Mater - penderfyniadau
In House Regulated Services Report
01/04/2025 - In House Regulated Services Report
Cyflwynodd y Swyddog Cyfrifol adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) i roi gwybod i’r Aelodau am sefyllfa bresennol gwasanaethau mewnol ar gyfer oedolion mewn perthynas â gofynion rheoleiddiol. Dywedodd wrth yr Aelodau y byddai rhagor o ystyriaeth yn cael ei roi i brosiectau hanesyddol cymdeithasol a chyfleoedd eraill i weithio gyda Theatr Clwyd yn y dyfodol. Cytunodd hefyd i anfon y gân yr oedd staff Marleyfield House wedi’i recordio gyda gr?p celfyddydau a cherddoriaeth ar sut y gwnaeth y pandemig effeithio arnynt at yr Aelodau.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor wedi
adolygu asesiad yr Unigolyn Cyfrifol a oedd wedi dynodi lefel uchel
o hyder ym mhob un o feysydd y gwasanaeth; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi nodi bod y safon uchel o ofal yn dda ar draws y gwasanaeth a bod enghreifftiau lle’r oedd y gofal a’r cymorth wedi cyrraedd safon ragorol.