Mater - penderfyniadau

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor (2023-28) 2024/25

01/04/2025 - Council Plan (2023-28) Mid-year Performance Report 2024/25

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) i’r Aelodau adolygu a monitro perfformiad y Cyngor ar ganol blwyddyn 2024/25, gan gynnwys camau gweithredu a mesuryddion, fel yr oedd Cynllun y Cyngor (2023-28) yn ei nodi.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol wrth yr Aelodau fod gweithdy ar Gynllun y Cyngor wedi’i drefnu ar gyfer yr holl Aelodau ym mis Ebrill 2025.  Awgrymodd hefyd y dylai cynlluniau yn y dyfodol gynnwys materion ar draws portffolios yn rhan greiddiol ohonynt, gan ddangos y cyfrifoldeb sydd ar draws portffolios e.e. caffael.

 

Dywedodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu wrth yr Aelodau y byddai adroddiad arbennig ar y siwrnai i sero net o safbwynt y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau oedd yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 i’w cyflawni o fewn 2024/25;

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r perfformiad cyffredinol ar ddangosyddion / mesurau perfformiad Cynllun y Cyngor 2024/25; a

(c)        Bod y Pwyllgor yn fodlon â’r esboniadau a roddwyd ar gyfer y meysydd lle bu tanberfformiad.