyfer 2022/23.
Hwn oedd cam cyntaf datblygu’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Yn ystod mis Medi a Hydref, byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu gwahodd i adolygu pwysau costau, a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli costau ac effeithlonrwydd, o dan eu cylch gorchwyl perthnasol.
Pan fyddai’r gwaith wedi’i wneud, byddai’r Cyngor mewn sefyllfa gref i allu dweud wrth y Llywodraethau, partneriaid lleol, rhanddeiliaid a'r cyhoedd sut y gellid gwireddu cyllideb gyfreithlon, ddiogel a mantoledig ar gyfer 2022/23 a beth fyddai'n angenrheidiol o ran cyllid cenedlaethol drwy Grant Cynnal Refeniw (GCR). Roedd ymgysylltu eisoes yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru (LlC) drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Roedd yr Aelodau’n ymwybodol o’r ffaith er y gellid dynodi rhai arbedion cost ac arbedion effeithlonrwydd fel rhan o'r broses flynyddol o osod y gyllideb, nid fyddai unrhyw arbedion mawr yn bosibl bellach ar ôl degawd o danariannu Llywodraeth Leol.
Roedd y Cyngor, gyda phob cyfiawnhad, wedi cadw at yr egwyddor na fyddai'n torri cyllideb unrhyw wasanaeth i'r fath raddau bod y gwasanaeth hwnnw'n cael ei wneud yn anniogel neu os byddai gwneud hynny'n golygu na fyddai'r Cyngor yn diwallu ei safonau ansawdd ac/neu yn methu â diwallu ei ddyletswyddau statudol.
Roedd y Cyngor hefyd wedi cymryd y safiad na ddylai’r cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor fod yn fwy na 5%. Dylai’r ffigwr hwn gael ei drin fel uchafswm ac nid fel hawl i godi incwm lleol. Mae perygl y bydd Treth y Cyngor yn mynd yn anfforddiadwy i fwy a mwy o bobl ac yn marn y Cyngor cyfrifoldeb y Llywodraethau ac nid trethdalwyr lleol yw sicrhau cyllid llawn a theg ar gyfer llywodraeth leol. Felly, bydd angen i Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer 2022/23 – a osodir ac ariennir gan Lywodraeth Cymru – fod yn ddigonol.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r tîm cyllid am y modd y maent yn ymdrin â’r materion cyllidol, yn cynnwys y sylw a'r gofal a roddwyd i breswylwyr nad oeddent wedi gallu gwneud taliadau i'r Cyngor.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi cefnogi’r amcangyfrif cyllidol ond wedi gofyn hefyd bod adolygiad o falansau gwasanaethau’n cael ei gynnal. Yn ogystal, anogodd y Pwyllgor bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu arall i arddel ymdriniaeth rymus.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y gofyniad cyllidol ychwanegol a bod adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei dderbyn
(b) Bod y pwysau costau’n cael eu cyfeirio i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Medi/Hydref i’w hadolygu; ac
(c) Bod yr atebion sydd ar gael i gwrdd â’r pwysau costau’n cael eu nodi a bod strategaeth gyllido 2022/23 yn cael ei hailosod. |
|
Monitro'r Gyllideb Refeniw 2020/21 (Canlyniadau) PDF 159 KB Pwrpas: Cyflwyno gwybodaeth fonitro canlyniad y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi sefyllfa alldro derfynol cyllideb refeniw Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21. Roedd yr adroddiad yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran hawliadau a wnaed i gronfa galedi Llywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd y Datganiad Cyfrifon ffurfiol a’r nodiadau ategol i’r Pwyllgor Archwilio ar 15 Awst a byddant yn awr yn cael eu harchwilio dros yr haf gyda’r cyfrifon wedi’u harchwilio terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ym mis Medi er cymeradwyaeth ffurfiol. Mae’r pandemig Covid-19 wedi creu heriau digynsail i'r Cyngor; mae'r effaith ariannol dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn sylweddol ac wedi cynnwys pwysau costau o ganlyniad i'r ymateb a oedd yn angenrheidiol, er enghraifft prynu PPE, taliadau i ddarparwyr gofal cymdeithasol, llety i’r digartref a gostyngiadau sylweddol mewn incwm wedi’i gynllunio o wasanaethau’r Cyngor.
