Mater - penderfyniadau

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24 i gynnwys Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24

18/10/2024 - Annual Performance Report 2023/24 to incorporate the Council Plan End of Year Performance Report 2023/24

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Perfformiad Busnes yr adroddiad sy’n nodi dadansoddiad o berfformiad y Cyngor yn erbyn Amcanion Lles, Blaenoriaethau, ac is flaenoriaethau ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/24 Cynllun y Cyngor (2023-28).  Roedd Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn darparu crynodeb o berfformiad hefyd, mewn perthynas â meysydd canolbwyntio eraill y Cyngor, h.y. Gweithgarwch Partneriaeth a Chydweithio, yn ogystal â’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24, wedi’i gyfuno ag adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24, gan nodi’r perfformiad a gyflawnwyd.