Mater - penderfyniadau
Adroddiad Blynyddol Monitro'r Gymraeg 2023/24
30/10/2024 - Welsh Language Standards Annual Monitoring Report 2023/24
Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod angen i Gyngor Sir y Fflint lynu at Safonau’r Gymraeg, fel y nodir yn yr Hysbysiad Cydymffurfio a gyflwynwyd i’r Cyngor yn 2015.
Roedd yr Hysbysiad yn rhoi dyletswydd statudol ar y Cyngor i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi sut yr oedd wedi bodloni Safonau’r Gymraeg.
Pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2023/24 ac roedd yn darparu trosolwg o gynnydd y Cyngor wrth gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant pellach.
Darparodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau wybodaeth am fentrau mwy; recriwtio siaradwyr Cymraeg; meysydd i’w gwella; a chwynion.
Yn ystod y 12 mis nesaf, roedd y Cyngor yn anelu i:
- Ddatblygu Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg i gynyddu nifer y gweithwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg er mwyn gallu darparu gwasanaethau dwyieithog.
- Lleihau nifer y gweithwyr sy’n nodi nad oes ganddynt sgiliau Cymraeg.
- Parhau i lenwi hunanasesiadau yn erbyn Safonau’r Gymraeg i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i gydymffurfio.
Byddai ardal ar y wefan fewnol i gyfeirio Aelodau a swyddogion at yr hyn oedd ar gael i’w cefnogi, megis brawddegau cyffredin. Yn ogystal, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol ar y gost o ddarparu gwasanaethau cyfieithu mewn cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD:
Bod Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer 2023/24 yn cael ei gymeradwyo a’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.