Mater - penderfyniadau
Contextual Safeguarding
02/10/2024 - Contextual Safeguarding
Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Reolwr Tîm gyda’r Gwasanaeth Ymyriadau Cynnar o fewn y Gwasanaethau Plant, a oedd wedi bod yn ymwneud â datblygiad yr ymagwedd Diogelu Cyd-destunol ar gyfer Sir y Fflint. Eglurodd yn gryno mai ymagwedd oedd hon yn ymwneud â diogelu ac amddiffyn pobl ifanc a oedd mewn perygl o niwed teuluol ychwanegol, a oedd yn niwed y tu allan i aelwyd y teulu.
Wrth ymateb i’r Cynghorydd Bateman, dywedodd y Dirprwy Reolwr Tîm, y Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar fod yr ystod oed o 10-25 o’r ymchwil gwreiddiol a wnaed ac wedi ei seilio ar ddatblygiad yr ymennydd nad oedd, eglurodd, hyd at 25 oed wedi datblygu’n llawn. Dywedodd fod y ffocws yn Sir y Fflint ar 18 oed ac y gallai fynd yn is na 10. Cadarnhaodd fod diogelwch ar-lein yn fater cymhleth a’u bod yn gweithio’n agos gyda Sefydliad Lucy Faithful sy’n cynnig cefnogaeth. Cadarnhaodd fod y tîm ar hyn o bryd yn ei chynnwys hi ei hun o’r Gwasanaethau Plant ac asiantaethau partner eraill.
Wrth ymateb i’r Cynghorydd Gladys Healey, dywedodd y Dirprwy Reolwr Tîm, y Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar, yr ymdrinnir ag achosion yn ymwneud â Llinellau Sirol fesul achos yn dibynnu ar lefel y risg a bod rhai unigolion yn cael eu symud allan o’r Sir i leoliad diogel a oedd yn eu galluogi i wneud yr amgylchedd yn fwy diogel ar gyfer pan fyddant yn dychwelyd a hefyd ar gyfer eraill o fewn yr ardal honno.
Wrth ymateb i’r Cynghorydd Hilary McGuill, cadarnhaodd y Dirprwy Reolwr Tîm, y Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar fod y modd roeddent yn ymdrin â chamfanteisio yn dod o Ymchwiliad Rochdale. Eglurodd eu bod yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru o ran diogelwch ar-lein drwy ddarparu gwybodaeth a chuddwybodaeth i’w galluogi i dargedu’r ardaloedd cywir. Roeddent hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Ieuenctid i ddarganfod beth oedd ei angen i dynnu sylw’r bobl ifanc ac roedd eu canfyddiadau’n awgrymu nad oedd y bobl ifanc eisiau clybiau ieuenctid wedi eu trefnu, roeddent eisiau lle cynnes a diogel gyda Wi-Fi lle gallent gyfarfod eu ffrindiau. Ond yn anffodus nid oedd ganddynt yr adnoddau, ond byddent yn defnyddio’r wybodaeth i lunio sail dystiolaeth gydag ychydig o’r gwaith ar wahân a oedd yn digwydd.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi’r datblygiad parhaus a’r dull cydlynol yn ymwneud â diogelu cyd-destunol sy’n gwneud y mwyaf o adnoddau er mwyn galluogi ymagwedd syml ac effeithiol ar gyfer diogelu unigol a chyd-destunol.