Mater - penderfyniadau
Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed
30/10/2024 - Age Friendly Communities
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad cymunedau sy’n gyfeillgar i oed yn Sir y Fflint ac yn ceisio ymrwymiad ar gyfer cefnogaeth barhaus ar draws meysydd portffolio.
Roedd y ‘Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio’ gan Lywodraeth Cymru yn nodi’r camau gweithredu oedd eu hangen i alluogi pobl yng Nghymru i heneiddio’n dda a byw o fewn cymunedau sy’n gyfeillgar i oed. I gefnogi’r strategaeth, darparwyd cyllid Llywodraeth Cymru i’r holl awdurdodau lleol i’w cefnogi i wneud cais a chynnal aelodaeth Dinasoedd a Chymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd yByd.
Ym mis Mai 2023, derbyniodd Cyngor Sir y Fflint gadarnhad o’i gais llwyddiannus i ymuno â Rhwydwaith Cyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd y Byd ar ôl dangos ymgysylltiad helaeth â phobl h?n ac ystod o wasanaethau a mentrau cyfeillgar i oed yn y sir.
Fel aelod o Rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd, roedd Sir y Fflint wedi datblygu cynllun cyfeillgar i oed i amlinellu’r camau gweithredu oedd eu hangen ar gymunedau yn Sir y Fflint i ddod yn fwy cyfeillgar i oed. Roedd y cynllun yn seiliedig ar strategaethau a pholisi lleol a chenedlaethol, ac ar flaenoriaethau ac anghenion a nodwyd drwy ymgysylltu â’r gymuned. Roedd y cynllun yn ddogfen weithio a byddai’n datblygu yn unol â blaenoriaethau sy’n newid a strategaethau newydd.
Roedd Sir y Fflint yn bodloni ymrwymiadau i ddarparu canolfannau gwybodaeth ar-lein ac i rannu enghreifftiau o’r arfer orau ar draws Cymru ac yn fyd-eang. Roedd hyn wedi cynnwys cyfraniadau at newyddlen Cyfeillgar i Oed Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, gwnaed cyflwyniad gan ddinasyddion o grwpiau cymunedol Sir y Fflint, gyda chefnogaeth gan y tîm Gwasanaethau Cymdeithasol, yng Nghynhadledd Cymru Oed-gyfeillgary Comisiynydd Pobl H?n ar 8 Tachwedd 2023. Cafwyd ymateb da iawn i’r gwaith ac roedd wedi’i nodi yn yr adroddiad.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd lle cafodd ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd a wnaed i ddatblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i oed yn Sir y Fflint gan gynnwys y cais llwyddiannus am aelodaeth gyda Rhwydwaith Fyd-eang Sefydliad Iechyd y Byd; a
(b) Bod y Cabinet yn ymrwymo i ddarparu cefnogaeth a chydweithrediad parhaus i’r holl dimau gwasanaeth i gynorthwyo i ddatblygu Sir y Fflint fel lle gwych i fyw ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio.