Mater - penderfyniadau

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor (2023-28) 2024/25

14/03/2025 - Council Plan 2024/25 Mid-year Performance Report

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad (eitem 10 ar y rhaglen) i adolygu’r cynnydd ar ganol y flwyddyn yn ôl blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2024/25.  Roedd hwn yn adroddiad yn seiliedig ar eithriadau oedd yn canolbwyntio ar feysydd perfformiad nad oedd yn cyrraedd eu targed ar hyn o bryd.

 

Cafodd pryderon a godwyd am y canran o alwadau ffôn nad oedd yn cael eu hateb yn y Ganolfan Alwadau eu cydnabod gan Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol.  Byddai adroddiad yn y dyfodol yn cael ei drefnu ar gyfer hyn yn y Rhaglen Waith.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau oedd yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 i’w cyflawni o fewn 2024/25;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2024/25; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.