Mater - penderfyniadau
Investment Strategy Review Phase 2 - 110% Funding Level Trigger Framework
16/09/2024 - Investment Strategy Review Phase 2 - 110% Funding Level Trigger Framework
Eglurodd Mr Middleman o Mercer bod sbardun lefel buddsoddi’r Gronfa o 110% wedi’i gyrraedd ers cyhoeddi’r papurau ar gyfer y Pwyllgor hwn, ac yr amcangyfrifir mai’r lefel gyllido bresennol yw 112%. Roedd y lefel cyllido’n cael ei ddilysu yn unol â’r protocol cyfredol cyn cymryd unrhyw gamau, ond disgwylir iddo fod dros 110% yn hawdd.
Aeth Mr Nick Page â’r Pwyllgor drwy’r adroddiad. Eglurodd bod yr adolygiad yn edrych ar pa welliannau strategol y gellid eu gwneud pe bai’r sbardun lefel cyllido o 110% yn cael ei gyrraedd, a sut y byddai’r fframwaith llywodraethu cysylltiedig â gweithredu’r sbardun yn cael ei ddiweddaru. Yr ymagwedd a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhan hon o’r adolygiad oedd i daro cydbwysedd rhwng defnyddio cyllid dros ben i leihau cyfraniadau’r cyflogwr yn y prisiad actiwaraidd nesaf ar yr un pryd a gostwng rhywfaint o’r risg buddsoddi o’r strategaeth er mwyn sefydlogi sefyllfa gyllido’r dyfodol ymhellach ac yn sgil hynny, gyfraniadau’r cyflogwr.
Roedd yr adolygiad yn edrych hefyd ar weithrediad y newidiadau arfaethedig ac yn cynnig diweddariad i’r cynllun dirprwyo er mwyn lleihau’r oedi rhwng taro’r sbardun a gweithredu. Y cynnig oedd bod y pwyllgor yn diffinio camau gweithredu diofyn er mwyn dadrisgio pan gaiff y sbardun ei daro, a fydd yn cael ei ddilyn oni bai bod Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd, ar ôl cael cyngor ffurfiol fel rhan o’r Gr?p Cyllido a Rheoli Risg, yn penderfynu peidio mynd ymlaen a’r camau diofyn. Yn y senario hon, byddai cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Gronfa Bensiynau’n cael ei alw i ystyried y materion, a gofynnir i’r Pwyllgor benderfynu a ddylid cymeradwyo dull gweithredu arfaethedig Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.
Nododd Mrs McWilliam na ddylai’r newyddion bod y sbardun lefel cyllido wedi’i gyrraedd (yn amodol ar ddilysiad) ddylanwadu ar benderfyniad y Pwyllgor ynghylch yr argymhelliad hwn.
Gofynnodd y Cynghorydd Shallcross a oedd unrhyw arwydd o ddirywiad ym mherfformiad y farchnad, a dywedodd Mr Page bod barn Mercer o farchnadoedd ecwiti yn gadarnhaol Gofynnodd y Cynghorydd Shallcross pam ddim cynnal y lefel risg bresennol hyd nes y bydd perfformiad yn newid, a pha mor gyflym y gellid newid cyfraniadau cyflogwyr gan y gallai hyn, o ystyried sefyllfa ariannol bresennol y cynghorau, fod yn amser da i fanteisio ar warged. Dywedodd Mr Page na fyddai unrhyw newidiadau i gyfraddau’r cyfraniadau’n digwydd tan ar ôl y prisiad ffurfiol nesaf (31 Mawrth 2025) gyda’r cyfraddau newydd i ddechrau o 1 Ebrill 2026, ac er bod y farn o’r ecwitïau'n ffafriol ar hyn o bryd, gallai hyn newid yn gyflym. Felly os mai’r penderfyniad fyddai cynnal y lefel bresennol o risg, mae posibilrwydd y byddai unrhyw ddirywiad cyn y prisiad actiwaraidd nesaf yn effeithio ar unrhyw ostyngiad posibl mewn cyfraddau cyfraniadau oherwydd y gwarged uwch sydd gan y gronfa ar hyn o bryd.
Ychwanegodd Mr Turner bod yr opsiwn i gynnal y lefel bresennol o risg wedi’i ystyried fel rhan o’r adolygiad ond nodwyd mai bwriad y sbardun oedd ystyried dadrisgio. Cadarnhaodd na fyddai’r cynnig yn lleihau’r enillion disgwyliedig islaw anghenion y gronfa a bod lle o hyd i enillion posibl yn y portffolio wrth symud ymlaen. Dywedodd bod y ddau gam adolygu gyda’i gilydd yn gwella hylifedd, yn cyflymu datgarboneiddio ac yn lleihau risg er mwyn gwella sefydlogrwydd yn y cyllido a thrwy hynny hefyd sefydlogi sefyllfa cyfraniadau’r cyflogwr.
Gofynnodd y Cynghorydd Shallcross a oes unrhyw gamau cyfwerth y gellid eu cymryd i gynyddu risg eto os bydd y lefel gyllido’n disgyn islaw’r trothwy. Dywedodd Mr Turner nad oes sbardun ar gyfer ail risgio’n cael ei gynnig, ond mae hyn ar y rhaglen i’w drafod gan y Gr?p Cyllid a Rheoli Risg a bydd unrhyw argymhelliad yn dod yn ôl i’r Pwyllgor am gytundeb.
Dywedodd y Cynghorydd Wedlake ei fod yn meddwl bod y cynnig yn strategaeth gytbwys sy’n caniatáu i’r gronfa leihau risg a bod â’r rhagolygon gorau o gynnal elw derbyniol. Dywedodd ei fod yn cydnabod pwysau budd-ddeiliaid ond bod yr argymhelliad yn cefnogi cyflogwyr ac aelodau’r cynllun yn yr hirdymor ar yr un pryd a lleihau’r posibilrwydd o fod yn agored i risg diangen.
PENDERFYNWYD:
a) Cytunodd y Pwyllgor ar y cam diofyn arfaethedig i ddadrisgio drwy leihau amlygiad ecwiti i risg 10% ar ôl cyrraedd y sbardun 110%
b) Cytunodd y Pwyllgor ar y diweddariadau i fframwaith y cynllun dirprwyo i weithredu’r sbardun 110% os caiff ei gyrraedd.