Mater - penderfyniadau
Adolygiad Cynaliadwyedd Ariannol - Archwilio Cymru
11/12/2024 - Audit Wales Report - Financial Sustainability
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) yn amlinellu canfyddiadau adroddiad lleol gan Archwilio Cymru, yn dilyn adolygiad ar draws y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn yn nodi ymateb y Cyngor i’r argymhelliad gan Archwilio Cymru.
Cyflwynodd Carwyn Rees o Archwilio Cymru drosolwg o’r prif ganfyddiadau.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
Nodi sylwadau’r Pwyllgor ar adroddiad Archwilio Cymru.