Mater - penderfyniadau
Gofal yn Nes at Adref: Strategaeth Comisiynu Lleoliadau ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal.
22/10/2024 - Care Closer to Home: Placement Commissioning Strategy for Looked After Children
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn cadarnhau’r cynnydd a wnaed o ran cyflawni cam cyntaf ein strategaeth ‘Gofal yn Nes at y Cartref’ a chynhigiodd ddull ar gyfer diweddaru’r Strategaeth ‘Gofal yn Nes at y Cartref’ yng nghyd-destun Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a gyflwynwyd gerbron Senedd Cymru ar 20 Mai 2024.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig gweithdy ar gyfer yr Aelodau Etholedig, i amlinellu’r ddeddfwriaeth newydd, cyd-destun comisiynu lleoliadau presennol (cyfeirir atynt yn aml fel Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir) ac archwilio dewisiadau ar gyfer datblygu’r dull strategol o ran comisiynu lleoliadau a datblygu darpariaeth lleoliadau mewnol ymhellach. Byddai’r canlyniad yn llywio’r gwaith o ddatblygu ail gamStrategaeth ‘Gofal yn Nes at y Cartref’ wedi’i diweddaru.
Roedd gan Gyngor Sir y Fflint weledigaeth strategol i ddarparu digon o lety lleol o ansawdd da er mwyn diwallu anghenion plant sy’n derbyn gofal. Mae’r ‘Strategaeth Comisiynu Lleoliadau: Gofal yn Nes at y Cartref’ yn nodi’r bwriad i fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu maethu mewnol, gofal preswyl a chreu partneriaethau effeithiol gyda darparwyr o ansawdd uchel sy’n gweithredu egwyddorion nid er elw.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn cyfyngu ar allu’r Cyngor i gomisiynu’n rhydd â darparwyr rhai modelau busnes y tu allan i Gymru yn ogystal ag o fewn y wlad ac yn lleol. Byddai’r polisi hwn, fel yr oedd eisoes yn gwneud hynny, yn newid y dirwedd o ran dewisiadau lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc. Felly, mae’n rhaid i awdurdodau lleol fynd ati’n rhagweithiol i adnabod cyfleoedd am newid a rheoli’r risgiau sy’n dod i’r amlwg. Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i’r bwriad polisi cenedlaethol. Fodd bynnag, roedd yr amserlen weithredu yn un heriol iawn a byddai angen gwaith cynllunio sylweddol er mwyn sicrhau trosglwyddiad diogel i’r plant a’r bobl ifanc.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cymeradwyo symud ymlaen i gyflawni cam cyntaf ein strategaeth ‘Gofal yn Nes at y Cartref’; a
(b) Bod y Cabinet yn cefnogi gweithdy ar gyfer Aelodau Etholedig ym mis Medi/ Hydref 2024, i amlinellu’r ddeddfwriaeth newydd, cyd-destun comisiynu lleoliadau presennol (cyfeirir atynt yn aml fel Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir) ac archwilio dewisiadau ar gyfer datblygu ein dull strategol i gomisiynu lleoliadau a datblygu darpariaeth lleoliadau mewnol ymhellach.