Mater - penderfyniadau

Trefniant prynu’n ôl yn defnyddio Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro Llywodraeth Cymru

30/10/2024 - Purchase of ‘buy backs’ using the Welsh Government (WG) Transitional Accommodation Capital Programme (TACP)

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad gan egluro yr arferai’r eiddo yn 93 a 95 Ffordd Penarlâg yn Yr Hôb gael ei osod yn fasnachol fel bwyty / safle bwyd i fynd. Roedd yr eiddo wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac wedi mynd yn adfail.

 

Roedd y broses gyfreithiol o ddod â’r math yno o brydles fasnachol i ben yn faith iawn.  Tynnwyd yr eiddo o’r brydles y llynedd a’u dychwelyd i’r Cyngor ac roeddent wedi cael eu gwneud yn ddiogel.

 

Fel cyn gartrefi’r Cyfrif Refeniw Tai, roeddent yn ddelfrydol ar gyfer bodloni’r meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru o dan y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro. Roedd hwn yn arian dyraniad haen uchaf o’r Grant Tai Cymdeithasol i ddod ag eiddo adfeiliedig neu wag yn ôl i ddefnydd yn gyflym i fynd i’r afael â’r argyfwng digartrefedd ar draws y DU.

 

Ceisiwyd awdurdod i gwblhau trosglwyddiad mewnol o 93 a 95 Ffordd Penarlâg, Yr Hôb o gronfa’r Cyngor i’r Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys cost drosglwyddo o £0.150 miliwn o’r Cyfrif Refeniw Tai i gronfa’r Cyngor (£0.075 miliwn yr annedd). Hefyd, i nodi’r costau prosiect ac ailwampio ar gyfer yr eiddo a gymeradwywyd yn defnyddio pwerau dirprwyedig yn amodol ar grant y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro gan Lywodraeth Cymru fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cais i drosglwyddo’r eiddo yn fewnol o gronfa’r Cyngor i’r Cyfrif Refeniw Tai am gost o £0.150 miliwn yn cael ei gymeradwyo.