Mater - penderfyniadau

Review of the Council Tax Premium Scheme

30/10/2024 - Review of the Council Tax Premium Scheme

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd fod gan awdurdodau lleol yng Nghymru bwerau disgresiwn i godi premiwm Treth y Cyngor o hyd at 300% yn uwch na chyfradd safonol ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ac ail gartrefi.

 

Cyflwynodd y Cyngor gynllun premiwm lleol o fis Ebrill 2017 a gosododd gyfradd premiwm o 50% ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.

 

Yn 2021 cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ac ym mis Ebrill 2023 cynyddodd y Cyngor gyfradd y premiwm i 75% ar gyfer eiddo gwag hirdymor a 100% ar ail gartrefi.

 

Yn unol ag argymhellion y Cyngor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024, ymrwymodd y Cabinet i gyflwyno adolygiad o gyfraddau premiwm drwy gomisiynu ymgynghoriad cyhoeddus arall.

 

Felly roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r ystyriaethau allweddol a’r terfynau amser pe byddai’r Cabinet yn dymuno cynnal ymgynghoriad pellach gyda’r nod o amrywio cyfraddau’r premiwm o fis Ebrill 2025.

           

Ychwanegodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael wrth ystyried unrhyw newidiadau i gynllun premiwm treth y Cyngor neu’r lefelau a godir, mae’n rhaid i’r Cyngor roi ystyriaeth ddyledus i ganllawiau Llywodraeth Cymru a oedd yn nodi:

 

Rhaid cadarnhau unrhyw fwriad i amrywio neu ddirymu penderfyniad i gymhwyso premiwm cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi. Hefyd, anogir awdurdodau lleol yn gryf i ymgynghori cyn penderfynu cynyddu premiwm uwchlaw 100% gan wneud hynny o leiaf chwe mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r cynnydd arfaethedig i'r premiwm yn berthnasol iddi. Bydd hyn yn golygu y bydd modd ystyried y premiwm wrth bennu lefelau'r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf a bydd yn rhoi digon o amser i drethdalwyr ystyried effaith premiwm uwch ar eu hamgylchiadau ariannol personol a gwneud dewisiadau ynghylch eu heiddo.

           

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, amlinellwyd terfynau amser a cherrig milltir allweddol ar gyfer adolygiad premiwm treth y Cyngor yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi comisiynu ymgynghoriad cyhoeddus i benderfynu a ddylid amrywio lefelau premiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi o fis Ebrill 2025.