Mater - penderfyniadau

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24 i gynnwys Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24

04/11/2024 - Annual Performance Report 2023/24 to incorporate the Council Plan End of Year Performance Report 2023/24

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen), a roddodd drosolwg o berfformiad y Cyngor yn erbyn ei Amcanion, Blaenoriaethau ac Is-flaenoriaethau Lles ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/24 Cynllun y Cyngor (2023-28).  Tynnwyd sylw’r Aelodau at adrannau penodol yn yr adroddiad.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24, ar y cyd ag Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24, gan nodi’r perfformiad a gyflawnwyd.