Mater - penderfyniadau
Llywodraethu ar gyfer y Rhaglen Drawsnewid
22/10/2024 - Governance for the Transformation Programme
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth o ran i) y meini prawf ar gyfer dewis prosiectau trawsnewid; ii) y strwythur llywodraethu democrataidd ar gyfer y rhaglen drawsnewid; ac iii) cymeradwyo dyraniad y cronfeydd wrth gefn i ariannu'r capasiti ychwanegol sydd ei angen i gefnogi'r rhaglen.
Mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i osod cyllideb gytbwys a chyfreithiol bob blwyddyn. Golyga’r cylch blynyddol hwnnw fod y Cyngor yn tueddu i ganolbwyntio ar wneud arbedion y gellir eu cyflawni o fewn cyfnod byr. Roedd arbedion posibl y gallai'r Cyngor eu hystyried, na fyddent yn cael eu gwneud o fewn y cylch cyllideb blynyddol arferol. Byddai arbedion o’r fath fel arfer yn ymwneud â naill ai ystyried prosiectau ar raddfa fwy, megis trefniant rhannu gwasanaeth/ cydweithio â Chyngor arall, neu ailgynllunio prosesau gwaith mewnol (ochr yn ochr â newid meddalwedd, yn ôl pob tebyg). Cyfeirir at newidiadau o’r fath fel rhai trawsnewidiol fel arfer.
Mae angen i’r Cyngor sefydlu rhaglen ar gyfer archwilio newidiadau
trawsnewidiol o’r fath, os yw’n dymuno lleihau costau heb leihau/ atal gwasanaethau. Gellid cynnwys trefniadau llywodraethu rhaglen o’r fath o fewn strwythurau adrodd presennol y Cyngor. Nid oedd modd i’r Cyngor archwilio a rheoli rhaglen arbedion gyfochrog ar hyn o bryd, a byddai angen iddo recriwtio ar sail buddsoddi i arbed, dros dro yn ôl pob tebyg.
Amlinellodd y Cynghorydd Johnson yr adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a oedd yn cefnogi'r angen am raglen drawsnewid, ond roedd yn bryderus ynghylch y costau o ran staffio. Roedd y Pwyllgor yn cytuno ar gostau’r flwyddyn gyntaf, ond byddai’n adolygu ac yn craffu ar y cynnydd cyn cytuno ar unrhyw wariant pellach.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) amlinelliad o’r strwythur llywodraethu, fel sydd i’w weld yn Atodiad 1 yn yr adroddiad a rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gyda'r Pwyllgor yn cyflawni’r gwaith o gasglu canlyniadau argymhellion o’r fath a wneir gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu/ penderfyniadau gan y Cabinet, er mwyn asesu eu heffaith ar allu’r Cyngor i gyflawni ei Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Ni fyddai'n fforwm ar gyfer ailedrych ar fanylion cynigion a oedd yn rhan o gylch gwaith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu arall, ond yn hytrach byddai’n canolbwyntio ar effaith neu ddylanwad y gwaith ar y rhaglen gyffredinol.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog hefyd at sylwadau/ pryderon y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ynghylch adnoddau ariannol.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Cynghorydd Richard Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol am ei gyfraniad at ddatblygiad y Rhaglen Drawsnewid.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell sut y cafodd y ffigyrau bylchau yn y gyllideb a amlinellir yn yr adroddiad ar gyfer 2026/27 a 2027/28 eu cyfrifo. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai rhagdybiaethau cychwynnol oedd y rhain, yn seiliedig ar y pwysau o ran costau sy’n hysbys i’r Cyngor ar hyn o bryd, pe bai setliad ‘arian gwastad’ yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r:-
- Meini prawf ar gyfer dewis prosiectau trawsnewid;
- Strwythur llywodraethu democrataidd ar gyfer y rhaglen drawsnewid, a
- Chymeradwyo dyrannu cronfeydd wrth gefn i ariannu’r capasiti ychwanegol sydd ei angen i gefnogi’r rhaglen.