Mater - penderfyniadau

Archwilio Cymru - Defnyddio Gwybodaeth am Berfformiad: Persbectif a Chanlyniadau Defnyddwyr Gwasanaeth

13/09/2024 - Audit Wales - Use of Performance Information: Service User Perspective and Outcomes

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol adroddiadi geisio sicrwydd ar ymateb y Cyngor i’r canfyddiadau yn yr archwiliad gan Archwilio Cymru.

Mewn ymateb i’r sylwadau, eglurodd y Prif Swyddog y byddai carreg filltir gynharach i gymeradwyo’r Ymgynghoriad a’r Strategaeth Ymgysylltu yn cael ei gynnwys yn y cynllun gweithredu.

Oherwydd pryderon o ran cadernid y cynllun gweithredu a gwirio data, cytunwyd ar argymhelliad diwygiedig, hefyd yn adlewyrchu’r sylwadau a wnaed gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a anfonwyd ymlaen at y Cabinet.

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynllun gweithredu diwygiedig mewn perthynas â’r argymhellion gwella.