Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
04/11/2024 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith a’r Adroddiad Olrhain Camau Gweithredui’w hystyried, a chroesawodd unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y cam gweithredu a oedd yn ymwneud â’r cofnod o gyfarfod y Tîm Ymateb a Rheoli Argyfwng (EMRT), sef y sylwadau a wnaed gan Archwilio Cymru yngl?n â’r angen i ddysgu gwersi ac at ymateb y Cyngor bod dogfen ar y gwersi a ddysgwyd wedi cael ei chreu. Gofynnodd a ddefnyddiwyd y templed hwn ar gyfer y gwersi a ddysgwyd yn dilyn y rhybudd am eira. Cytunodd yr Hwylusydd i godi hyn gyda’r swyddogion perthnasol yn dilyn y cyfarfod.
Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd i’w cwblhau.