Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred

01/04/2025 - Forward Work Programme and Action Tracking

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith gyfredol (eitem rhif 6 ar y rhaglen) i’w hystyried, a oedd yn cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu oedd i’w cwblhau.

 

Cytunwyd i symud yr adroddiad ar Ailgomisiynu Gwasanaethau Gofalwyr i gyfarfod mis Chwefror, ac ymweld â’r Ganolfan GOGDdC newydd yn yr Wyddgrug cyn y cyfarfod hwnnw.  

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod ymweliad Climbie yn y broses o gael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr / Chwefror.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Waith;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu oedd i’w cwblhau.