Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
11/12/2024 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem 5 ar y rhaglen) ar Raglen Waith bresennol y Pwyllgor. Cytunodd i gysylltu â’r Cadeirydd i drefnu’r eitemau a restrwyd yn adrannau 1.04 a 1.05 ynghyd ag eitemau eraill a godwyd gan Aelodau fel a ganlyn:
· Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
· Eitem reolaidd ar Drawsnewid gan gynnwys effaith ar Gydraddoldeb.
· Eitem y gofynnwyd amdani o’r blaen ar yr adran Asedau.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.