Mater - penderfyniadau

Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2024

22/10/2024 - Annual Review of Fees and Charges 2024

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn amlinellu canlyniad adolygiad o ffioedd a thaliadau 2024, a gwblhawyd yn unol â Pholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor, sy’n nodi’r rhesymeg a’r broses ar gyfer adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau. Roedd canlyniad yr adolygiad hwn wedi’i nodi yn Atodiad A a byddai’n berthnasol o 1 Hydref 2024.

 

Roedd cymhwyso’r egwyddorion sydd wedi’u cynnwys ym Mholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor wedi sicrhau bod unrhyw newidiadau i daliadau wedi cael eu rheoli mewn modd priodol ac roedd y fersiwn ddiweddaraf o’r polisi hwn ynghlwm yn Atodiad B.

 

Hefyd, roedd yr adroddiad yn amlinellu gofynion parhaus yr adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2024, ac yn benodol y ffioedd a thaliadau nad oedd eto wedi dangos eu bod yn adennill y gost yn llawn.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr amcangyfrifon o incwm a gynhyrchir drwy godi ffioedd a thaliadau, ac unrhyw gynnydd iddynt, yn cael ei fonitro a’i gynnwys yn y broses o osod y gyllideb. Amcangyfrifwyd y byddai adolygiad 2024 yn cynhyrchu £0.085 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn, ac roedd £0.050 miliwn o’r ffigwr hwnnw wedi’i gynnwys eisoes yng nghyllidebau 2024/25, felly roedd hwn yn gyfraniad ychwanegol o £0.035 miliwn i gyllideb 2025/26.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r rhestr o ffioedd a thaliadau sydd i’w gweld yn Atodiad A, i’w rhoi ar waith ar 1 Hydref 2024.

 

(b)       Bod y Cabinet yn cytuno i fersiwn i gwsmeriaid o’r rhestr o ffioedd a thaliadau, sydd i’w gweld yn Atodiad A, gael ei llunio a’i chyhoeddi.