Darparodd Grant Caledi Brys Llywodraeth Cymru gymorth ariannol i ymdrin â’r costau ychwanegol a ddeilliodd o'r pandemig, ynghyd â chymorth ariannol i liniaru colled incwm o wasanaethau’r Cyngor. Roedd y Cyngor yn rhagamcanu cyfanswm cyllid o £13.5m ar gyfer gwariant ychwanegol a £4.3m am incwm a gollwyd ac roedd hynny wedi’i adlewyrchu yn y sefyllfa alldro.
Hon oedd y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn:
Cronfa’r Cyngor · Gwarged gweithredol o £2.185 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a dalwyd o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.273 o’r ffigwr gwarged o £1.912 a adroddwyd ym Mis 11. · Roedd y gwarged gweithredol o £2.185m gyfwerth a 0.8% o’r Gyllideb Gymeradwy, a oedd ychydig yn uwch na DPA y SATC o amrywiad yn erbyn y gyllideb o 0.5% · Rhagwelwyd y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.685 miliwn.
Y Cyfrif Refeniw Tai · Gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £2.866m yn is na’r gyllideb. · Roedd balans terfynol heb ei neilltuo o £5.039m ar 31 Mawrth 2021.
Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi symudiadau arwyddocaol o fis 11, risgiau ariannol allweddol, incwm Treth y Cyngor, y cynllun gostyngiadau Treth y Cyngor, gwireddiad arbedion effeithlonrwydd wedi'u cynllunio yn y flwyddyn, cronfeydd wrth gefn a balansau, cronfeydd wedi'u neilltuo o gronfa’r cyngor a chais i ddwyn cyllid ymlaen.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021;
(b) Nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; a
(c) Cymeradwyo’r cais i ddwyn arian ymlaen. |
|
Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Sefyllfa Derfynol) PDF 298 KB Pwrpas: Cyflwyno’r wybodaeth am Sefyllfa Derfynol Rhaglen Gyfalaf 2020/21. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r sefyllfa alldro derfynol ar gyfer 2020/21 ynghyd â’r newidiadau a wnaed i'r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter olaf.
Bu gostyngiad net o £10.726m yng nghyllideb y Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter diwethaf a oedd yn cynnwys:
· Gostyngiad net o £3.996m yn y rhaglen - £4.082m yng Nghronfa’r Cyngor a £0.086m yn y Cyfrif Refeniw Tai · Swm dwyn ymlaen net o £4.352m hyd 2021/22 · Arbedion ar y pwynt Alldro o £0.650m .
Gwir wariant yn y flwyddyn oedd £62.915m Y gwarged cyllido alldro o Raglen Gyfalaf 2021/22 oedd £1.968m.
Cymeradwywyd Rhaglen Gyfalaf 2021/22 – 2023/24 ar 8 Rhagfyr 2020, gyda diffyg cyllido o £1.317m. Yn dilyn y setliad llywodraeth leol terfynol, derbyniodd y Cyngor gyllid ychwanegol a arweiniodd at sefyllfa o warged o £0.144m i'r rhaglen dros y cyfnod o dair blynedd. Byddai dwyn y gwarged hwn ymlaen yn arwain at sefyllfa gyllido agoriadol o warged o £2.112m cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu arian o ffynonellau ariannu eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad;
(b) Cymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen. |
|
Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2020/21 PDF 103 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2020/21 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod yn rhaid i'r Cyngor, o dan y Cod Materion Ariannol ar gyfer Cyllid Cyfalaf Mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Ariannol), fel y’i diweddarwyd yn 2017, bennu amrediad o Ddangosyddion Darbodus. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2020/20 o gymharu â'r amcangyfrifon a bennwyd ar gyfer:
· Dangosyddion Darbodus ar gyfer Doethineb Ariannol · Dangosyddion Darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd;
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r adroddiad; |
|
2021/22 monitro cyllideb refeniw (Interim) PDF 112 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi'r trosolwg cyntaf o sefyllfa fonitro'r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. Adroddwyd drwy eithriad ar amrywiadau arwyddocaol a allent effeithio ar sefyllfa ariannol 2021/22.
