Mater - penderfyniadau

Investment Strategy Review and Update to Investment Strategy Statement

16/09/2024 - Investment Strategy Review Phase 1 and Update to Investment Strategy Statement

Aeth Mr Turner o Mercer â’r Pwyllgor drwy’r adroddiad. Eglurodd resymeg a chwmpas yr adolygiad Cam 1, sy’n canolbwyntio ar ffurfioli cynllun i gyrraedd y dyraniad targed i gronfa ecwitïau gweithredol cynaliadwy PPC. Roedd yna hefyd amcan i sicrhau bod cynllun clir a chadarn yn ei le i ddiwallu anghenion hylifedd y gronfa ar gyfer taliadau pensiwn rheolaidd ac i fodloni ymrwymiadau marchnadoedd preifat dros y ddwy flynedd nesaf. Gwnaed hyn gan ystyried sut y gallai newidiadau posibl mewn strategaeth helpu’r Gronfa i wireddu ei hamcanion buddsoddi cyfrifol. 

Eglurodd Mr Turner rai o’r newidiadau posibl mewn strategaeth a oedd yn cael eu hystyried ac amlinellodd y newidiadau arfaethedig i’r dyraniad asedau strategol a’r Datganiad Buddsoddi Strategol (ISS) o ganlyniad i’r adolygiad.

PENDERFYNWYD

Bod y Pwyllgor yn cytuno ar y dyraniad asedau arfaethedig ar gyfer y gronfa ac yn cymeradwyo’r ISS diweddaredig.