Mater - penderfyniadau
Adolygiad Canol y Flwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2024/25 a Diweddariad Chwarter 2
31/01/2025 - Treasury Management Mid-Year Review 2024/25 and Q2 Update
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) ar adroddiad canol blwyddyn drafft Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/25 i’w argymell i’r Cabinet, ynghyd â diweddariad ar weithgareddau Chwarter 2 er gwybodaeth.
Yn ystod y drafodaeth, awgrymodd Allan Rainford wybodaeth ychwanegol i gyd-fynd ag adran Meincnod Atebolrwydd yr adroddiad canol blwyddyn, a byddai’n codi hyn yn sesiwn hyfforddi Rheoli’r Trysorlys sydd ar y ffordd.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Canol Blwyddyn drafft ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/25 ac yn cadarnhau nad oes angen tynnu sylw’r Cabinet at unrhyw faterion yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.