Yn seiliedig ar y lefel uchel o ragdybiaethau yn yr adroddiad, roedd yr amrywiadau posibl yn y gyllideb a ddynodwyd fesul Portffolio gyfwerth ag isafswm gofyniad gwariant net ychwanegol o £1m.
Byddai’r gallu i liniaru’r risgiau ariannol a gododd yn sgil y pandemig yn hanner cyntaf y flwyddyn yn dibynnu i raddau helaeth ar barhad arian caledi a cholled incwm gan Lywodraeth Cymru. Ar y cam hwn roedd yn ansicr a fyddai’r Gronfa Caledi’n cael ei hymestyn y tu hwnt i fis Medi pe bai’r cyfyngiadau presennol cysylltiedig â’r pandemig yn parhau. Ni chymerwyd unrhyw ystyriaeth o’r risgiau ariannol a fyddai’n codi pe na cheid unrhyw arian ychwanegol mewn sefyllfa o bandemig hirfaith.
Bydd adroddiad monitro manwl a chyflawn yn cael ei ddarparu ym mis Medi a fydd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa ariannol gyffredinol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a'r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb ariannol 2021/22;
(b) Cymeradwyo trosglwyddiad cyllidol o £0.175m rhwng Gwasanaethau Ardaloedd Lleol i Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig o fewn cyllideb brynu’r Gwasanaethau Pobl H?n, a throsglwyddiad cyllidol o £0.300 rhwng Gwasanaethau Ardaloedd Lleol i'r Gyllideb Gwasanaethau Iechyd Meddwl Preswyl; a
(c) Cymeradwyo clustnodi arian o’r Gronfa Wrth Gefn at Raid ar gyfer Buddsoddi mewn Newid (£0.400m) a Thywydd Garw (£0.250m). |
|
Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2021 PDF 102 KB Pwrpas: Cyflwyno'r adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2021, gan gynnwys rhestr wedi’i diweddaru o ffioedd a thaliadau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a dywedodd bod yr adolygiad o ffioedd a thaliadau 2021 wedi’i gwblhau yn unol â Pholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor sy’n nodi'r rhesymeg a'r broses ar gyfer adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau. Roedd canlyniad yr adolygiad hwnnw i’w weld yn yr atodiad i'r adroddiad.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu gofynion yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2022, yn enwedig y ffioedd a'r taliadau hynny sy’n destun cynnydd chwyddiannol bob tair blynedd.
Dywedodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata bod llawer o’r gwasanaethau y codir tâl amdanynt, a'r rhesymeg, wedi'u cynnwys yn y Polisi Cynhyrchu Incwm, gan egluro nad oedd rhai ohonynt ar ddisgresiwn y Cyngor oherwydd eu bod yn statudol. Byddai fersiwn hawdd i gwsmeriaid ei ddefnyddio o'r rhestr ffioedd a thaliadau ar gael a fyddai'n amlinellu amlder taliadau (unwaith yn unig, wythnosol, misol ac ati).
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r rhestr o ffioedd a thaliadau sydd i’w gweld yn Atodiad A i’w rhoi ar waith ar 1 Hydref 2021.
(b) Bod fersiwn hawdd ei ddefnyddio o’r amserlen ffioedd a thaliadau’n cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi.
