Mater - penderfyniadau
Olrhain Gweithred
11/12/2024 - Action Tracking
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) am gynnydd camau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol. Cytunodd i ddiweddaru’r ddogfen ar gyfer y cyfarfod nesaf, gan gynnwys ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Shallcross ar y rheswm dros ariannu cludiant i ddisgyblion o du allan i’r sir i Ysgol Uwchradd Gatholig Caer, fel y codwyd ym mis Gorffennaf.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.