Strwythur y Pwyllgor

Gwybodaeth am yr hyn sy’n cael ei drafod yng nghyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a’r Pwyllgorau sydd ar agor i’r cyhoedd.

Ni fydd rhai adroddiadau ar gael i’r cyhoedd oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio; bydd manylion adroddiadau o’r fath wedi’u nodi yn yr agenda.

Ystyrir fod agendâu, adroddiadau a chofnodion perthnasol i gyfarfodydd y Cyngor Sir a’i bwyllgorau yn rhan o fusnes mewnol y Cyngor. Bydd agendâu a chofnodion cyfarfodydd ar gael yn Gymraeg o fis Mai 2017 ymlaen (mis Ionawr 2017 ar gyfer y Cabinet a’r Cyngor Sir).

Cyngor Sir y Fflint

Daw’r holl Gynghorwyr at ei gilydd i ffurfio’r Cyngor. Mae cyfarfodydd y Cyngor fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Dyma ble bydd Cynghorwyr yn penderfynu ar bolisïau cyffredinol y Cyngor ac yn gosod y gyllideb flynyddol.

Cabinet

Cyhoeddir y busnes i'w ystyried gan y Cabinet yn y rhaglen waith ymlaen. Mae cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Trosolwg a Craffu, y Cyngor a Phwyllgorau eraill yn cael eu ffrydio'n fyw a'u cofnodi ar gyfer y cyhoedd ac eithrio pan fydd materion eithriedig neu gyfrinachol yn cael eu trafod, fel y'u diffinnir gan y gyfraith.

 

Rhaid i'r Cabinet wneud penderfyniadau sy'n unol â pholisïau a chyllideb gyffredinol y Cyngor. Os yw'n dymuno gwneud penderfyniad sydd y tu allan i'r gyllideb neu'r fframwaith polisi, rhaid cyfeirio hwn at y Cyngor cyfan.

 

Ian Roberts

Arweinydd y Cyngor

 

Christine Jones

DirprwyArweinydd y Cyngor a’r

Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

 

Dave Hughes

DirprwyArweinydd y Cyngor a’r

Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r strategaeth cludiant rhanbarthol

 

Chris Bithell

Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd

 

Billy Mullin

Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol

 

Paul Johnson

Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant, Cymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael

 

Sean Bibby

Aelod Cabinet Tai ac Adfywio

 

David Healey

Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi

 

Mared Eastwood

Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden

 

 

 

Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Y Cabinet sydd fel arfer yn gwneud penderfyniadau ar bob mater, gan gynnwys materion pwysig yn ymwneud â pholisi.  Rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yw  dal y Cabinet yn atebol felcyfaill beirniadol’ a monitro/helpu i wella a datblygu polisïau a gwasanaethau’r Cyngor.  Dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol fod ag o leiaf un Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

Mae yna chwech o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu:

 

·         Cymunedau a Menter

·         Adnoddau Corfforaethol

·         Yr Amgylchedd

·         Addysg ac Ieuenctid

·         Newid Sefydliadol

·         GofalCymdeithasol ac Iechyd

Pwyllgor Cynllunio

Mae'rPwyllgor Cynllunio yn cyfarfod oddeutu bob 4 wythnos i benderfynu ar geisiadau cynllunio a gyflwynir i'r Cyngor.

 

Ni all y Cabinet wneud penderfyniadau rheoli cynllunio a datblygu. Mae'r rhain yn cael eu dirprwyo gan y Cyngor i'r Pwyllgor hwn a swyddogion gan y Cynllun Dirprwyo.

Pwyllgor Archwilio

Yn unol ag arweiniad ac arfer orau, mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Archwilio fel un o Bwyllgorau’r Cyngor i fod yn gyfrifol am gefnogi a hyrwyddo’r defnydd effeithlon ac economaidd o adnoddau, sicrhau rheolaeth gwariant effeithiol ac adolygu perfformiad ym maes archwilio.

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Mae Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor yn gwneud argymhellion i'r Cyngor mewn materion sy'n ymwneud â llywodraethu corfforaethol a materion cyfansoddiadol.

 

Swyddogaethaustatudol y Pwyllgor yw:

 

(a) dynodi a swyddog a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn unol â gofyniad o dan Adran 8 (1) (a) o'r Mesur;

(b) Adolygu digonolrwydd darpariaeth staff, llety ac adnoddau eraill gan yr Awdurdod i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd; a

(c) Gwneud adroddiadau ac argymhellion i'r Awdurdod mewn perthynas â darpariaeth o'r fath.

