Mater - penderfyniadau

Agwedd Gynaliadwy at Wasanaethau Cymdeithasol

01/04/2025 - Framework of Support: A Sustainable Approach to Adult Social Care

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) i’r Aelodau gefnogi newidiadau i’r asesiadau ariannol a threfniadau codi tâl ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cartref a Gofal Preswyl.

 

Wrth ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Owen, cytunodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu i ddarparu dolen i wefan Dewis Cymru i’r Aelodau, lle gellir cael rhestr gynhwysfawr o wasanaethau, sefydliadau a digwyddiadau sy’n cefnogi unigolion yn eu cymuned.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr Aelodau’n cefnogi’r camau a gymerir i ddatblygu’r Fframwaith Cefnogaeth fel rhan o ystod o brosiectau trawsnewidiol y byddai eu hangen er mwyn datblygu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy; a

 

(b)       Bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r camau gweithredu cysylltiedig sydd eu hangen i ymateb i bwysau galw a chynnal y pwysau sydd ar gyllideb gofal cartref a phreswyl.