Agenda item

Monitro'r Gyllideb Refeniw 2020/21 (Canlyniadau)

Pwrpas:        Cyflwyno gwybodaeth fonitro canlyniad y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi sefyllfa alldro derfynol cyllideb refeniw Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21.  Roedd yr adroddiad yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran hawliadau a wnaed i gronfa galedi Llywodraeth Cymru.

 

Cyflwynwyd y Datganiad Cyfrifon ffurfiol a’r nodiadau ategol i’r Pwyllgor Archwilio ar 15 Awst a byddant yn awr yn cael eu harchwilio dros yr haf gyda’r cyfrifon wedi’u harchwilio terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ym mis Medi er cymeradwyaeth ffurfiol. Mae’r pandemig Covid-19 wedi creu heriau digynsail i'r Cyngor; mae'r effaith ariannol dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn sylweddol ac wedi cynnwys pwysau  costau o ganlyniad i'r ymateb a oedd yn angenrheidiol, er enghraifft prynu PPE, taliadau i ddarparwyr gofal cymdeithasol, llety i’r digartref a gostyngiadau sylweddol mewn incwm wedi’i gynllunio o wasanaethau’r Cyngor.

 

Darparodd Grant Caledi Brys Llywodraeth Cymru gymorth ariannol i ymdrin â’r costau ychwanegol a ddeilliodd o'r pandemig, ynghyd â chymorth ariannol i liniaru colled incwm o wasanaethau’r Cyngor.  Roedd y Cyngor yn rhagamcanu cyfanswm cyllid o £13.5m ar gyfer gwariant ychwanegol a £4.3m am incwm a gollwyd ac roedd hynny wedi’i adlewyrchu yn y sefyllfa alldro.

 

            Hon oedd y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn:

 

            Cronfa’r Cyngor

·         Gwarged gweithredol o £2.185 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a dalwyd o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.273 o’r ffigwr gwarged o £1.912 a adroddwyd ym Mis 11.

·         Roedd y gwarged gweithredol o £2.185m gyfwerth a 0.8% o’r Gyllideb Gymeradwy, a oedd ychydig yn uwch na DPA y SATC o amrywiad yn erbyn y gyllideb o 0.5%

·         Rhagwelwyd y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.685 miliwn.

           

            Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £2.866m yn is na’r gyllideb.

·         Roedd balans terfynol heb ei neilltuo o £5.039m ar 31 Mawrth 2021.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi symudiadau arwyddocaol o fis 11, risgiau ariannol allweddol, incwm Treth y Cyngor, y cynllun gostyngiadau Treth y Cyngor, gwireddiad arbedion effeithlonrwydd wedi'u cynllunio yn y flwyddyn, cronfeydd wrth gefn a balansau, cronfeydd wedi'u neilltuo o gronfa’r cyngor a chais i ddwyn cyllid ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021;

 

(b)       Nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; a

 

(c)        Cymeradwyo’r cais i ddwyn arian ymlaen.

Dogfennau ategol: