Mater - penderfyniadau
Resource and Waste Strategy
30/10/2024 - Resource and Waste Strategy
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio’r adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn cefnogi’r datganiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i’r Sector Cyhoeddus ddod yn sero net erbyn 2030 ac ym mis Rhagfyr 2019, fe gymeradwyodd y Cabinet y cynnig i ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd, a fyddai’n gosod y prif nodau a gweithredoedd ar gyfer creu sefydliad carbon niwtral. Roedd lleihau’r defnydd o bethau na ellir eu hailddefnyddio a’u hailgylchu a chynyddu’r defnydd o’r hyn y gellir ei ailddefnyddio a’i ailgylchu i arbed adnoddau gwerthfawr yn rhan allweddol o gyrraedd sero net.
Roedd y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ddrafft yn nodi’r cyfeiriad strategol i leihau gwastraff ac i ragori ar dargedau ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru. Heb weithredu roedd yr Awdurdod mewn perygl o gael dirwyon gwerth oddeutu £1miliwn am beidio â chyflawni’r targedau hyn yn 2021/2022 a 2022/2023, ynghyd â pherygl o ddirwyon tebyg yn 2023/2024 a thu hwnt.
Roedd y Strategaeth newydd yn arddangos i’r Gweinidog ymrwymiad y Cyngor i wneud y newid. Roedd yr adroddiad hwn yn darparu adborth ar yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ar ddrafft y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ac yn cyflwyno’r strategaeth derfynol i’w hystyried.
Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi lle cafodd ei gefnogi.
Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio fod monitro yn cael ei weithredu os oedd unrhyw gasgliadau’n cael eu methu dro ar ôl tro mewn un ardal. Darparwyd manylion hefyd am yr addysg a ddarperir a’r lefelau gorfodi.
O ran ehangu’r lleoliadau lle gellir derbyn cynwysyddion, eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio yr ymrwymir i hyn yn y strategaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Cydnabod y cynnydd a wnaed ar gyflawni Strategaeth Adnoddau a Gwastraff cadarn ac effeithiol i gwrdd â thargedau sero net, i gyflawni targedau ailgylchu statudol a lleihau’r perygl o dderbyn dirwyon;
(b) Cymeradwyo’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff i gwrdd â thargedau sero net, i gyflawni targedau ailgylchu statudol a lleihau’r perygl o dderbyn dirwyon; a
(c) Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ym mis Mehefin yn amlinellu cyfnod pontio’r Cyngor i fodel casglu gwastraff gweddilliol â chapasiti cyfyngedig.