Mater - penderfyniadau
‘Gyda’n Gilydd Fe Aallwn Ni’ - Cydnerthedd a Hunanddibyniaeth Cymunedau
13/09/2024 - ‘Together We Can’ Community Resilience and Self-reliance
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) adroddiad i geisio sicrwydd ar ymateb y Cyngor i’r archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru. Cefnogwyd yr argymhellion, gan nodi bod y Cabinet eisoes wedi derbyn yr adroddiad ac yn cydnabod cyfraniad y sector gwirfoddol i gymunedau Sir y Fflint. |
PENDERFYNWYD: |
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Archwilio Cymru “Gyda’n Gilydd Fe Allwn Ni’ – Cydnerthedd a Hunanddibyniaeth Cymunedau”. (b) bod y Pwyllgor yn nodi’r ymateb a argymhellir mewn perthynas ag argymhellion Archwilio Cymru ac yn cefnogi bod hyn yn cael ei adrodd i’r Pwyllgorau priodol ym mis Mehefin 2024; a (c) Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwaith yr amryw o sefydliadau gwirfoddol ac unigolion ar draws y Sir. |