Mater - penderfyniadau
Ymateb i Adolygiad Archwilio Cymru “Gofal Brys ac Argyfwng: Llif Allan o’r Ysbyty – Rhanbarth Gogledd Cymru”
01/04/2025 - Response to the Audit Wales Review “Urgent and Emergency Care: Flow out of Hospital – North Wales Region”
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Pobl H?n adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) i’r Aelodau ystyried adroddiad Archwilio Cymru a’r mesurau a roddwyd ar waith yn rhanbarthol ac yn lleol i weithredu unrhyw argymhellion.
Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i rannu cynlluniau gweithredu yn unol â chais y Cynghorydd Copple, ac y darperid adroddiad diweddaru arall ym mis Gorffennaf 2025.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Aelodau’n ystyried adroddiad Archwilio Cymru a’r mesurau a roddwyd ar waith yn rhanbarthol ac yn lleol i weithredu’r argymhellion a wnaed; a
(b) Bod yr Aelodau’n nodi y rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y cynnydd a wnaed wrth weithredu’r argymhellion.