(c) Bod gofynion yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2022 yn cael eu nodi, a manylion am y graddau y gwireddwyd y gofynion hynny'n cael eu cynnwys mewn adroddiad i’r Cabinet ar gyflawniad y gofynion hynny ym mis Gorffennaf 2022. |
|
Gorfodaeth Gwastraff Wrth Ochr y Bin ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol PDF 113 KB Pwrpas: Gorfodaeth Gwastraff Wrth Ochr y Bin ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac eglurodd oherwydd y pandemig Covid-19 bod gorfodaeth gwastraff ochr wedi’i ohirio ym mis Mawrth 2020 ac ers yr adeg hynny bod cynnydd o 3,000 tunnell o wastraff ochr wedi'i gasglu o eiddo preswyl, sydd yn gynnydd o 12% o gymharu â'r flwyddyn cyn y pandemig.
Yn ychwanegol at gynnydd mewn gwastraff ochr, gwelwyd cynnydd mewn gwastraff dros ben o gartrefi’n cael ei gyflwyno mewn mannau casglu gwastraff cymunedol ac yn cael ei adael mewn alïau a mannau gwyrdd agored sydd wedi arwain at bryder cynyddol ynghylch tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel. Er mwyn annog preswylwyr i barhau i ailgylchu, cynigiwyd y dylid ailgyflwyno’r cyfyngiadau gwastraff ochr yn ogystal â gorfodaeth wrth gasglu o ymyl y palmant.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu ymdriniaeth y Cyngor o ran ailgyflwyno gorfodaeth gwastraff ochr o 1 Medi 2021 a sut y bwriedir ymdrin â’r cynnydd mewn troseddau amgylcheddol mewn ymdrech i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwella Ansawdd yr Amgylchedd Lleol (AALl).
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheolaethol y byddai ymgyrch ledled y sir yn cael ei chynnal cyn ailgyflwyno unrhyw orfodaeth gwastraff ochr i sicrhau bod yr holl breswylwyr yn ymwybodol o'r newid. Cadarnhaodd nad gorfodaeth uwch oedd yn cael ei gynnig a bod y cyngor eisiau gweithio gyda phreswylwyr i gynnig atebion.Dylid cynnal ymgyrchoedd addysgol a sicrhau bod cyllid ar gael i wneud hyn.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb a ddaeth at ei gilydd yn ystod y pandemig i gynnig gwasanaeth codi sbwriel yn eu cymunedau. Cynigiodd argymhelliad ychwanegol gan ei fod yn teimlo bod angen swyddogion gorfodi dynodedig i ymdrin â thipio anghyfreithlon. Yr argymhelliad ychwanegol oedd “y dylid dod ag adroddiad ychwanegol yn ôl i’r Cabinet yngl?n â swyddogion gorfodi dynodedig ychwanegol i ddelio â gwastraff ochr a thipio anghyfreithlon."
PENDERFYNWYD:
(a) Bod gorfodaeth gwastraff ochr mewn casgliadau ymyl y palmant yn cael ei ailgyflwyno o 1 Medi 2021.
(b) Cymeradwyo’r cynnig bod rhagor o waith yn cael ei wneud i archwilio’r opsiynau ar gyfer rôl ddynodedig i hyrwyddo a chynnal ymgyrchoedd gwella’r amgylchedd mewn cymunedau lleol; a
(c) Bod adroddiad ychwanegol yn dod yn ôl i’r Cabinet yngl?n â swyddogion gorfodi dynodedig ychwanegol ychwanegol i ddelio â gwastraff ochr a thipio anghyfreithlon." |
|
Y Diweddaraf am Ddiwygio’r Gyfundrefn Les PDF 187 KB Pwrpas: I gyflwyno diweddariad ar effaith Diwygio’r Gyfundrefn Les ar breswylwyr Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor, ar y cyd a’i bartneriaid, wedi bod yn gwneud gwaith i rwystro effeithiau llawn y diwygiadau lles rhag disgyn ar breswylwyr agored i niwed Sir y Fflint. Roedd yr adroddiad y ystyried sut y byddai’r Cyngor yn parhau i reoli effeithiau’r diwygiadau a gyflwynwyd dan ddarpariaethau Deddf Diwygio Lles a Gwaith 2016.
