Mater - penderfyniadau
Adolygiad Cynaliadwyedd Ariannol - Archwilio Cymru
31/01/2025 - Audit Wales Report - Financial Sustainability
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) yn amlinellu canfyddiadau adroddiad lleol gan Archwilio Cymru, yn dilyn adolygiad ar draws y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn yn nodi ymateb y Cyngor i’r argymhelliad gan Archwilio Cymru.
Crynhodd Carwyn Rees o Archwilio Cymru y prif ganfyddiadau a dweud bod yr adroddiad cenedlaethol i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y byddai gwybodaeth am brosiectau Trawsnewid yn cael ei rhannu gyda’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Rhagfyr.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad ar Gynaliadwyedd Ariannol gan Archwilio Cymru.