Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
31/01/2025 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Waith gyfredol i’w hystyried. Yn dilyn trafodaeth gynharach ar y Rhaglen Drawsnewid, cytunodd i gysylltu â swyddogion i drefnu adroddiad interim ar drefniadau darparu adnoddau a llywodraethu, i gael ei ddilyn gan ddiweddariad bob chwe mis ar gynnydd.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.