Cafwyd diweddariad ar yr effeithiau y mae diwygiadau lles yn parhau i’w cael ar drigolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n digwydd i’w lliniaru ac i gefnogi’r aelwydydd perthnasol.
Mae Covid-19 wedi effeithio’n arwyddocaol ar aelwydydd agored i niwed ac roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o fesurau a ddatblygwyd i helpu'r rhai hynny sydd wedi'u heffeithio gan y pandemig a'r gefnogaeth a roddwyd i drigolion er mwyn ceisio lliniaru'r effeithiau negyddol.
Tynnodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) sylw’r Aelodau at y manylion yn yr adroddiad yngl?n â: dileu’r cymhorthdal ystafell sbâr; y cap ar fudd-dal; credyd cynhwysol a’r effeithiau yr oedd y rhain wedi’u cael yn Sir y Fflint. Rhoddodd fanylion hefyd ar ddiweithdra yng Nghymru ac yn Sir y Fflint; y gwasanaeth help i hawlio; Credyd Cynhwysol – ‘ymfudo a reolir’; y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor; y cynllun cadw swyddi; taliad grant cymorth yn sgil cyfarwyddyd y gwasanaeth profi ac olrhain GIG i ynysu; taliadau bonws gofalwyr; gwasanaethau cymorth a thaliadau tai yn ôl disgresiwn.
Ychwanegodd nad yw Cymorth Cyllidebu Personol bellach yn cael ei ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fodd bynnag, byddai cymorth lles a chyllidebu yn parhau i gael eu darparu gan y Tîm Diwygio Lles oherwydd yr adnoddau ychwanegol a gafwyd ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ac mae pwysau ariannol pellach wedi'i amlygu ar gyfer blwyddyn tri.
Diolchodd yr aelodau i’r tîm am yr holl help a chefnogaeth a roddwyd i breswylwyr i rwystro gwaeth sefyllfaoedd.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi’r adroddiad gan gynnwys y gwaith parhaus i reoli'r effeithiau y mae'r Diwygiadau Lles yn eu cael ac y byddant yn parhau i’w cael ar yr aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint. |
|
Pwrpas: Cyflwyno sefyllfa derfynol diwedd y flwyddyn ar gyfer 2020/21 a diweddariad gweithredol ar gasglu rhent a lefelau dyledion presennol ar gyfer 2021/22. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn ddiweddariad gweithredol ar berfformiad o ran casglu incwm rhent tai ar ddiwedd blwyddyn 2020/21, yn cynnwys y sefyllfa ddiweddaraf o ran casgliadau yn 2021/22.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod alldro 2020/21 wedi dangos ôl-ddyledion rhent o £1.854m o gymharu â £1.815m yn y flwyddyn flaenorol – cynnydd mewn ôl-ddyledion o £39k. Roedd y data’n gadarnhaol o’i gymharu â rhagolygon cynharach ar gyfer ôl-ddyledion rhent ar gyfer y gwasanaeth yn ystod y 12 mis diwethaf, yn arbennig ar amser pan fo’r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar allu rhai tenantiaid i dalu eu rhent ar amser.
Rhoddodd hefyd wybodaeth am gyflwyniad y cynllun Seibiant Dyledion yng Nghymru a Lloegr o fis Mai 2021 sydd i'w groesau oherwydd y bydd yn rhoi cyfnod o 60 diwrnod o amddiffyniad cyfreithiol rhag eu credydwyr i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion, yn cynnwys ôl-ddyledion rhent. Roedd yr amddiffyniadau’n cynnwys oedi’r rhan fwyaf o gamau gorfodi a chyswllt gan gredydwyr.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi'r adroddiad gan nodi'r sefyllfa diwedd blwyddyn o £1.854m perthnasol i ôl-ddyledion rhent yn 2020/21. |
|
Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2021/22 PDF 113 KB Pwrpas: Argymell y ffioedd gwresogi arfaethedig yn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2021/22 cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod y portffolio'n gweithredu wyth cynllun gwresogi cymunol yn Sir y Fflint. Mae’r Cyngor yn trafod prisiau tanwydd ymlaen llaw ac mae tenantiaid yn elwa o gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor.