Pwyllgor Trwyddedu

Mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Trwyddedu a chanddo bwerau dirprwyedig i benderfynu ynghylch ceisiadau a wneir o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 yn unol â pholisi a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

·         PwyllgorTrwyddedu

·         Is-bwyllgor Trwyddedu

Pwyllgor Safonau

Bydd rolau a swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau fel a ganlyn:

 

(a) hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ar ran Cynghorwyr, aelodau cyfetholedig a chynrychiolwyr yr eglwys a rhiant lywodraethwyr.

 

(b) cynorthwyo Cynghorwyr, aelodau cyfetholedig a chynrychiolwyr yr eglwys a rhiant lywodraethwyr i gadw at God Ymddygiad yr Aelodau.

 

(c) cynghori’r Cyngor ynghylch mabwysiadu neu adolygu Cod Ymddygiad yr Aelodau.

 

(d) monitro gweithrediad Cod Ymddygiad yr Aelodau.

 

(e) cynghori, hyfforddi neu wneud trefniadau ar gyfer hyfforddi Cynghorwyr, aelodau cyfetholedig a chynrychiolwyr yr eglwys a rhiant lywodraethwyr ar faterion yn ymwneud â Chod Ymddygiad yr Aelodau.

 

(f) caniatáu goddefebau ar gyfer Cynghorwyr, aelodau cyfetholedig a’r cynrychiolwyr yr eglwys a rhiant lywodraethwyr mewn perthynas â’r gofynion yn ymwneud â chysylltiadau a nodir yng Nghod Ymddygiad yr Aelodau.

 

(g) gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau am gynrychiolaeth mewn achosion perthnasol i Gynllun Indemniad y Cyngor ar gyfer Aelodau a Swyddogion

 

(h) ymdrin ag unrhyw adroddiadau o dribiwnlysoedd achos neu dribiwnlysoedd achos interim ac unrhyw adroddiad a geir gan y Swyddog Monitro ynghylch unrhyw fater sy’n cael ei gyfeirio at sylw’r swyddog hwnnw gan Gomisiynydd Lleol Cymru.

 

(i) goruchwylio’r modd y rhoddir  (a) i (h) uchod ar waith mewn perthynas â’r Cynghorau Cymuned sydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn ei ardal ac aelodau’r cynghorau cymuned hynny.

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Bydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.

Cyd-bwyllgor Gwastraff Gweddillol Gogledd Cymru

Bydd y Cyd-bwyllgor yn gweithredu yn unol â’r cyfansoddiad / cylch gorchwyl a gymeradwyir gan yr Awdurdodau sy’n rhan ohono.  Bydd y Cyd-bwyllgor yn goruchwylio Prosiect Trin Gwastraff Gogledd Cymru ac yn gwneud penderfyniadau swyddogol ar ran y pum Awdurdod (sy’n gweithio o fewn Awdurdod wedi’i ddirprwyo).

 

 

Nodyn ar gyfrifon blwyddyn ariannol 2016/17 Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymu

 

Mae’n ddigwyliad statudol i’r Cyd-Bwyllgor Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru i gwrdd i gymeradwyo cyfrifon flynyddol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol erbyn diwedd mis Mehefin y blwyddyn olynol.

 

Er gwaethaf bob ymdrech y Bartneriaeth i geisio cwrdd cyn diwedd mis Mehefin, nid yw wedi bod yn bosib cwrdd cyn y dyddiad hyn. Nid yw wedi bod yn bosib oherwydd nid yw’r awdurdodau bartner i gyd wedi medru cadarnhau eu gynrychiolwyr ar y Cyd-Bwyllgor mewn amser i gynal cyfarfod cyn y dyddiad oherwydd yr etholiadau lleol a gynhelir ar 4ydd Mai 2017.

 

Rhoddir y cyfrifon oflaen y Cyd-Bwyllgor newydd i’w gymeradwyo erbyn diwedd Gorffennaf.

Cyfarfodydd wedi dod i ben

Pwyllgorau yw'r rhain sydd wedi chwalu neu ddisodli gan Bwyllgorau a restrir uchod:

Amrywiol