Mater - penderfyniadau
2024/25 monitro cyllideb refeniw (Interim)
22/10/2024 - Revenue budget monitoring 2024/25 (Interim)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg cyntaf o sefyllfa fonitro’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Yn ystod y cyfnod cynnar hwn, dim ond y risgiau ariannol oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Byddai'r gallu i liniaru risgiau yn ystod y flwyddyn ariannol unwaith eto yn canolbwyntio ar adolygu a herio gwariant gohiriedig, gan wneud y mwyaf o ffrydiau incwm a chyllid grant. Fel yr adroddwyd yn flaenorol, cyflwynwyd moratoriwm ar wariant heb ei ymrwymo dan gontract yn 2023/24, ochr yn ochr â phroses rheoli swyddi gwag, er mwyn ceisio lleihau gwariant yn ystod y flwyddyn a ‘lleddfu’r’ gorwariant a ragwelwyd, a byddai hynny’n parhau yn 2024/25.
Cafodd y Cronfeydd Wrth Gefn Sylfaenol eu cynyddu i £8.985 miliwn, gan ddefnyddio’r balans o £3.216 miliwn oedd yn weddill o Gronfa Wrth Gefn Caledi COVID-19 2023/24. Yn ogystal, roedd swm o £3 miliwn ar gael, a gymeradwywyd fel Cronfa Wrth Gefn “Risg i’r Gyllideb”.
Byddai adroddiad monitro manwl a chyflawn yn cael ei ddarparu ym mis Medi, a fyddai’n cynnwys rhagamcan o’r sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2024/25.
Dywedodd y Cynghorydd Johnson nad oedd unrhyw adborth i’w rannu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a fu’n ystyried yr adroddiad ar 19 Gorffennaf 2024.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn nodi’r adroddiad a’r risgiau ariannol posibl o ran cyllideb 2024/25; a
(b) Bod y Cabinet yn nodi’r dyraniadau o £0.200 miliwn o’r Gronfa Wrth Gefn At Raid ar gyfer Cambrian Aquatics a £0.277 miliwn ar gyfer darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y gwyliau – cyfeirir at hyn ym mharagraff 1.14.