Roedd y ffioedd gwresogi cymunol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau (negyddol a chadarnhaol) ar y gronfa wresogi wrth gefn.
Roedd y taliadau arfaethedig i'w hailgodi yn 2021/22 wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pris i denantiaid wedi gostwng ar gyfer 2021/22 sydd, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill costau disgwyliedig o ffioedd gwresogi gan barhau i drosglwyddo manteision costau ynni is i denantiaid.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r newidiadau i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymudol a fydd yn dod i rym ar 30 Awst. |
|
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG PDF 205 KB Pwrpas: Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:
Tai ac Asedau
Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi y dylid ystyried ar y cyd â’r Aelod Cabinet perthnasol a ddylid dileu dyledion drwg a rhai nad oes modd eu hadennill sydd dros £5,000. Mae’r penderfyniad i ddileu’r ddyled yn ymwneud ag un tenant sy’n destun Gorchymyn Methdalu. Mae ôl-ddyledion rhent o £6,278.04 wedi’u cynnwys yn y gorchymyn na fydd modd eu hadennill bellach o ganlyniad i gyflwyniad y gorchymyn.
Gwasanaethau Stryd a Chludiant
Tir Dros Ben Cyngor Sir y Fflint - trosglwyddo Cae Chwarae Pentre Helygain i gr?p cymunedol lleol dan les am 27 mlynedd a fydd yn cynnwys cyfrifoldebau cynnal a chadw'r dyfodol.
Parhau i atal taliadau parcio ceir tan 30 Medi 2021.
Addysg ac Ieuenctid
Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
Gwneud am hawddfreintiau a hawliau Wales and West Utilites dros gysylltiadau nwy a’r gwaith cynnal a chadw cysylltiedig i’r adeiladau newydd ar Gampws Dysgu Queensferry.
Cyllid Corfforaethol
Mae Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn pennu y dylai unrhyw ddyledion unigol gwerth rhwng £5,000 a £25,000 gael ei hadrodd i'r Prif Swyddog Cyllid (Rheolwr Cyllid Corfforaethol / Swyddog Adran 151) i ystyried eu dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Cyllid.
Mae’r atodlen yn rhoi manylion llawn 3 dyled gwerth cyfanswm o £35,993.24 a ddilëwyd ac yn rhoi enw, cyfeiriad, gwerth a'r rheswm dros bob dilead unigol os oedd y ddyled hollgynhwysfawr yn fwy na £5,000. Aethpwyd ar drywydd pob dull posibl o adfer yr arian, yn cynnwys defnyddio asiantau casglu dyledion ac achosion llys sirol, heb lwyddiant. Ni ellir cymryd unrhyw gamau pellach i adfer y balans sy’n weddill. |
|
Teuluoedd Yn Gyntaf – Cyllid Contract 2022/2024 Pwrpas: Cais i gymeradwyo Caffael ar gyfer Gwasanaethau Teuluoedd Yn Gyntaf 2022/24. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
29. TEULUOEDD YN GYNTAF – ARIAN CONTRACT 2022-2024
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gaffael gwasanaethau atal a chymorth Teuluoedd yn Gyntaf wedi'u hariannu am hyd at ddwy flynedd, gydag opsiwn i ymestyn hyn am flwyddyn arall, yn amodol ar gymeradwyaeth cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo ail-gaffael y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf (a ariennir gan Lywodraeth Cymru) am gyfnod o ddwy flynedd (Ebrill 2022 – Mawrth 2024) gydag opsiwn i ymestyn y rhaglen am flwyddyn arall pe bai angen. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |