Mater - penderfyniadau

Update on Unpaid Carers Services in Flintshire

01/04/2025 - Update on Unpaid Carers Services in Flintshire

Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu a Claire Sullivan (GOGDdC) ddiweddariad mewn perthynas â’r adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) ar wasanaethau gofalwyr di-dâl yn Sir y Fflint yn cynnwys canlyniad yr ymarfer caffael diweddar a’r adolygiad gan yr Ombwdsmon.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Cynllunio a Datblygu a Claire Sullivan am drefnu’r ymweliad hynod ddiddorol i’r Ganolfan GOGDdC yn yr Wyddgrug a gynhaliwyd cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod y diweddariad i’r broses o ailgomisiynu gwasanaethau gofalwyr di-dâl;

(b)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod canlyniad yr Ymchwiliad ar ei “Liwt ei Hun” i Wasanaethau Gofal gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r cynllun gweithredu dilynol;

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cydnabod canlyniad Adroddiad “Dilyn y Ddeddf” Gofalwyr Cymru; a

 

(d)       Bod y Pwyllgor cymeradwyo’r gwaith cadarnhaol sy’n mynd rhagddo gyda GOGDdC i ddatblygu gwasanaethau gofalwyr di-dâl a’r Ganolfan i Ofalwyr fel canolbwynt i ofalwyr di-dâl yn Sir y Fflint.