Mater - penderfyniadau
Prosiect Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru
19/09/2024 - North East Wales Archive Project
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad gan egluro bod gwasanaethau archifau Cynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych wedi bod yn cydweithio dros y blynyddoedd diwethaf dan Femorandwm o Ddealltwriaeth, i rannu sgiliau ac adnoddau i greu gwasanaeth archifau gwell a mwy cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth.
Arweiniodd hynny at lansio un gwasanaeth ar y cyd, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, ym mis Ebrill 2020, yn gweithio dros 2 safle presennol – yr Hen Reithordy ym Mhenarlâg a Charchar Rhuthun.
Ym mis Hydref 2023, cymeradwyodd y Cabinet gynnig ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych (CSDd) i Gronfa Treftadaeth y Loteri, yn ceisio grant o £7,371,397 tuag at adeiladu canolfan archifau newydd yn yr Wyddgrug, yn gartref i’r gwasanaeth ar y cyd ac i gynnal rhaglen ymgysylltu. Cytunodd y ddau Gyngor hefyd i ddarparu cyfraniadau cyfatebol – £3,078,537 gan Gyngor Sir y Fflint a £2,052,358 gan Gyngor Sir Ddinbych.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod symud i un adeilad yn galluogi AGDdC i gyfuno a defnyddio eu hadnoddau’n well, yn gwarchod casgliadau archifau’r rhanbarth ac yn eu galluogi i gynnal cynllun gweithgarwch cyffrous a fyddai’n cyflwyno’r archifau i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol, gan wneud cyfraniad cadarnhaol iawn at les trigolion a’r hyn maent yn ei ddysgu.
Ar 28 Mawrth 2024, dywedodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri fod y cais am grant wedi bod yn llwyddiannus. Roeddent wedi cytuno i ddarparu grant at y cam datblygu a oedd yn talu am gamau RIBA 1–3 i ddechrau. Byddai Cronfa Treftadaeth y Loteri wedyn yn adolygu cyflwyniad y cam datblygu cyn rhyddhau grant cam Cyflawni RIBA 5–7.
Roedd gwaith ar y gweill i ddatblygu Cytundeb Cydweithio a Phenawdau’r Telerau ar gyfer y Brydles, i reoli’r trefniadau ar y cyd rhwng y ddau Gyngor, er mwyn cyflawni’r prosiect ac er mwyn gweithredu’r gwasanaeth ar y cyd. Roedd y cytundebau hynny, a oedd yn cael eu datblygu gan dîm amlddisgyblaethol o swyddogion o’r ddau awdurdod, i gael eu cwblhau yn nes ymlaen y mis hwn a byddent yn disodli’r Memorandwm o Ddealltwriaeth.
Roedd gweithgarwch y prosiect i ddechrau ganol Mai, a byddai penderfyniad dirprwyedig yn galluogi i drafodaethau am y contract gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri gael eu cynnal mewn da bryd, i gychwyn y prosiect ar amser ac osgoi costau ychwanegol oherwydd oedi ar y cychwyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn ystyried bod AGDdC wedi bod yn llwyddiannus â’r cais am grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri;
(b) Derbyn y cynnig grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar ran AGDdC; a
(c) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog Gweithredol ac Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, i alluogi i Gyngor Sir y Fflint ffurfio Cytundeb Cydweithio sy’n darparu ar gyfer adeiladu’r cyfleuster newydd, a gweithredu Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, a Phenawdau’r Telerau ar gyfer Prydles y ganolfan archifau newydd yn yr Wyddgrug.