Mater - penderfyniadau
Archwilio Cymru: Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio
30/10/2024 - Audit Wales: Equality Impact Assessments: more than a tick box exercise
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad gan egluro bod Archwilio Cymru, ym mis Medi 2022, wedi cyhoeddi adroddiad ar ei ganfyddiadau o ddefnydd Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yng Nghymru.
Nod yr archwiliad oedd rhoi cipolwg ar y dull o ymdrin ag Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad “Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy Nag Ymarfer Blwch Ticio?” yn nodi pedwar argymhelliad a saith maes gwella allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus. Roedd yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy’n cael eu cymryd i gyflawni’r argymhellion a oedd yn berthnasol i gyrff cyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
Bod y cynnydd i ddiwallu’r argymhellion gan Archwilio Cymru yn “Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy nag Ymarfer Blwch Ticio?” yn cael ei nodi.