Mater - penderfyniadau
Cytundeb Mynediad Agored gyda Freshwave
22/10/2024 - Open Access Agreement with Freshwave
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad a oedd yn cynnig datblygu Cytundebau Mynediad Agored yn Sir y Fflint. Byddai’r cytundeb cyntaf yn cael ei arwyddo gyda Freshwave Facilities Limited ac yna byddai rhai eraill i ddilyn.
Mae Cynllun y Cyngor a’r Strategaeth Ddigidol yn amlygu pwysigrwydd gwella cysylltedd digidol yn Sir y Fflint ar gyfer preswylwyr a busnesau. Roedd pwysigrwydd cysylltedd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn galluogi rhyngweithio cymdeithasol, mynediad at wybodaeth a gwasanaethau, addysg a chyflogaeth, boed hynny o gartref neu mewn lleoliadau eraill. Er hyn, roedd cysylltedd ffonau symudol yn parhau’n wael mewn sawl ardal yn y Sir.
Roedd Llywodraeth y DU yn annog llywodraeth leol i ddefnyddio Cytundebau Mynediad Agored, er mwyn ei gwneud yn haws i Weithredwyr Rhwydwaith Symudol fuddsoddi mewn gwell cysylltedd drwy ddefnyddio asedau celfi stryd y Cyngor.
Cafodd yr argymhellion eu hystyried a’u cymeradwyo gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar 16 Gorffennaf 2024.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnes at adran 1.09 yn yr adroddiad, a oedd yn egluro beth yw’r Cytundebau Mynediad Agored, gan nodi’n benodol y byddent yn niwtral o ran cost i’r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cefnogi datblygiad arfaethedig Cytundebau Mynediad Agored fel ffordd o wella cysylltedd ffonau symudol yn Sir y Fflint;
(b) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i arwyddo Cytundeb Mynediad Agored gyda Freshwave Facilities Limited a diwygio’r cytundeb yn ôl yr angen yn y dyfodol; a
(c) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i lywio a diwygio rhagor o Gytundebau Mynediad Agored gyda chwmnïau eraill.