Mater - penderfyniadau
Draft Stewardship Code Submission
21/03/2025 - Draft Stewardship Code Submission
Fe arweiniodd Mr Turner, Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa, y Pwyllgor drwy’r adroddiad. Fe eglurodd fod y gwaith yn mynd rhagddo’n dda, ac fe ddylai’r Gronfa fod mewn sefyllfa i gyflwyno ei Adroddiad Stiwardiaeth cyn y terfyn amser ddiwedd mis Hydref. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried yr adroddiad drafft, gan nodi’r meysydd nad oedd wedi cael eu diweddaru eto, a darparu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau i gael eu cynnwys cyn y cyflwyniad terfynol. Roedd yn cydnabod bod llawer o waith yn mynd mewn i lunio’r adroddiad hwn, a thra bod y Cyngor Adrodd Ariannol wedi gwneud rhai newidiadau i ofynion er mwyn symleiddio’r broses, mae’r adroddiad dal yn ymrwymiad sylweddol i’r Gronfa.
PENDERFYNWYD:
Ystyriodd y Pwyllgor y cyflwyniad drafft a dirprwyodd y Pwyllgor gyfrifoldeb ar gyfer cymeradwyo’r cyflwyniad terfynol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.