Mater - penderfyniadau
‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau
30/10/2024 - ‘Together we can’ Community Resilience and Self-Reliance
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o adroddiad Archwilio Cymru “‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol”, oedd yn trafod sut y gallai meithrin cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol helpu i leihau’r ddibyniaeth ar wasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol, pe bai awdurdodau lleol yn newid o fod yn ‘ddarparwr uniongyrchol’ i fod yn ‘alluogwr’.
‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ oedd y trydydd adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru mewn cyfres a oedd yn canolbwyntio ar dlodi a beth oedd llywodraeth leol yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu argymhellion a disgwyliadau Archwilio Cymru o ran camau nesaf awdurdodau lleol.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y byddai’r argymhelliad yn yr adroddiad yn galw am waith ar draws sefydliadau a chefnogaeth ariannol ar adeg pan oedd y Cyngor yn wynebu pwysau cyllidebol sylweddol a byddai angen buddsoddiad parhaus er mwyn iddo fod yn llwyddiant.
Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai a gynigodd argymhelliad pellach, sef “Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwaith nifer o sefydliadau gwirfoddol ac unigolion ar hyd a lled y Sir ac yn cyfleu hyn i’r Cabinet wrth ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin”.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts bod argymhellion o’r fath angen buddsoddiad ariannol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Diolchodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am yr argymhelliad ychwanegol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Archwilio Cymru “‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedol” yn cael eu nodi; a
(b) Bod yr ymateb a argymhellir mewn perthynas ag argymhellion Archwilio Cymru yn cael ei nodi a chefnogi bod hyn yn cael ei adrodd i’r Pwyllgorau priodol ym mis Mehefin 2024.